Atafaelu Eitemau

Er lles iechyd a diogelwch bob preswylydd, os byddwn yn dod o hyd i eitem a ystyrir yn beryglus a/neu’n waharddedig yn eich llety, bydd aelod o’r tîm Preswylfeydd yn mynd â’r eitem oddi yno – ei atafaelu. Gwelwch Atotiad 4 o’r Llawlyfr Llety am rhestr o’r eitemau gwaharddedig.

 

Os yw eitem / eitemau yn cael eu cymryd o’ch llety, bydd derbynneb yn cael ei adael yn nodi: eich cyfeiriad prifysgol, y dyddiad / amser y cafodd ei gymryd, disgrifiad o’r eitem(au), y rheswm am ei atafaelu, enw a llofnod y myfyriwr (os yw’r myfyriwr yn bresennol ar y pryd), enw a llofnod yr aelod staff. Byddwch hefyd yn derbyn neges e-bost ddilynol oddi wrth y tîm Preswylfeydd yn cadarnhau’r sefyllfa.

Bydd y tîm Preswylfeydd yn cadw’r eitem(au) ac mi fyddant ar gael i chi eu gasglu o’r Swyddfa Llety yn Y Sgubor, Fferm Penglais  (8.30yb - 5.00yp dydd Llun i ddydd Iau a 8.30yb - 4.30yp dydd Gwener) ar ddiwedd eich Contract Meddiannaeth, oni bai bod trefniadau gwahanol wedi’i cytuno arnynt gyda’r tîm Preswylfeydd.

Os na fyddwch wedi casglu’r eitem(au) 7 diwrnod ar ôl diwedd eich Contract Meddiannaeth ,neu’r dyddiad sydd wedi’i gytuno arno fel arall, mi fydd yr eitem(au) yn cael ei waredu yn unol â hynny.