Trwydded Deledu

Mae arnoch angen trwydded deledu er mwyn gwylio neu recordio rhaglenni teledu byw ar unrhyw sianel, neu lawrlwytho neu wylio rhaglenni’r BBC ar iPlayer.

Gallai hyn fod ar unrhyw ddyfais, gan gynnwys teledu, cyfrifiadur bwrdd gwaith, ffôn symudol, llechen, gliniadur, consol gemau, bocs digidol neu recordydd DVD/VHS. Os gwnewch unrhyw un o’r pethau uchod heb drwydded ddilys, byddwch mewn perygl o gael eich erlyn, gan wynebu cosb o hyd at £1,000, yn ogystal ag unrhyw gostau cyfreithiol a/neu iawndal y gorchmynnir ichi eu talu. Bydd yn yn rhaid i chi, hefyd, brynu trwydded deledu os oes angen un arnoch.

I ganfod mwy ewch i tvlicensing.co.uk/studentinfo.

Sut gallaf brynu trwydded deledu?

Mae sawl gwahanol ffordd o brynu trwydded deledu – boed hynny drwy dalu ag arian parod yn wythnosol, defnyddio eich PayPoint agosaf, lledaenu’r gost gyda debyd uniongyrchol bob mis, bob chwarter neu bob blwyddyn, talu â cherdyn credyd/debyd neu dalu drwy’r post. Dewiswch yr un sy’n gweddu orau i chi.

Am ragor o wybodaeth am y ffyrdd o dalu ewch i tvlicensing.co.uk/payinfo.

Os wyf yn byw mewn neuadd breswyl, oni fydd trwydded deledu ar fy nghyfer yn barod?

Mae angen trwydded deledu ar gyfer eich ystafell os oes gennych ddyfais wedi’i chysylltu â’r prif gyflenwad i wylio neu recordio rhaglenni wrth iddynt gael eu dangos ar y teledu neu’n fyw ar wasanaeth teledu ar-lein, neu os ydych yn lawrlwytho neu’n gwylio rhaglenni’r BBC ar iPlayer. Os oes setiau teledu mewn ardaloedd cymunedol, dylech wirio â rheolwr eich neuadd bod trwydded neuaddau wedi’i sicrhau ar eu cyfer.

 

Beth os wyf yn byw mewn tŷ a rennir?

Mae’n fwy na thebyg mai dim ond un drwydded y bydd arnoch ei hangen rhyngoch os oes gennych gytundeb tenantiaeth ar y cyd ar gyfer y tŷ cyfan – dyma’r trefniant mwyaf cyffredin wrth rannu tŷ. Efallai y bydd arnoch angen eich trwydded eich hun os yw eich llety yn hunangynwysedig. Mae hynny’n golygu bod gennych gyfleusterau golchi ar eich cyfer chi eich hun yn unig, neu eich mynedfa eich hun i’r eiddo.

Bydd arnoch angen eich trwydded eich hun hefyd os oes gennych gytundeb tenantiaeth ar wahân ar gyfer eich ystafell eich hun.

Os nad ydych yn sicr, mynnwch gip ar ein cyngor i denantiaid a lletywyr.

Oni fydd trwydded fy rhieni yn ddilys ar fy nghyfer i hefyd?

Ni fydd trwydded eich rhieni yn ddilys ar eich cyfer chi pan fyddwch oddi cartref yn y brifysgol, oni bai mai dim ond dyfais sy’n cael ei phweru gan ei batris mewnol ei hun yn unig yr ydych yn ei defnyddio, ac nad ydyw wedi’i chysylltu â’r prif gyflenwad.

Beth os nad wyf yn y brifysgol yn ystod yr haf?

Os ydych yn gadael eich neuadd neu lety rhent ac yn symud adref am yr haf, mae’n bosibl iawn na fydd arnoch angen eich trwydded deledu os oes un gartref. Gallwch weld ein polisi a gwneud cais am ad-daliad ar-lein.

Beth os nad oes arnaf angen trwydded?

Os nad oes angen trwydded deledu arnoch, rhaid i chi roi gwybod am hynny i TV Trwydded.