Beth yw Sgiliau Digidol?

Sgiliau digidol yw'r sgiliau, yr wybodaeth a'r arferion sy'n ein galluogi i fyw, dysgu a gweithio'n ddiogel ac yn effeithiol mewn cymdeithas ddigidol.

Mae Fframwaith Galluoedd Digidol Jisc yn nodi’r chwe phrif elfen sy'n ffurfio gwahanol agweddau ar sgiliau digidol unigolyn.

Mae enghreifftiau o sgiliau digidol yn cynnwys:

  • Mabwysiadu dyfeisiau, cymwysiadau, meddalwedd a gwasanaethau newydd
  • Cyrchu, gwerthuso a rhannu gwybodaeth yn effeithiol
  • Defnyddio e-bost a gwasanaethau cyfathrebu digidol eraill
  • Trin data'n briodol a sefydlu arferion diogelwch data da
  • Defnyddio technolegau digidol i ddatblygu syniadau, prosiectau a chyfleoedd newydd
  • Gweithio mewn timau, grwpiau a phrosiectau digidol i gyflawni nodau a rennir
  • Deall sut i ddiogelu eich hun ac eraill er mwyn cadw'n ddiogel yn yr amgylchedd digidol

O ganlyniad i'r pandemig, mae'r amser y mae'r rhan fwyaf ohonom yn ei dreulio ar-lein wedi cynyddu'n sylweddol – drwy weithio, dysgu, addysgu a rhyngweithio ag eraill ar-lein. Rydym hefyd yn gweld technolegau cyfredol yn cael eu disodli gan rai mwy datblygedig.

Mae bod yn ddigidol alluog a hyderus yn bwysig i fyfyrwyr a staff, er mwyn sicrhau y gallant lywio drwy gymdeithas ddigidol sy'n esblygu'n gyson, er mwyn gallu llwyddo yn y gweithle a chystadlu'n llwyddiannus am gyflogaeth yn y dyfodol.