Cais i defnyddio Zoom

Microsoft teams yw'r rhaglen sy'n cydymffurfio â Rheolau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) y brifysgol a gefnogir gan IS ac sydd ar gael i staff a myfyrwyr ar gyfer galwadau fideo, cyfarfodydd ar-lein ac addysgu. Ni ddylid cynnal unrhyw drafodaethau sy'n ymwneud â data personol y tu allan i'r rhaglen yma.

Mae mwy o fanylion am Microsoft Teams ar gael yma: https://www.aber.ac.uk/cy/is/it-services/microsoftteams/


Ni ddylid defnyddio Zoom ar gyfer gweithgareddau addysgu a dim ond pan fydd mynychwyr nad ydynt yn gallu ymuno trwy Teams y dylid ei ddefnyddio.

 

Gall staff a myfyrwyr fewngofnodi i Zoom gyda'u cyfrif Prifysgol Aberystwyth sydd â thrwydded sylfaenol.