Cais Trosglwyddo

O'n profiad ni, unwaith y bydd myfyrwyr wedi cyrraedd a chael cyfle i ymgartrefu yn y llety, dechrau gwneud ffrindiau newydd, ac wedi ymgyfarwyddo ychydig â'u cartref newydd, does ganddynt ddim awydd symud. Fodd bynnag, os ydych yn dymuno symud ystafelloedd, yna bydd angen i chi wneud cais i drosglwyddo i lety arall y Brifysgol.
Mae hwn yn wasanaeth am ddim felly nid oes ffi drosglwyddo, ond gall ffioedd llety newid yn dibynnu ar y math o lety rydych yn trosglwyddo iddo. Cyfeiriwch at ein dudalen ffioedd llety
Manylion y trosglwyddiad
Os ydych chi'n dymuno trosglwyddo i llety arall yn y Brifysgol, mae'n ofynnol i chi lenwi ffurflen gais Trosglwyddo. Rhaid cwblhau a chyflwyno hyn, yn bersonol, i'r Swyddfa Llety a leolir yn Y Sgubor, Fferm Penglais.
Nid yw llenwi’r ffurflen symud yn gwarantu y byddwch chi’n symud llety, ac mae’n rhaid i bob cais gael ei ystyried i ddechrau gan y Swyddfa Llety. Bydd y ffurflenni’n cael eu prosesu yn nhrefn y dyddiad a’r amser y’u cyflwynir, ond mae’n bosib y rhoddir blaenoriaeth mewn amgylchiadau arbennig. Yna, bydd symud llety yn amodol ar y ffaith bod lleoedd addas gwag ar gael yn y llety a ddewiswyd gennych. Felly, nid oes unrhyw raddfeydd amser ar ba mor hir y gallai eich trosglwyddiad ei gymryd.
Sut i wneud cais i symud llety:
- Lawr lwythwch Ffurflen Cais i Symud Llety (ddim are gael ar hyn o bryd) ) neu casglwch un o’r Swyddfa Llety
- Gofynnwn i chi atodi unrhyw ddogfennau ategol h.y. llythyr gan ddoctor, tiwtor personol, ac yn y blaen, i’r Ffurflen Cais i Symud Llety
- Ar ôl ei llenwi dychwelwch eich ffurflen cais i’r Swyddfa Llety yn bersonol. Ni fyddwn yn derbyn ffurflenni a anfonir yn electronig.
- Os oes lle addas ar gael, bydd y Swyddfa Llety yn cysylltu â chi drwy e-bost. Gofynnwn i chi edrych ar eich cyfrif e-bost Prifysgol Aberystwyth yn rheolaidd.
Derbyn eich cais i drosglwyddo
Cam 1 - Cynnig Newydd
Cam 2 - Derbyn eich cynnig
Cam 3 - Casglu eich goriad
Cam 4 - Dychwelyd eich goriad
Gwybodaeth bwysig
- Cyn gynted ag y byddwch yn derbyn e-bost gan y Swyddfa Llety yn cynnig ystafell arall, rhaid i chi symud o fewn 48 awr. Os nad fyddwch yn symud o fewn yr amser hwn bydd y Swyddfa Llety yn tynnu’r cynnig o symud yn ôl ac ni fyddwch bellach yn cael eich ystyried ar gyfer symud. Os ydych yn dal i fod eisiau symud llety, bydd angen i chi wneud cais eto.
- Nodwch mai dim ond o Ddydd Llun i Ddydd Gwener rhwng 9.00yb a 5.30yp y cewch symud.
- Pan fyddwch yn gadael eich ystafell mae'n rhaid i chi lanhau'r ystafell i safon foddhaol neu efallai y bydd rhaid i chi dalu costau glanhau ychwanegol. Byddwn yn cynnal archwiliad ar ôl i chi adael i sicrhau bod yr ystafell yr ydych yn symud allan ohoni yn lân ac nad ydy hi wedi cael ei difrodi mewn unrhyw ffordd. Os bydd rhaid i chi dalu costau difrod/glanhau byddwch yn cael anfoneb am y cyfanswm neu bydd y costau yn cael eu tynnu o’ch ernes.
- Os nad ydych yn dychwelyd yr allwedd ar gyfer eich hen ystafell erbyn 5.30yp ar y diwrnod y byddwch yn symud, bydd rhaid ichi dalu’r gyfradd nosweithiol ar gyfer y ddwy ystafell. Gweler ein Ffioedd Llety am fanylion pellach.
- Os nad ydych yn dychwelyd allwedd eich hen ystafell bydd rhaid talu £30 am bob allwedd.
- Os nad ydych chi bellach eisiau symud, dylech roi gwybod i’r Swyddfa Llety ar y cyfle cyntaf.
- Cysylltwch â’r Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr os hoffech drafod unrhyw faterion bugeiliol neu les â hwy cyn llenwi’r ffurflen ‘Cais i Symud Llety’.