Polisi Absenoldeb Di-dâl

Cwmpas
Absenoldeb Di-dâl
Amodau gwasanaeth yn ystod cyfnod o absenoldeb di-dâl
Goblygiadau Pensiwn
Cyflogeion nad ydynt yn dychwelyd i’r gwaith yn dilyn cyfnod o absenoldeb di-dâl
Dychwelyd i’r gwaith yn dilyn cyfnod o absenoldeb di-dâl
Gwaith cyflogedig i gyrff eraill yn ystod y cyfnod o absenoldeb di-dâl
Asesiad Effaith Cydraddoldeb
Y Gymraeg – Hawliau Gweithwyr

1. Cwmpas

1.1 Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl gyflogeion y Brifysgol sy’n dymuno gwneud cais am gyfnod o absenoldeb di-dâl o hyd at dri mis o hyd ac sy’n bodloni’r meini prawf canlynol:

  •  Wedi cwblhau cyfnod prawf
  •  Os yw’r swydd wedi’i chyllido’n allanol yna rhaid sicrhau caniatâd ysgrifenedig y corff cyllido.

2. Absenoldeb Di-dâl

2.1 Dylai cyflogai sy’n dymuno cael cyfnod o absenoldeb di-dâl gwblhau a dychwelyd y ffurflen Cais am Absenoldeb Di-dâl i’w Rheolwr Athrofa, Cyfarwyddwr Athrofa, Pennaeth Adran neu Bennaeth Adran Gwasanaethau Proffesiynol yn y lle cyntaf. Yna rhaid anfon y cais hwn ymlaen at y Tîm Adnoddau Dynol Gweithredol priodol, ynghyd â sylwadau’r Pennaeth Adran, Rheolwr yr Athrofa neu Gyfarwyddwr yr Athrofa. Rhaid i gyflogai sy’n dymuno cyflwyno cais am absenoldeb di-dâl roi rhybudd sydd ddwywaith yn hirach na’r cais am absenoldeb. Gweler yr enghraifft isod:

Enghraifft 1 Cyfnod Rhybudd
Y cyflogai’n dymuno cymryd
1 wythnos o absenoldeb didâl
(5 diwrnod gwaith)
2 wythnos (10 diwrnod
gwaith)
Y cyflogai’n dymuno cymryd
1 mis calendr o absenoldeb
di-dâl
2 fis calendr

2.2 Caiff absenoldeb ei ganiatáu’n amodol ar ofynion gweithrediadol arferol. Bydd y rhain
yn cynnwys:

  • Ystyriaeth o’r baich costau ychwanegol;
  • Effaith niweidiol ar y gallu i ddiwallu angen y cwsmer;
  • Y gallu i aildrefnu gwaith ymhlith staff cyfredol;
  • Y gallu i recriwtio staff ychwanegol;
  • Effaith ar ansawdd yn yr Adran Gwasanaethau Proffesiynol /Athrofa;
  • Effaith ar berfformiad;
  • Lefelau llwyth gwaith;
  • Newidiadau strwythurol arfaethedig.

2.3 Os yw’r cyfnod o absenoldeb a geisir yn hirach na thri mis, dylai’r cyflogai wneud cais am amser yn rhydd o’r gwaith drwy Bolisi Toriad Gyrfa’r Brifysgol.

2.4 Mewn rhai amgylchiadau mae’n bosibl nad absenoldeb di-dâl fyddai’r trefniant mwyaf priodol i’r cyflogai. Mewn amgylchiadau o’r fath gall y cyflogai a’r Pennaeth Adran gytuno ar drefniadau amgen sy’n fwy priodol i’r achos unigol. Gallai trefniadau amgen gynnwys absenoldeb yn unol â pholisïau’r brifysgol ar Absenoldeb Mamolaeth, Absenoldeb Mabwysiadu, Absenoldeb Tadolaeth, Absenoldeb Rhiant a Rennir, Absenoldeb Rhiant, Absenoldeb Tosturiol, Absenoldeb Brys, Amser Rhydd, Toriad Gyrfa neu Weithio Hyblyg. Nid yw’r polisi hwn yn gymwys ar gyfer ceisiadau gan staff academaidd am ganiatâd i fod yn absennol ac absenoldeb tramor. Dylid ystyried a yw unrhyw rai o’r trefniadau uchod yn addas fel dewis amgen lle bo’n briodol. Os ceir unrhyw amheuaeth ynghylch y fframwaith polisi mwyaf addas gellir ceisio cyngor gan yr Adran AD.

3. Amodau gwasanaeth yn ystod cyfnod o absenoldeb di-dâl

3.1 Bydd y cyfnod o absenoldeb di-dâl yn cyfrif fel gwasanaeth parhaus.

3.2 Yn ystod cyfnod o absenoldeb di-dâl ni fydd cyflogai’n cronni gwyliau blynyddol contractaidd ond bydd yn cronni’r isafswm hawl gwyliau statudol.

3.3 Bydd dilyniant cyflog cynyddrannol yn parhau yn ystod cyfnod o absenoldeb di-dâl.

4. Goblygiadau Pensiwn

4.1 Ni chaiff absenoldeb di-dâl ei gyfrif fel gwasanaeth pensiynadwy. Os yw cyflogai’n dewis gwneud cyfraniadau pensiwn yn ystod cyfnod o absenoldeb di-dâl bydd y trefniadau pensiwn yn dibynnu ar y cynllun pensiwn mae’n perthyn iddo.

