Gwastraff ac Ailgylchu

Cymru yw'r ail genedl ailgylchu orau yn y byd. Drwy gydweithio, gallwn gyrraedd Rhif 1!
Ym mis Ebrill 2024 cyflwynodd Llywodraeth Cymru'r Ddeddfwriaeth Ailgylchu. Mae'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i bob gweithle, gan gynnwys busnesau, cyrff cyhoeddus a'r trydydd sector, wahanu deunyddiau ailgylchadwy oddi wrth eu gwastraff cyffredinol.
Bydd eich ymdrechion i ddidoli eich gwastraff yn gywir yn cyfrannu at nod cynaliadwyedd y Brifysgol ac yn helpu i wella ansawdd deunyddiau ailgylchadwy.
Mae yna ardal ailgylchu ym mhob cegin gyda'r canllaw canlynol……….
- Dilynwch y canllaw a gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio'r bin cywir.
- Rhaid i bob eitem ailgylchadwy fod yn lân ac yn sych.
- Gweithiwch gyda'ch gilydd, rhannwch y gwaith tŷ, a gwagiwch eich biniau'n rheolaidd.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio'r bin cyfatebol yn eich storfa biniau allanol.
- Mae bagiau ailgylchu a bagiau gwastraff bwyd ar gael yn y Swyddfa Llety - Y Sgubor, Fferm Penglais. Bydd angen i chi brynu eich bagiau gwastraff cyffredinol du eich hun.
- Peidiwch â defnyddio'r bagiau ailgylchu ar gyfer gwastraff cyffredinol.