Amser o'r gwaith i Ofalu am Ddibynyddion
Amser o'r gwaith mewn argyfwng i ofalu am bobl ddibynnol
Amser o'r gwaith mewn argyfwng i ymdrin ag amgylchiadau dirybudd a/neu annisgwyl
Diffiniadau
Adolygu'r polisi
Y Gymraeg – Hawliau Gweithwyr
2. Amser o'r gwaith mewn argyfwng i ofalu am bobl ddibynnol
Mae gan weithwyr yr hawl i gymryd cyfnod rhesymol o amser o’r gwaith heb dâl i ymdrin ag argyfyngau annisgwyl neu ddirybudd sy’n ymwneud â gofalu am berson dibynnol. Rhoddir tâl am y 3 diwrnod cyntaf o absenoldeb o’r fath mewn blwyddyn dreigl.
Mae polisi’r Brifysgol yn y maes hwn yn seiliedig ar yr hawl statudol (adran 57A Deddf Hawliau Cyflogaeth 1996, fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Cysylltiadau Cyflogaeth 1999, a ddaeth i rym ar 15 Rhagfyr 1999) i gymryd amser o’r gwaith i ofalu am berson dibynnol.
2.1 Pwy sy’n gymwys
2.1.1 Mae amser o’r gwaith mewn argyfwng i ofalu am bobl ddibynnol yn berthnasol i bob gweithiwr, gan gynnwys y rheini sydd ar gontractau cyfnod penodol a rhan-amser. Nid yw’n berthnasol, fodd bynnag, i’r rheini sy’n hunangyflogedig e.e. contractwyr ac ymgynghorwyr.
2.1.2 Nid oes yn rhaid i weithwyr gwblhau cyfnod cymhwyso cyn gallu cymryd amser o’r gwaith mewn argyfwng.
2.1.3 Rhaid i’r gweithiwr ofyn am gymeradwyaeth Pennaeth yr Adran neu gynrychiolydd a enwebwyd ganddo cyn gynted ag sy’n bosibl. Yn achos argyfwng pan mae’n amhosibl cysylltu â’r rheolwr llinell priodol, dylai’r gweithiwr roi gwybod am ei absenoldeb i aelod arall o staff yr adran a gofyn iddo gyfleu’r neges i’r person priodol.
2.2 Diffinio argyfyngau annisgwyl neu ddirybudd
2.2.1 Gall problemau annisgwyl neu ddirybudd gynnwys:
person dibynnol yn cael ei daro’n wael neu’n cael ei anafu ymdrin ag amhariad neu fethiant annisgwyl yn y trefniadau gofal arferol ar gyfer person dibynnol e.e. os nad yw’r gwarchodwr plant neu’r nyrs yn cyrraedd ymdrin â digwyddiad annisgwyl sy’n ymwneud â pherson dibynnol cysuro neu helpu person dibynnol yr ymosodwyd arno ond na chafodd ei anafu
2.2.2 Nid oes angen i’r salwch na’r anaf fod yn ddifrifol nac yn peri i fywyd fod yn y fantol o reidrwydd, a gall fod yn feddyliol neu’n gorfforol.
2.2.3 Gall y salwch neu’r anaf ddigwydd yn sgil dirywiad dirybudd mewn cyflwr sy’n bodoli eisoes.
2.2.4 Nid yw amser o’r gwaith mewn argyfwng i ofalu am bobl ddibynnol yn berthnasol i sefyllfaoedd yr oedd disgwyl amdanynt neu nad ydynt yn rhai brys. Os yw’r gweithiwr yn gwybod ymlaen llaw y bydd arno angen amser o’r gwaith, dylai wneud cais am wyliau blynyddol yn y ffordd arferol. Fel arall, os yw’r gweithiwr angen absenoldeb i ofalu am blentyn, gall fod yn gymwys i gael ‘Absenoldeb Rhiant’.
2.3 Faint o amser o’r gwaith
2.3.1 Bydd faint o amser sy’n angenrheidiol yn amrywio yn ôl amgylchiadau’r argyfwng. Mae canllawiau’r Adran Busnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio, ‘Time Off For Dependents’ [http://www.berr.gov.uk/files/file41731.pdf], yn argymell, yn y rhan fwyaf o achosion, y dylai diwrnod neu ddau fod yn ddigonol i ymdrin â gofal uniongyrchol y person dibynnol, ymweld â’r meddyg os oes angen, a gwneud trefniadau gofal ar gyfer y tymor hwy. Bydd yr union faint o amser o’r gwaith yn seiliedig ar gytundeb Pennaeth yr Adran, ac yn ôl ei ddisgresiwn.
2.3.2 O bryd i’w gilydd, mae’n bosibl y bydd gofyn am ateb tymor hwy. Ar gyfer cyfnod o absenoldeb sy’n para wythnos neu fwy, rhaid i’r gweithiwr drafod y sefyllfa gyda Phennaeth yr Adran.
2.3.3 Bwriad y polisi yw ymdrin â gwir argyfyngau. Fodd bynnag, ni osodwyd terfyn ar sawl gwaith y gall gweithiwr fod yn absennol o’i waith dan y polisi hwn.
