Amser o’r Gwaith ar gyfer Dyletswyddau Cyhoeddus

1.  Rhagarweiniad

Dan Adran 50 o’r Ddeddf Hawliau Cyflogaeth, 1996, mae gan aelodau o staff sy’n cyflawni dyletswyddau cyhoeddus penodol yr hawl i gael amser ‘rhesymol’ i ffwrdd o’r gwaith i gyflawni’r dyletswyddau hynny.

2.  Dyletswyddau Cymwys

2.1  Gwasanaeth Rheithgor

Caiff gwasanaeth rheithgor a mathau eraill o ddyletswyddau cyhoeddus eu gwahanu yn y polisi hwn gan nad yw gwasanaeth rheithgor yn weithgarwch y gall y cyflogwyr gyfyngu ar yr amser a gymerir i’w gyflawni.

Mae gan weithwyr yr hawl i dderbyn amser o’r gwaith yn ddi-dâl i gyflawni gwasanaeth rheithgor, ond fel cyflogwr mae gan y Brifysgol yr hawl i ofyn ichi ohirio eich gwasanaeth rheithgor os bydd eich absenoldeb yn cael effaith ddifrifol ar fusnes.

 2.2 Dyletswyddau Cyhoeddus Eraill

Caniateir amser ‘rhesymol’ o’r gwaith yn ddi-dâl i weithwyr ar gyfer dyletswyddau cyhoeddus, os ydynt yn cyflawni dyletswyddau un o’r canlynol:

  • ynad heddwch
  • cynghorydd lleol
  • llywodraethwr ysgol
  • aelod o awdurdod heddlu lleol
  • aelod o unrhyw dribiwnlys statudol
  • aelod o gorff rheoli neu lywodraethu sefydliad addysgol
  • aelod o’r Gwasanaethau Brys gwirfoddol, e.e. RNLI

Er mwyn cydnabod y cyfrifoldebau cymdeithasol ehangach, fodd bynnag, a gwerth y gall profiad o’r fath ei ddwyn i’r gweithle, bydd y Brifysgol yn caniatáu hyd at fwyafswm o 3 diwrnod o absenoldeb am dâl y flwyddyn i gyflawni dyletswyddau gwirfoddol cymwys, yn amodol ar y flwyddyn wyliau, a’r darpariaethau isod.

3. Telerau’r absenoldeb am dâl arbennig

i.        Dan rai amgylchiadau, gall unigolyn adennill lwfans ymbresenoli ar gyfer cyflawni dyletswyddau cyhoeddus. Telir absenoldeb am dâl arbennig ar sail diwrnod o gyflog yr unigolyn, ar gyfartaledd. Os yw’r lwfans ymbresenoli neu’r iawndal ar gyfer colli enillion yn uwch na’r tâl am ddiwrnod, caniateir absenoldeb di-dâl.

ii.        Cymeradwyir amser o’r gwaith ar gyfer bod yn bresennol mewn cyfarfodydd/eisteddiadau ac ati, ac ar gyfer teithio, ond nid ar gyfer unrhyw waith rhagbaratoadol. Gellir cymryd cyfnodau o absenoldeb mewn oriau a dylid eu cofnodi ar Bobl Aber.

iii.        Bydd amser ychwanegol pellach sy’n angenrheidiol yn cael ei gymryd o’r dyraniadau ar gyfer gwyliau blynyddol, oni wneir cais ar gyfer absenoldeb di-dâl. Gann ad oes cyflog ar gyfer absenoldeb di-dâl, gall yr aelod o staff hawlio a chadw’r lwfansau sydd ar gael iddo.  

iv.        Rhaid gwneud ceisiadau am absenoldeb di-dâl drwy Huanwasanaeth i Reolwyr Llinell a fydd yn cymryd gofynion gwaith i ystyriaeth cyn penderfynu a ellir eu cymeradwyo. Gall y Brifysgol wrthod ceisiadau am absenoldeb di-dâl sy’n cael eu hystyried yn afresymol neu sy’n anghyfleus o ran gofynion gwaith. Bydd pob cyfnod o absenoldeb ar gyfer dyletswyddau cyhoeddus yn cael ei gofnodi ar Bobl Aber gan y gweinyddydd enwebedig mewn Adran neu Athrofa.

4.  Staff rhan-amser

Yn achos aelodau rhan-amser o’r amser, rhagwelir y bydd canran o’u dyletswyddau cyhoeddus yn cael eu cyflawni yn ystod y cyfnod pan na fydd gofyn iddynt, yn ôl eu contractau cyflogaeth, weithio i’r Brifysgol, ond os bydd y ddyletswydd gyhoeddus yn cael ei chyflawni yn ystod oriau gwaith, bydd darpariaethau’r cynllun hwn yn gweithredu pro rata.

5.  Hysbysiad

Bydd gofyn i staff sy’n cyflawni’r dyletswyddau gwirfoddol cymwys ddangos dogfennau sy’n tystio i’r penodiad ar gyfer dyletswyddau cyhoeddus, a dylid trafod ymlaen llaw gyda’r Rheolwr Llinell amserlenni a rotas sy’n berthnasol a gofynion hyfforddiant gorfodol sy’n ofynnol ar gyfer cyflawni’r ddyletswydd.

Rhaid gwneud pob cais am amser o’r gwaith drwy Bobl Aber, gan roi rhybudd digonol er mwyn i’r cais gael ei ystyried yn ofalus. Bydd gan reolwyr yr hawl i wrthod ceisiadau am amser o’r gwaith a fernir yn afresymol a/neu ormodol.

6. Asesu’r Effaith ar Gydraddoldeb

Mae’r Brifysgol yn ymroddedig i sefydlu’r Cynllun Cydraddoldeb yn ei pholisïau, ei gweithdrefnau a’i dulliau gweithio. Aseswyd effaith y polisi hwn yn unol â’r cynllun cydraddoldeb.

Adolygu’r Polisi

Bydd Adnoddau Dynol yn cydlynu adolygiad o’r polisi hwn er mwyn sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r gyfraith ac ymarfer da. Bydd pob adolygiad yn cynnwys ymgynghori ag undebau llafur cydnabyddedig, a bydd unrhyw newidiadau a gynigir yn cael eu cyflwyno i’r pwyllgor perthnasol priodol, Grŵp Gweithredol y Brifysgol a’r Cyngor os bydd angen.  

Fersiwn 1.1

Dyddiad Adolygiad Diwethaf: Mai 2015

Dyddiad Adolygiad Nesaf: Mai 2016