Mae holl fyfyrwyr a staff Prifysgol Aberystwyth yn mwynhau mynediad diderfyn am ddim i LinkedIn Learning, llwyfan ar-lein sy'n cynnig miloedd o gyrsiau dan arweiniad arbenigwyr sy'n addas ar gyfer pob lefel, o ddechreuwyr i lefel uwch. Gyda LinkedIn Learning, gallwch ddatblygu ystod eang o sgiliau, o ddefnyddio offer DA a chyflwyno yn hyderus i feistroli meddalwedd newydd, gan gynnwys ieithoedd rhaglennu amrywiol a chymwysiadau Microsoft.

 

Cychwyn arni

Mewngofnodwch i LinkedIn Learning (mewngofnodwch gyda’ch e-bost a’ch cyfrinair PA

 

Rydym wedi llunio cwrs byr rhyngweithiol i'ch helpu i fynd drwy'r broses o ddechrau arni gyda LinkedIn Learning. Byddwch yn dysgu sut i:

  • Gysylltu eich cyfrif LinkedIn personol gyda LinkedIn Learning
  • Chwilio am gynnwys
  • Cwblhewch eich cwrs cyntaf

Gallwch hefyd ddysgu sut i fanteisio i’r eithaf ar LinkedIn Learning o'r sesiwn Dechrau Arni gyda LinkedIn Learning yng Ngŵyl Sgiliau Digidol '23

 

Nodweddion Defnyddiol

Datblygu eich Sgiliau Digidol

I'ch helpu i ddod o hyd i gyrsiau ar LinkedIn Learning a fydd yn gwella eich sgiliau digidol, o les digidol i hyfedredd gyda meddalwedd allweddol, rydym wedi curadu 15 o Gasgliadau Sgiliau Digidol i'ch helpu i ddechrau arni.

Casgliadau Sgiliau Digidol i Fyfyrwyr

Casgliadau Sgiliau Digidol i Staff

Beth yw barn myfyrwyr am LinkedIn Learning?

Neidiwch i fersiwn testun o'r ffeithlun

Beth yw barn myfyrwyr Aberystwyth am LinkedIn Learning?

Beth oedd eich cymhelliad i gofrestru ar LinkedIn Learning?

  • "Roedd gen i ddiddordeb mewn astudio pynciau y tu hwnt i fy maes i"
  • "Am ei fod am ddim i fyfyrwyr prifysgol"
  • "Cael cyngor gan bobl sydd yn y diwydiant yn barod"
  • "Oherwydd gallai derbyn tystysgrif y gallech chi ei chyhoeddi ar eich profil LinkedIn am gwblhau cyrsiau wella eich cyflogadwyedd"
  • "Datblygu sgiliau gyrfa yn fy mlwyddyn olaf"
  • "Oherwydd ei fod mor hawdd ei ddefnyddio"

Pa gynnwys wylioch chi neu wrandoch chi arno?

  • "Menywod yn y gweithle"
  • "Dadansoddi data"
  • "awgrymiadau cyfweliad"
  • "Ymwybyddiaeth feddylgar"
  • "Meithrin a chynllunio gyrfa"
  • "Meithrin tîm"
  • "Arweinyddiaeth a rheoli"
  • “Amrywiaeth a chynhwysiant"
  • "Meddwl strategol"
  • "Ysgrifennu creadigol"
  • "Cyfrifiadura cwmwl a pheirianneg meddalwedd"
  • "Iaith raglennu Java"
  • "Cefnogaeth gyda meddalwedd Microsoft fel Excel"
  • "Technegau gwerthu"

Ydy’r cynnwys yn berthnasol i chi fel myfyriwr?

  • "Ydy, gan fod llawer o bynciau y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth yr hoffech chi eu cwmpasu a dyna lle mae LinkedIn Learning yn ddefnyddiol"
  • "Mae’n ymwneud mwy â symud ymlaen at yrfa ar ôl gadael y brifysgol. Mae’n dda bod ar y blaen a chael syniad o sut beth yw astudiaethau gyrfa"
  • "Mae llawer o gymorth a chyngor cyffredinol sy’n arbennig o ddefnyddiol i fyfyrwyr sydd heb ddigon o amser neu ddim am ddilyn sgiliau astudio neu bwnc penodol gyda darlithydd"
  • "Rwyf i wedi dod ar draws cynnwys sy’n ymwneud â fy ngradd"
  • "Rwy’n credu y byddai pobl yn ei gael yn ddefnyddiol os ydyn nhw’n dilyn interniaethau gan ei fod yn ddefnyddiol ar gyfer paratoi at waith"
  • Ydy, i fyfyrwyr a darlithwyr."

Ydych chi’n ei gael yn haws ei ddefnyddio a llywio drwyddo?

  • "Mae’n hawdd ei ddefnyddio a llywio drwyddo, does dim byd yn gymhleth"
  • "Mae’r dewislenni a nodweddion eraill rhyngwyneb y defnyddiwr yn fanwl iawn ac yn hawdd llywio drwyddynt"
  • "I mi mae LinkedIn Learning llawer yn fwy coeth [na phlatfformau eraill] ac mae rhyngwyneb y defnyddiwr yn llawer mwy cyfeillgar"
  • "Y ffaith ei fod mor hawdd ei ddefnyddio yw un o’r rhesymau y penderfynais i gofrestru"

Pam fyddech chi’n argymell LinkedIn Learning i fyfyrwyr eraill?

  • "Oherwydd does dim byd i’w golli, a gallwch chi wastad ddysgu rhywbeth newydd"
  • "Mae ansawdd y cwrs yn uchel iawn. Mae’n trosglwyddo gwybodaeth gan weithwyr proffesiynol yn gyflym- does dim byd gwell"
  • "Mae’n adnodd gwirioneddol ddefnyddiol i’w gael y tu allan i’r dosbarth"
  • "Mae’n ffurf drefnus ar ddysgu sydd ddim i’w chael yn unman arall"
  • "Rhoddodd gipolwg newydd i fi ar bethau nad oeddwn i wedi’u dysgu yn y Brifysgol"

Cynhyrchwyd gan y Pencampwyr Digidol Myfyrwyr. Tîm Sgiliau Digidol (digi@aber.ac.uk).

Cymorth a Chwestiynau Cyffredin

Cymorth i fyfyrwyr a staff

I gael cymorth wrth ddefnyddio LinkedIn Learning neu i ddod o hyd i gyrsiau perthnasol, gallwch:  

  • E-bostio eich ymholiadau at y Tîm Sgiliau Digidol (digi@aber.ac.uk)  
  • Archebwch sesiwn 1-1 gydag aelod o'r Tîm Sgiliau Digidol  

Am unrhyw gymorth technegol gyda'r broses o fewngofnodi i LinkedIn Learning, cysylltwch â’r Ddesg Gwasanaeth GG.  

Cwestiynau Cyffredin

Dyma ddetholiad o'r prif Gwestiynau Cyffredin i roi cymorth i fyfyrwyr a staff wrth ddefnyddio LinkedIn Learning.  Gellir dod o hyd i’r rhestr lawn ar brif dudalen y Cwestiynau Cyffredin.

Defnyddio LinkedIn Learning

Defnyddio

Cymorth

Cymorth Dysgu