Myfyrwyr sy'n defnyddio'r Offeryn Darganfod Digidol yn annibynnol

Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr Blwyddyn Sylfaen a Blwyddyn 1 yn cael cyfle i gwblhau'r Offeryn Darganfod Digidol ac i drafod eu hadroddiadau unigol gyda'u hadrannau. Os nad ydych wedi cael cynnig y cyfle hwn, dilynwch y camau isod.

Bydd cefnogaeth i fyfyrwyr Israddedig ac Ôl-raddedig eraill ddefnyddio'r Offeryn Darganfod Digidol o 2023/24 ymlaen, ond mae croeso mawr i chi ei ddefnyddio nawr, a byddwn yn argymell eich bod yn dilyn y camau isod.

Cam 1: Agor a chwblhau'r Offeryn Darganfod Digidol

Mewngofnodi i'r Offeryn Darganfod Digidol

Gwyliwch y fideo isod i ddysgu rhagor am yr Offeryn Darganfod Digidol ac i wybod pa gyfres o gwestiynau i'w chwblhau:

Cwestiwn Cyffredin: Pa gyfres o gwestiynau ddylwn i ei hateb yn yr Offeryn Darganfod Digidol?

Os oes angen unrhyw gymorth arnoch i gael mynediad at neu gwblhau'r Offeryn Darganfod Digidol, cysylltwch â'ch Llyfrgellydd Pwnc, drwy ebostio llyfrgellwyr@aber.ac.uk neu drwy'r calendr apwyntiadau ar-lein.

Cam 2: Darllen eich adroddiad

Ar ôl ichi gwblhau'r holiadur hunan-asesu, byddwch yn derbyn eich adroddiad Offeryn Darganfod Digidol. Bydd yr adroddiad yn cynnwys:

  • Trosolwg o'ch proffil digidol
  • Camau a awgrymir i'w cymryd
  • Dolenni at adnoddau defnyddiol, a fydd yn cefnogi datblygiad pob gallu unigol

Cymerwch amser i ddarllen eich adroddiad, gan ei ddefnyddio i'ch helpu adnabod eich galluoedd digidol ac i ystyried pa rai ohonynt yr hoffech eu datblygu ymhellach. Efallai y byddwch yn dewis galluoedd sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'ch cynlluniau chi ar gyfer y dyfodol, eich astudiaethau, neu efallai y byddwch yn dewis galluoedd mewn maes y mae gennych ddiddordeb mewn archwilio a datblygu ymhellach. 

Dyma fideo byr sy'n esbonio rhagor am eich adroddiad: 

Cam 3: Creu cynllun gweithredu

I'ch helpu chi benderfynu pa alluoedd digidol rydych chi'n mynd i'w datblygu ymhellach, a sut y byddwch yn mynd ati, rydym yn argymell eich bod yn lawrlwytho a chwblhau'r cynllun gweithredu isod.

Cynllun gweithredu'r Offeryn Darganfod Digidol i fyfyrwyr

Cyngor: Defnyddiwch yr adborth gawsoch yn eich adroddiad i'ch helpu greu eich cynllun gweithredu. Mae'r adroddiad yn cynnwys adborth gwerthfawr ar sut i ehangu eich galluoedd digidol ym mhob maes allweddol, gan argymell camau i chi eu cymryd yn seiliedig ar eich atebion a'ch sgoriau hyfedredd. Gall awgrymiadau'r adroddiad gynnwys cwblhau cwrs e-ddysgu, cynnal arolwg neu greu canllaw eich hun.

Os hoffech drafod eich adroddiad Offeryn Darganfod Digidol personol mewn rhagor o fanylder, gallwch gysylltu â'ch Llyfrgellydd Pwnc neu'ch Cynghorydd Gyrfaoedd adrannol. 

Cam 4: Archwilio'r Banc Adnoddau

Cewch hefyd awgrymiadau am ragor o adnoddau i'ch helpu ym Manc Adnoddau'r Offeryn Darganfod sydd i'w ganfod o brif dudalen yr Offeryn Darganfod Digidol.

Dyma fideo byr sy'n esbonio am y Banc Adnoddau:

Cam 5: Ail-gymryd yr Offeryn Darganfod Digidol

Gallwch ail-gymryd yr Offeryn Darganfod Digidol ar unrhyw adeg, a byddem yn annog bod pob myfyriwr a staff yn ail-gymryd yr Offeryn Darganfod Digidol bob blwyddyn.

Pam? Mae ailadrodd yr un gyfres o gwestiynau yn caniatáu ichi weld sut mae eich galluoedd digidol wedi newid dros amser, yn enwedig os ydych wedi bod yn gweithio ar wella meysydd penodol.

Ar ôl ichi gwblhau'r un gyfres o gwestiynau fwy nag unwaith, gallwch gymharu'r canlyniadau o'ch adroddiadau.

Cwestiwn Cyffredin: Sut ydw i'n cymharu adroddiadau o'r ODD?

Cymorth

Os hoffech drafod eich adroddiad Offeryn Darganfod Digidol personol mewn rhagor o fanylder, gallwch gysylltu â'ch Llyfrgellydd Pwnc neu'ch Cynghorydd Gyrfaoedd adrannol.