Amser o’r Gwaith ar Gyfer Apwyntiadau Ysbyty, Meddyg, Optegydd ac ati

Dylai aelodau o staff wneud pob ymdrech i drefnu ymweliadau â’r meddyg, deintydd neu’r optegydd ac ati y tu allan i’w horiau gwaith arferol. Serch hynny, mewn achosion lle nad yw hyn yn ymarferol, ni wrthodir amser o’r gwaith yn afresymol, ar yr amod fod yr oriau’n cael eu gweithio dros gyfnod i’w gytuno gyda’r rheolwr llinell.   

Dylid sicrhau fod apwyntiadau sy’n gorfod digwydd yn ystod oriau gwaith yn amharu cyn lleied â phosibl ar y gwaith (h.y. dylid eu trefnu ar gyfer naill ai dechrau neu ddiwedd y diwrnod gwaith neu yn ystod amser cinio) a dylid rhybuddio rheolwyr llinell am apwyntiadau o’r fath gynted ag y bo modd ymlaen llawn.

Mae yna eithriadau i’r rheol gyffredinol uchod lle na ellir ystyried fod yr ymweliad/triniaeth yn arferol. Dyma rai enghreifftiau perthnasol:

1. Sgrinio Canser, mân-lawdriniaeth a thriniaeth sy’n ymwneud ag anabledd. Mewn achosion o’r fath cymeradwyir amser o’r gwaith â thâl, ond ni fydd rhaid i’r aelod staff weithio’r oriau yn ôl. Unwaith eto, serch hynny, dylid trefnu apwyntiadau y tu allan i’r oriau gwaith arferol lle bo modd.

2. Llawdriniaeth ddewisol e.e. fasectomi, triniaeth IVF, llawdriniaeth gosmetig. Dylid cymryd amser o’r gwaith fel rhan o’r gwyliau blynyddol.

3. Dylid ystyried Triniaeth Canser (cemotherapi a radiotherapi) yn absenoldeb salwch.

4. Rhoddir amser o’r gwaith â thal am apwyntiadau a drefnir gan yr Adran AD gyda darparwr iechyd galwedigaethol y Brifysgol.