Mynediad

Ystyrir Aberystwyth yn un o'r trefi prifysgol mwyaf diogel a chyfeillgar yn y wlad. Gwnawn bob ymdrech i sicrhau bod eich llety yn ddiogel fel nad oes angen i chi boeni. 

Cardiau Mynediad ac Allweddi

Fe welwch y bydd system gloi diogel wedi’i osod ym mhob ystafell wely, fflat / tŷ ac ar ddrysau bloc. Mae ein preswylfeydd yn amrywio yn y math o system gloi a ddarperir, er enghraifft, mae rhai yn cael eu gweithredu yn unig gyda allwedd (au), rhai gan eich cerdyn Aber / cerdyn Mynediad a rhai gan ffob. 

Mae'r Brifysgol yn eich cynghori gario eich CerdynAber gyda chi bob amser gan nid yw eich cerdyn Aber yn unig yn rhoi mynediad i chi i'ch llety.

Pan fyddwch yn gadael eich llety, boed hynny am gyfnod byr neu gyfnod hir, mae’n rhaid i chi gloi eich drysau a mynd â’ch allweddi gyda chi. Diben hyn yw sicrhau nad oes gan rywun arall fynediad i’ch ystafell a bod eich eiddo’n cael ei gadw’n ddiogel. Os caiff rhywbeth ei ddwyn / difrodi a’ch bod wedi gadael eich drws heb ei gloi, gall eich yswiriant fod yn ddi-rym.

 

 Allweddi wedi'u colli neu ddwyn

Gofynnir ichi arwyddo ar gyfer eich allweddi wrth gyrraedd ac eto wrth ymadael. Rhowch wybod ar unwaith os ydych chi'n colli eich cerdyn mynediad/allwedd neu ffob allwedd. Gall fod angen talu am allweddi/cariau/ffobiau allwedd newydd.

 Cael eich doi allan

Os ydych yn eich cloi eich hun allan, peidiwch â phoeni, cysylltwch â'r Swyddfa Llety, Derbynfa'r Campws neu Linell Gymorth 24/7 Bywys y Campws. Bydd angen ichi brofi pwy ydych er mwyn cael dychwelyd i'r llety. Os byddwch yn cloi eich hun allan fwy na 3 gwaith, bydd gofyn ichi gyfarfod ag aelod o Dîm Rheoli Bywyd y Campws i ddatrys unrhyw broblemau.

Mynediad gan eraill

Weithau, bydd angen i eraill gael mynediad i'ch llety. Cofiwch: disgwylir i staff gario cerdyn adnabod bob amswer. Mae gennych hawl i ofyn am gaek gweld cerdyn adnabod a gallwch wrthod rhoi mynediad i unrhyw un na fydd yn ei ddangos - cysylltwch â'r Swyddfa Llety os bydd hyn yn digwydd.

Mynediad gan staff i'ch llety

Bydd staff yn gorfod cael mynediad i'ch llety ar gyfer archwiliadau, gwiriadau diogelwch ac ymweliadau cynnal a chadw; byddwn yn rhoi gwybod i chi ryw 7 diwrnod ymlaen llaw. Mae nifer fach o achosion lle na fyddwn yn gallu rhoi rhybudd o flaen llaw:

  • Mewn argyfwng megis llifogydd, tân neu amheuaeth o dân.
  • Ymarferion Tân.
  • Os oes ataliad diogelwch wedi cael ei dynnu o ffenestr.
  • Os oes cwyn wedi dod i law ynghylch mater sy'n ymwneud â sŵn, ymddygiad neu broblemau gydag ymwelwyr.
  • Pan roddir gwybod i ni fod myfyriwr yn ysmygu yn yr adeilad neu â chyffuriau anghyfreithlon yn eu meddiant.
  • Os oes mater yn ymwneud â lles neu iechyd diogelwch.
  • Archwilio ystafell wag o ganlyniad i fyfyriwr yn gadael yn ystod y flwyddyn.
  • Pan fydd Cynorthwydd Llety yn dosbarthu rhywbeth neu'n ymweld.

Os oes ystafell wag yn eich fflat efallai y bydd staff yn gorfod mynd i mewn iddi am amryw resymau. Efallai y byddai myfyriwr sy’n newid ystafelloedd eisiau dod i weld yr ystafell cyn symud mewn. Felly, mae na bosibilrwydd y bydd myfyriwr newydd yn dod i fyw i’r ystafell a gallai symud i mewn ar unrhyw adeg. Os yw’r ystafell yn parhau’n wag, efallai y bydd yn rhaid i staff fynd mewn tua diwedd y tymor i wneud archwiliad diwedd cyfnod y drwydded.

Hefyd, mae angen i staff archwilio ystafelloedd gweigion yn wythnosol i wneud prawf Legionella. Oherwydd hynny, os yw’r ystafell yn parhau’n wag, fe fydd rhywun yn dod i archwilio’r ystafell, ond dim ond yr ystafell honno.

Mynediad ar gyfer Gwaith Atgyweirio a Gwaith Cynnal a Chadw Arfaethedig

Os ydych chi wedi rhoi gwybod am nam yn eich llety, bydd angen i gontractwyr allu mynd i mewn i'r ardal er mwyn datrys y broblem. Os na fyddwch yno yn ystod yr ymweliad, bydd cerdyn galw yn cael ei adael i ddweud wrthych a yw'r gwaith wedi'i gwblhau neu os oes angen gwneud rhagor o waith. 

Os ydych chi wedi rhoi gwybod am nam, dylech ddisgwyl ymweliad gan gontractwr o fewn yr amserlen flaenoriaeth. Bydd gwaith adeiladu a chynnal a chadw yn dechrau o 9.30yb (ac eithrio mewn argyfwng). Wrth roi gwybod am waith atgyweirio angenrheidiol rydych yn cydsynio i adael i unigolyn ddod i mewn i'ch ystafell neu'ch fflat i asesu neu wneud y gwaith atgyweirio.