Amseroedd gwresogi:
7:00am – 11:00pm
Dim ond pan fydd y synwyryddion tymheredd yn yr adeilad yn is na 21 ͦC yn ystod y dydd y bydd y rheiddiaduron yn dod ymlaen - rhwng 7am ac 11pm.
Os yw'r tymheredd yn yr adeilad yn mynd yn is na 17 ͦC yn y nos - bydd y gwres yn dod ymlaen yn awtomatig.
Rhaid i chi sicrhau bod y rheiddiaduron wedi’u troi ymlaen yn y falf neu ni fyddant yn dod ymlaen.
Gallwch reoleiddio'r tymheredd yn eich ystafell wely drwy addasu'r FRT (Falf Rheiddiadur Thermostatig) sydd wrth ochr eich rheiddiadur (gweler y llun isod)

Darperir dŵr poeth 24/7.
Rheolyddion gwresogi (dechrau optimwm):
Ar gyfer y cyfnod cyntaf yn y bore, mae gan neuaddau’r brifysgol system dechrau cynnar o’r enw ‘dechrau optimwm’. Bydd rheolydd yn cyfrifo’r amseroedd y bydd angen i’r gwres ddod ymlaen er mwyn rhag-wresogi’r adeilad i’r tymereddau arferol. Mae’r cyfrifiadau’n seiliedig ar y tymereddau allanol. Felly, ar ddiwrnodau oer, mae’n bosibl y daw'r gwres ymlaen yn gynharach.
Rheolyddion gwresogi (tymereddau dŵr poeth newidiol):
Mae’r tymheredd allanol yn rheoli tymheredd y dŵr sy’n llifo i’r rheiddiaduron – os yw’n oer y tu allan, bydd y rheiddiadur yn rhedeg ar dymheredd poethach. Mae hyn oherwydd bod y gwres y mae ystafell yn ei golli’n amrywio yn ôl y tymheredd y tu allan. O ganlyniad, weithiau gall y rheiddiaduron deimlo’n llugoer neu’n oer.