2.4 Hysbysu
2.4.1 Rhaid i’r gweithiwr roi gwybod i’w arolygydd/rheolwr llinell/Pennaeth Adran cyn gynted ag y bo’n ymarferol, gan nodi’r rheswm am ei absenoldeb a’r dyddiad y mae’n disgwyl gallu dychwelyd i’r gwaith.
2.4.2 Yn ystod cyfnod yr absenoldeb, disgwylir y bydd y gweithiwr yn cadw cyswllt addas â’i reolwr llinell.
2.4.3 Bydd gofyn i’r gweithiwr lenwi’r ffurflen sydd wedi’i hatodi (Amser i ffwrdd i ofalu am Ddibynyddion: Cofnod o’r Cyfnod a gymerwyd (.doc)) pan fydd yn dychwelyd i’r gwaith, ar y cyd â’i reolwr llinell priodol.
3. Amser o'r gwaith mewn argyfwng i ymdrin ag amgylchiadau dirybudd a/neu annisgwyl
3.1 Efallai y bydd rhai amgylchiadau lle bydd gofyn i weithiwr ymateb i argyfwng heblaw am y rhai sy’n cael eu cwmpasu gan amser o’r gwaith mewn argyfwng i ofalu am bobl ddibynnol. Dan yr amgylchiadau hyn, rhaid i’r gweithiwr roi gwybod i Bennaeth ei Adran neu’r sawl a enwebwyd ganddo ar y cyfle cyntaf posibl, gan roi manylion am y rheswm dros yr absenoldeb a’r dyddiad y mae’n disgwyl dychwelyd.
3.2 Bydd Pennaeth yr Adran neu’r sawl a enwebwyd ganddo yn penderfynu a yw’r rheswm dros yr absenoldeb yn cydymffurfio â’r polisi hwn, neu a ddylid gwneud trefniadau amgen ar gyfer absenoldeb.
4. Diffiniadau
At ddibenion y polisi hwn, bydd y diffiniadau isod yn gymwys, fel y’u pennir yn Neddf Cysylltiadau Cyflogaeth 1999:
4.1 Aelod o’r teulu agos
4.1.1 Gall aelod o deulu agos y gweithiwr gynnwys:
- Priod neu gymar
- Plentyn, llysblentyn, neu os oes gan y gweithiwr warcheidiaeth gyfreithiol dros blentyn Brawd neu chwaer Rhiant, llys-riant neu berson arall oedd yn uniongyrchol gyfrifol am fagu’r gweithiwr.
4.2 Person dibynnol
4.2.1 Person dibynnol yw gŵr, gwraig, cymar, plentyn neu riant y gweithiwr. Mae hefyd yn cynnwys rhywun sy’n byw ar yr un aelwyd â’r gweithiwr fel aelod o’r teulu.
4.2.2 Nid yw’n cynnwys tenantiaid na lletywyr sy’n byw yng nghartref y teulu, na rhywun sy’n byw ar yr aelwyd fel gweithiwr, megis howsgiper preswyl.
4.2.3 Mewn achosion o salwch neu anaf, neu pan mae’r trefniadau gofal yn methu, gall person dibynnol hefyd fod yn rhywun sydd, yn rhesymol, yn dibynnu ar y gweithiwr am gymorth. Gall hyn fod yn wir mewn achosion lle mai’r gweithiwr yw’r prif ofalwr neu mai’r gweithiwr yw’r unig berson a all helpu mewn argyfwng e.e. cymydog mewn oed yn byw ar ei ben ei hun yn disgyn a thorri ei goes.
5. Adolygu'r polisi
5.1 Bydd y Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol yn cydlynu adolygiad o Bolisi Absenoldeb Arbennig y Brifysgol bob blwyddyn (neu’n amlach fel y bo angen) er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i gydymffurfio â deddfwriaeth a chydag arferion da.
5.2 Cynhelir yr adolygiad ar y cyd ag undebau llafur cydnabyddedig y campws a bydd unrhyw newidiadau a gynigir yn cael eu cyflwyno gerbron y Pwyllgor Staffio er mwyn eu cymeradwyo.
5.3 Bydd y Cynghorydd Cyfle Cyfartal yn cynnal asesiad o effaith y polisi ar gydraddoldeb yn unol â threfn y Brifysgol.
6. Y Gymraeg – Hawliau Gweithwyr
Yn unol â Rheoliadau Safonau’r Gymraeg a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2018 mae gan weithwyr hawl i ddefnyddio’r Gymraeg
(i) i weud cwyn
(ii) i ymateb i gŵyn neu honiad
Ac mae gan weithwyr yr hawl hefyd i defnyddio’r Gymraeg mewn cyfarfodydd lle maent yn destun
(iii) cwyn a honiad (neu os ydynt wedi gwneud cwyn)
(iv) trafodion disgyblaethol
(v) trafodaethau’r cynllun cyfraniad effeithiol
(vi) cyfarfodydd ymgynghori unigol
Bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i Saesneg yn cael ei ddarparu mewn cyfarfod os nad oes modd cynnal y cyfarfod yn llwyr trwy gyfrwng y Gymraeg.
Y mae’r Brifysgol, ar y cyd a’i hundebau llafur cydnabyddedig, wedi ymgorffori’r gofynion uchod yn holl ddogfennau polisi a gweithdrefnol perthnasol yr adran Adnoddau Dynol.
Fersiwn 06.07.18