Post
Bydd eich post yn cael ei ddosbarthu’n uniongyrchol i’ch bloc, eich fflat neu’ch tŷ. Mae’n hollbwysig bod yr anfonwr yn cynnwys eich cyfeiriad post llawn a chod post. Os na ddefnyddir y cyfeiriad cywir, ni fydd y post yn cael ei ddosbarthu ac fe’i hanfonir yn ôl at yr anfonwr. I gael hyd i'ch cyfeiriad post llawn, dewiswch y neuadd breswyl berthnasol isod:
Nid ydym yn derbyn parseli ar ran myfyrwyr felly, gwnewch yn siŵr bod y cyfeiriad iawn arnynt. Ni fyddwch yn gwybod eich cyfeiriad post llawn nes y diwrnod y byddwch yn symud i mewn – ni allwn ddatgelu eich cyfeiriad yn gynnar o dan unrhyw amgylchiadau. Os yw’r cyfeiriad yn anghywir ar eich parsel neu os yw wedi cael ei ddosbarthu i’r man anghywir bydd angen i chi gysylltu â’r negesydd neu â’r Post Brenhinol yn uniongyrchol – ni fyddwn yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am barseli sydd wedi’u cam-ddosbarthu. Mae hyn yn cynnwys unrhyw barseli sydd wedi cael eu hanfon i’ch hen gyfeiriad mewn camgymeriad.
Bydd parseli’n cael eu dosbarthu gan y Post Brenhinol neu’r cwmni cludo yn uniongyrchol i’ch bloc, eich fflat neu’ch tŷ. Os nad ydych gartref pan fyddant yn galw, fe gewch gerdyn galw yn rhoi manylion ynghylch ble i fynd i gasglu eich parsel. Yn anffodus, ni allwn dderbyn parseli ar eich rhan. Fodd bynnag, os ydych chi'n archebu oddi wrth Amazon gallwch drefnu i’ch parsel cael ei danfon i’r loceri ar lawr waelod adeilad yr Undeb.
Bydd unrhyw bost sy’n cyrraedd ar ôl i chi symud allan yn cael ei anfon yn ôl at yr anfonwr.