4.2 Rhaid i aelodau o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol dalu cyfraniadau pensiwn am y 30 diwrnod cyntaf o absenoldeb di-dâl. Gall cyflogeion dalu cyfraniadau pensiwn mewn cyfnodau pellach o absenoldeb di-dâl, hyd at uchafswm o 36 mis. Mae’r cyflogai’n talu ei gyfraniad yn unig, gyda’r cyflogwr yn parhau i dalu cyfraniad y cyflogwr. Rhaid gwneud cais i dalu cyfraniadau ar unrhyw gyfnod o absenoldeb sydd dros 30 diwrnod o fewn 30 diwrnod i ddiwedd y cyfnod o absenoldeb di-dâl. Caiff y gwaith papur perthnasol ei anfon at y cyflogai gan yr Adran Cyflogres.

4.3 Yn ystod cyfnod o absenoldeb di-dâl gan aelod o Gynllun Pensiwn Prifysgol Aberystwyth (AUPP), bydd yr holl gyfraniadau’n peidio. Gall yr aelod wneud trefniadau gyda’r darparwr i dalu unrhyw gyfraniadau y byddai’r cyflogeion wedi’u talu pe na baent yn absennol.

4.4 Bydd angen i aelodau o Gynllun Pensiwn yr USS ddilyn yr arweiniad ar wefan AD.

5. Cyflogeion nad ydynt yn dychwelyd i’r gwaith yn dilyn cyfnod o absenoldeb di-dâl

5.1 Os nad yw’r cyflogai’n dychwelyd i’r gwaith ar ddiwedd y cyfnod o absenoldeb di-dâl cymeradwy, ac os nad oes unrhyw ohebiaeth wedi’i derbyn oddi wrth y cyflogai i egluro’r rheswm am hyn, yna caiff y cyflogai ei drin fel pe bai wedi ymddiswyddo. Bydd yr Adran AD, ym mhob achos, yn ysgrifennu at y cyflogai dan sylw i ganfod y sefyllfa cyn cadarnhau bod y gyflogaeth ar ben.

6. Dychwelyd i’r gwaith yn dilyn cyfnod o absenoldeb di-dâl

6.1 Bydd gan gyflogeion sy’n cymryd absenoldeb di-dâl yr hawl i ddychwelyd i’r un swydd. Os nad yw hyn yn bosibl, gellir cynnig cyflogaeth amgen, ar delerau ac amodau tebyg (heb fod yn llai ffafriol) oni bai bod eu swydd yn cael ei phennu’n ddiangen yn ystod cyfnod yr absenoldeb. Caiff y Polisi a Gweithdrefn Adleoli eu dilyn mewn sefyllfaoedd o’r fath.

7. Gwaith cyflogedig i gyrff eraill yn ystod y cyfnod o absenoldeb di-dâl

7.1 Er mwyn osgoi gwrthdaro buddiannau posibl, rhaid i gyflogeion beidio ag ymgymryd â gwaith cyflogedig neu ddigyflog i unrhyw gorff arall yn ystod eu habsenoldeb di-dâl heb sicrhau caniatâd y brifysgol o flaen llaw. Rhaid datgelu manylion am y cyfryw weithgareddau ar y ffurflen gais. Os mai diben yr absenoldeb di-dâl yw gweithio i sefydliad arall, gallai secondiad yn hytrach nag absenoldeb di-dâl fod yn fwy priodol. Ceir gwybodaeth am bolisi secondio’r Brifysgol yma:

7.2 Yn ystod yr absenoldeb di-dâl, disgwylir i gyflogeion gydymffurfio ag unrhyw ofynion sydd gan y brifysgol o ran cyfrinachedd, rheoliadau ariannol ac eiddo deallusol.

8. Asesiad Effaith Cydraddoldeb

8.1 Mae’r Brifysgol yn ymrwymedig i ymwreiddio’r Cynllun Cydraddoldeb Sengl ym mhob un o’i pholisïau, gweithdrefnau ac arferion. Mae’r polisi hwn wedi cael asesiad effaith cydraddoldeb yn unol â’r cynllun hwn.

9. Y Gymraeg – Hawliau Gweithwyr

Yn unol â rheoliadau Safonau’r Gymraeg a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2018 mae gan weithwyr hawl i ddefnyddio’r Gymraeg
(a) i wneud cwyn
(b) i ymateb i gŵyn neu honiad

Ac mae gan weithwyr yr hawl hefyd i ddefnyddio’r Gymraeg mewn cyfarfodydd lle maent yn destun

(c) cwyn a honiad (neu os ydynt wedi gwneud cwyn)
(d) trafodion disgyblaethol
(e) trafodaethau’r cynllun cyfraniad effeithiol
(f) cyfarfodydd ymgynghori unigol

Bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i Saesneg yn cael ei ddarparu mewn cyfarfod os nad oes modd cynnal y cyfarfod yn llwyr trwy gyfrwng y Gymraeg. Y mae’r Brifysgol, ar y cyd â’i hundebau llafur cydnabyddedig, wedi ymgorffori’r gofynion uchod yn holl ddogfennau polisi a gweithdrefnol perthnasol yr adran Adnoddau Dynol.

Adolygu’r Polisi

Bydd Adnoddau Dynol yn cydlynu adolygiad o’r polisi hwn er mwyn sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r gyfraith ac ymarfer da. Bydd pob adolygiad yn cynnwys ymgynghori ag undebau llafur cydnabyddedig, a bydd unrhyw newidiadau a gynigir yn cael eu cyflwyno i’r pwyllgor perthnasol priodol, Grŵp Gweithredol y Brifysgol a’r Cyngor os bydd angen.  

Fersiwn 1.1

Dyddiad Adolygiad Diwethaf: Medi 2019

Dyddiad Adolygiad Nesaf: Medi 2020