Y Cod Llety Myfyrwyr

Datblygwyd y Cod Llety Myfyrwyr (y Cod) gan Universities UK (UUK) a GuildHE er mwyn Rheoli Llety Myfyrwyr. Mae’n debyg mai ble rydych yn byw yw elfen bwysicaf eich profiad yn y brifysgol, yn enwedig yn y flwyddyn gyntaf. Mae’n dda gwybod, pan symudwch oddi cartref am y tro cyntaf, fod y Cod yno i ddiogelu eich hawliau i gael rhywle diogel i fyw sydd o safon uchel. Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ymrwymo i’r Cod ac mae’n berthnasol i bob un o’n neuaddau.

Mae’r Cod yn amlinellu popeth y dylech ei ddisgwyl yn Llety’r Brifysgol yn ogystal â’ch cyfrifoldebau chithau fel tenant.

Amgylchedd iach, diogel – mae’r cod yn sicrhau bod eich llety’n bodloni’r holl safonau iechyd a diogelwch angenrheidiol.
Gwaith atgyweirio a chynnal a chadw – mae’r cod yn datgan bod y Brifysgol yn gyfrifol am sicrhau bod eich llety mewn cyflwr da a’ch bod yn gwybod sut i roi gwybod am unrhyw broblemau.
Amgylchedd byw glân a dymunol – mae’r cod yn datgan y dylai eich llety ddarparu systemau gwresogi, goleuo, dŵr poeth ac awyru da.
Perthynas ffurfiol, dan gontract â’r landlord – mae’r cod yn datgan y dylai fod gennych, a chithau’n denant, gontract ffurfiol â’r Brifysgol.
Gwasanaethau iechyd a lles – mae’r cod yn datgan y dylai’r Brifysgol roi gwybodaeth a chymorth ynghylch eich iechyd a’ch lles.
Amgylchedd byw heb ymddygiad gwrthgymdeithasol – mae’r cod yn datgan y dylai fod gan y Brifysgol weithdrefnau i helpu i sicrhau bod pawb yn cael eu trin â pharch.

Mae llety sydd wedi ymrwymo i’r Cod yn cael ei archwilio’n annibynnol bob 3 blynedd i sicrhau ei fod yn parhau i fodloni’r safonau uchel. Yn ein harchwiliad diweddaraf, cafodd Prifysgol Aberystwyth sicrwydd sylweddol (y lefel uchaf sydd ar gael)!
Os nad ydych yn meddwl bod eich llety’n cyrraedd y safonau uchel hyn, mae proses i’w dilyn er mwyn unioni hynny. I gael gwybod mwy, ewch i’n tudalen Cod Llety Myfyrwyr.
Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn y mae’r Cod yn ei olygu i’n preswylwyr ar gael yn ein Llawlyfr i Breswylwyr.
Mae fideo rhagarweiniol byr a rhagor o wybodaeth hefyd ar gael ar ein tudalen Cod Llety Myfyrwyr.

UUK Survey

Rydym yn cynnal arolwg ar lety yr adran Breswyl, yn unol â chod ymarfer UUK (Universities UK) ar lety. Bydd yr arolwg hwn yn helpu’r tîm rheoli Preswyl i gasglu data er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn ein neuaddau preswyl yn cael y profiad gorau posib. Trwy gasglu adborth, anelwn at wella ein gwasanaethau yn gyson, gan ddathlu’r agweddau da, ac ymdrin yn effeithiol ag unrhyw feysydd sy'n peri pryder er mwyn gwella'r holl brofiad y mae ein myfyrwyr yn ei gael yn ein llety. Bydd y data a gesglir yn cael ei ddefnyddio gan y tîm rheoli Preswyl a bydd adroddiad yn cael ei lunio a'i rannu â gweithrediaeth y brifysgol.  

Yn unol â'r ddeddfwriaeth Diogelu Data gyfredol, bydd yr hysbysiad hwn yn rhoi gwybod i chi sut y bydd y data personol amdanoch chi’n  cael ei gasglu, ei ddefnyddio a'i ddiogelu. 

Diben casglu’r data

Rydym yn casglu eich ymatebion i gael dealltwriaeth am brofiadau preswylwyr ein neuaddau preswyl. Mae hyn yn cynnwys casglu rhywfaint o wybodaeth ddemograffig i'n helpu i ddeall a oes grwpiau penodol o fyfyrwyr sy’n cael profiadau gwahanol. Mae deall y gwahaniaethau hyn yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau cynhwysol ac effeithiol i bob myfyriwr. 

