Saif Cwrt Mawr ar ben uchaf Campws Penglais, ger neuaddau preswyl Trefloyne a Rosser. Mae gan lawer o'r ystafelloedd hefyd olygfeydd braf ar y dref a'r bae, sydd ryw gwta ddeng munud o dro i ffwrdd ar droed. Mae blociau Cwrt Mawr (band prisio 1) wedi'u hadnewyddu’n ddiweddar i ailwampio'r ceginau. Yn ogystal â'u hail-baentio, maen nhw erbyn hyn yn cynnwys mannau seddi esmwyth, bariau brecwast gyda stolion a chyfarpar newydd i'r gegin.
Llety
Mae Cwrt Mawr yn cynnwys fflatiau o fewn blociau. Mae pob bloc yn cynnwys 6 fflat hunangynhwysol, gyda rhwng 6 a 10 ystafell wely sengl ym mhob un. Bydd gan y preswylwyr gyfleusterau cawod a thai bach sy'n cael eu rhannu, yn ogystal â rhannu cegin a man seddi esmwyth, ac mae basn ymolchi ym mhob un ystafell wely.
Arlwyo
Llety hunanarlwyo yw Cwrt Mawr; mae'r myfyrwyr yn rhannu ceginau mewn fflatiau hunangynhwysol.
Mae Cwrt Mawr wedi’i leoli 5 munud ar droed o archfarchnad CK's, neu gall myfyrwyr siopa yn yr archfarchnadoedd mawr yn y dref.
Ond, os hoffech ddefnyddio ein cyfleusterau arlwyo gallwch roi arian ar eich Cerdyn Aber, neu gall teulu/ffrindiau ychwanegu ato ar eich rhan, i’w ddefnyddio yn unrhyw un o’r bwytai ar y campws – mi gewch ostyngiad o 10% yn ogystal!
Dyma rai o'r brif gyfleusterau Cwrt Mawr:
- Llety hunanarlwyo.
- Cyswllt Di-wifr a Gwifredig.
- Cyfleusterau golchi dillad.
- Gwasanaeth glanhau yn y mannau cyhoeddus tu allan i'ch fflat - mynedfeydd, pen y grisiau, y grisiau a choridorau.
- Mynediad i'r canolfan Ddysgu (Lolfa @ Rosser neu Lolfa @ PJM).
- Storfa feiciau diogel sy’n dal hyd at 60 beic.
- Mannau casglu Sbwriel ac Ailgylchu.
- Parcio (cyfyngedig, rhaid cael trwydded).
- Mae Cynorthwywyr Preswylfa'n darparu cymorth a cyngor.
Cliciwch ar y map i weld union leoliad Cwrt Mawr.
Mae Cwrt Mawr o fewn 5 munud ar droed i:
Sylwer bod rhain yn luniau cynrychiadol o ystafelloedd nodweddiadol yng Nghwrt Mawr. (Cliciwch i weld llun mwy)
Math o Ystafell |
Cost Wythnosol 2019/ 2020
|
Hyd y Drwydded 2019/ 2020
|
Cost Wythnosol 2020/ 2021
|
Hyd y Drwydded 2020/ 2021
|
Sengl |
£95.41 |
39 wythnos* |
£95.41 |
39 wythnos** |
*O 10.00yb ar 20/09/2019 - 10.00yb ar 19/06/2020.
**O 10.00yb ar 18/09/2020 - 10.00yb ar 18/06/2021.
Darganfyddwch beth sydd wedi'i gynnwys yn y Ffioedd Llety