Golchi Dillad

Mae golchi eich dillad yn neuaddau’r Brifysgol yn hawdd.
Gweler isod am fwy o wybodaeth.
Lleoliadau Golchdai A Mynediad
Mae gan holl breswylwyr Prifysgol Aberystwyth fynediad i'r golchdai drwy eu Cerdyn Aber. Mae yna olchdai yn:
- Cwrt Mawr - (wrth ymyl Bloc B)
- Penbryn – (rhwng blociau 1 a 3)
- Rosser / Trefloyne (y tu allan i Rosser C)
- Rosser G (ar y llawr cyntaf)
At ddefnydd preswylwyr Rosser G yn unig - Bloc Cyfleusterau PJM
- Pantycelyn (y tu allan, gyferbyn â'r storfeydd biniau)
At ddefnydd preswylwyr Pantycelyn yn unig - Fferm Penglais – ‘Golchdy 1 – (yn Y Sgubor)
- Fferm Penglais – ‘Golchdy 2 – (gyferbyn â Bloc 14)
- Fferm Penglais – ‘Golchdy 3 – (ger Bloc 13)
Os hoffech ddefnyddio’r lifft i gael mynediad i’r golchdy yn Y Sgubor, Fferm Penglais, cysylltwch â’r Swyddfa Llety.
Sut i Dalu
Mae gan Circuit Go ddwy ffordd syml i chi dalu am olchi eich dillad –
- Drwy ap Circuit Go ar eich ffôn Apple neu Android
- Drwy dapio'r derfynell ddi-gyswllt neu osod eich cerdyn o dan y darllenydd yn y golchdy.
Mae ap Circuit Go yn ffordd wych o dalu, cadw golwg ar eich derbynebau, cael cymorth pan fo angen, gwirio argaeledd peiriant a'i archebu – o'ch ystafell!
- Lawrlwythwch ‘Circuit Go’ i'ch ffôn clyfar o ‘Google Play’ neu'r ‘App Store’.
- Agorwch yr ap, a thapiwch ‘create a new user’. Rhowch eich enw a'ch rhif ffôn, yna gwnewch god PIN.
- Pan fyddwch chi'n creu defnyddiwr, anfonir cod untro 6 digid atoch drwy neges destun. Mae'n rhaid i chi ei nodi i gadarnhau eich rhif ffôn.
- I ddefnyddio Circuit Go, bydd angen cerdyn talu dilys arnoch. Mae Circuit Go yn derbyn Visa, MasterCard, Discover, JBC, American Express, Google Pay, Apple Pay, iDEAL, a Bancontact.
Ar ôl ei sefydlu - cliciwch ‘Find laundry room’ a chwiliwch am y golchdy agosaf atoch chi
- Pantycelyn
- Cwrt Mawr
- Penbryn
- Rosser / Trefloyne
- Rosser G
- Pentre Jane Morgan
- Fferm Penglais – Golchdy 1
- Fferm Penglais – Golchdy 2
- Fferm Penglais – Golchdy 3
Os yw'n well gennych beidio â thalu trwy'r ap, gallwch dalu'n ddi-gyswllt gyda cherdyn neu ddyfais glyfar ar derfynell Circuit Go sydd wedi'i gosod ar y wal. Rhowch eich cyfeiriad e-bost ar ôl talu i dderbyn hysbysiadau a derbynebau.
Gellir dod o hyd i brisiau golchi a sychu ar beiriannau unigol, fodd bynnag, er mwyn rhoi syniad i chi o gostau, mae golch safonol yn costio £2.50, tra bod sychu safonol yn £1.30 am 60 munud.
Golchi
- Ychwanegwch lanedydd. Argymhellir defnyddio pod-lanedydd, ond gallwch ddefnyddio powdr neu hylif os yw'n well gennych.
- Llwythwch y peiriant. Peidiwch â gorlwytho na thanlwytho'r peiriant. Argymhellir tua 75% yn llawn.
- Dewiswch y cylch priodol ar gyfer eich golch. (Gwiriwch eich labeli gofal!)
- Gwnewch Daliad (Trwy'r ap neu'r derfynell ddi-gyswllt)
- Cadarnhewch y cylch.
- Pwyswch “GO” ac ymlaciwch!
Gwnewch yn siŵr bod eich dillad wedi'u gwahanu'n iawn (yn bwysicaf oll, dillad lliw tywyll oddi wrth ddillad lliw golau!) I gael golch llwyddiannus - darllenwch y wybodaeth ar labeli eich dillad a dilynwch y canllawiau cylch ar y peiriannau golchi.
Sychu
- Llwythwch y sychwr. Sychwch un llwyth yn unig ar y tro. Ni fydd dillad yn sychu os yw'r sychwr wedi'i orlwytho.
- Dewiswch y cylch priodol. (Gwiriwch eich labeli gofal!)
- Gwnewch daliad (Trwy'r ap neu'r derfynell ddi-gyswllt)
- Cadarnhewch y cylch.
- Pwyswch “GO” ac ymlaciwch!
DILLAD YN DAL I DDOD ALLAN YN WLYB?
Mae'r peiriannau sydd wedi'u gosod ar draws campws Aberystwyth wedi'u cynllunio i ailddosbarthu'r llwyth os yw'n anwastad. Pan fydd peiriant wedi'i orlwytho neu ei danlwytho, mae hyn yn anoddach i'w gyflawni, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn y sticeri canllaw llwyth ar bob peiriant.
Mae dewis y cylch cywir ar y peiriannau golchi a'r sychwyr dillad yn hanfodol i sicrhau sychder effeithiol. Efallai na fydd cylchoedd sychu 60 munud yn ddigon o amser i sychu eitemau fel jîns, tywelion ac ati. Efallai y bydd angen ychwanegu 10 neu 20 munud. Gellir gwneud hynny unrhyw bryd yn ystod y cyfnod sychu.
Glanhewch yr hidlydd cyn ac ar ôl defnyddio'r sychwyr dillad. Gellir dod o hyd i'r hidlydd ar flaen ffrâm y drws ar ôl i chi agor y sychwr.
Namau
Mae angen rhoi gwybod am ddiffygion drwy ffonio'r llinell gymorth 0800 092 4068 neu os ydych chi'n defnyddio ffôn symudol, drwy ffonio 01422 820040. Os oes ffôn yn eich golchdy, codwch y derbynydd a bydd yn deialu'n uniongyrchol i Ddesg Gymorth Circuit. Gallwch hefyd gofnodi nam drwy'ch ap o dan ‘settings > support’. Wrth gofnodi nam - rhowch enw a rhif y safle sydd ar sticer goch ar wal y golchdy.
Gellir rhoi gwybod am ddiffygion ar-lein hefyd ar wefan Circuit Laundry Report a Fault RMaent yn ymdrechu i ateb pob galwad o fewn 24 awr.
Am gyngor pellach, awgrymiadau defnyddiol, cymorth gyda'r ap neu wybodaeth ar sut i gael ad-daliad, ewch i dudalen Cwestiynau Cyffredin Circuit – https://www.circuit.co.uk/help-support/faqs/