Defnyddir y wybodaeth er mwyn:  

  • Dod o hyd i unrhyw feysydd o bryder a chyfleoedd i wella. 
  • Gwneud newidiadau ar sail tystiolaeth i wella profiad y myfyriwr. 
  • Dilyn unrhyw dueddiadau a materion sy'n dod i'r amlwg ym mhob rhan o’r gwasanaethau llety. 
  • Rhoi adroddiad am y canlyniadau allweddol i’r Pwyllgor Profiad Myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth. 
  • Bodloni’r gofynion ar gyfer cydymffurfio â Chod Ymarfer Llety Universities UK (UUK). 

 Pa ddata rydyn ni'n ei gasglu 

  • Eich profiadau a'ch barn am y llety. 
  • Eich lefel astudio a’ch a blwyddyn astudio. 
  • Gwybodaeth ddemograffig gan gynnwys oedran; hunaniaeth ryweddol; ethnigrwydd; cenedligrwydd; anabledd/cyflwr iechyd; cyfeiriadedd rhywiol a chrefydd (mae gan bob cwestiwn opsiwn i nodi os byddai’n well gennych beidio â dweud). 

Prosesir y wybodaeth hon ar sail rhwymedigaeth gyfreithiol (Erthygl 6(1)(c)). 

 

Pan gesglir data ar gategorïau arbennig e.e. crefydd, ethnigrwydd, fe fydd  yn cael ei brosesu gyda'ch caniatâd penodol chi (Erthygl 9(2)(a)). Nid oes rhaid i chi ddarparu'r wybodaeth hon, ac mae eich penderfyniad i wneud hynny yn gwbl wirfoddol. 

Cewch dynnu'ch caniatâd i brosesu'r data hwn yn ôl drwy gysylltu â llety@aber.ac.uk.  Ar ôl i’ch cais ein cyrraedd ni, byddwn yn dileu, mewn modd diogel, unrhyw ddata a ddarparwyd gennych a oedd yn seiliedig ar eich caniatâd. 

Diogelwch data a’r hawl i weld data 

Bydd eich ymatebion yn cael eu cadw'n ddiogel ar rwydwaith Prifysgol Aberystwyth a dim ond staff awdurdodedig sy'n ymwneud â’r gwasanaethau llety fydd yn cael ei weld. Bydd unrhyw ganlyniadau cyhoeddedig yn cael eu rhoi ar ffurf ddienw fel  na ellir adnabod unigolion. 

Cadw Data 

Bydd data a gesglir trwy'r arolwg hwn yn cael ei gadw am y cyfnod sy'n angenrheidiol ar gyfer ei ddadansoddi, ac i adrodd ar dueddiadau a rhoi  gwelliannau ar waith; fel arfer ni fydd yn hwy na 3 blynedd. 

Eich hawliau chi 

O dan y gyfraith diogelu data, mae gennych hawliau, yn dibynnu ar ein rheswm dros brosesu’r wybodaeth amdanoch.  

Pan fyddwn yn prosesu’r data personol amdanoch chi ar sail rhwymedigaethau cyfreithiol, mae gennych yr hawl: i weld gwybodaeth bersonol amdanoch, i’w chywiro, ac i gyfyngu ar sut mae’r wybodaeth bersonol amdanoch yn cael ei phrosesu. 

Lle y byddwn yn prosesu’r data personol amdanoch ar sail eich caniatâd, mae gennych yr hawl: i dynnu’ch caniatâd yn ôl (gweler uchod am sut mae gwneud hynny), i weld y wybodaeth bersonol amdanoch, i’w chywiro, i’w dileu ac i gyfyngu ar ei phrosesu, ac i sicrhau cludadwyedd y wybodaeth bersonol amdanoch.  

 Ewch i dudalennau gwe Diogelwch Data y Brifysgol am ragor o wybodaeth am eich hawliau.   

Os ydych yn dymuno arfer unrhyw un o'ch hawliau, cysylltwch â infogovernance@aber.ac.uk   

Rhagor o wybodaeth 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â llety@aber.ac.uk yn y lle cyntaf.  Os ydych yn anfodlon â sut y cafodd y wybodaeth bersonol amdanoch ei phrosesu, gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data y Brifysgol  

Os ydych yn dal yn anfodlon ar ôl gwneud hynny, mae gennych hawl i gysylltu â  Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).