Polisi ar gyfer prynu gwyliau blynyddol ychwanegol

Rhagarweiniad
Cymhwyster
Ceisiadau ar gyfer gwyliau blynyddol ychwanegol
Talu am wyliau blynyddol ychwanegol
Cyfrifo cost diwrnod o wyliau
Ystyriaethau Cyffredinol
Asesu’r Effaith ar Gydraddoldeb

1.0 Rhagarweiniad

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ymrwymo i gefnogi gweithwyr i gael cydbwysedd iach rhwng eu gwaith a’u bywydau personol drwy fframwaith polisi sydd wedi’i gynllunio ar gyfer cefnogi dewisiadau bywyd. Mae’r polisi hwn yn ddatblygiad o ddarpariaeth bresennol sy’n ymwneud â:-

  • Mamolaeth
  • Tadolaeth
  • Absenoldeb Rhiant a rennir
  • Mabwysiadu
  • Polisi Absenoldeb Di-dâl
  • Polisi Seibiant Gyrfa
  • Amser i Ffwrdd ar gyfer Dibynyddion
  • Amser i Ffwrdd ar gyfer Dyletswyddau Cyhoeddus
  • Polisi Gweithio’n Hyblyg
  • Polisi Amser Hyblyg

2.0 Cymhwyster

2.1 Mae’r budd hwn o allu prynu gwyliau blynyddol ychwanegol yn berthnasol i aelodau staff Prifysgol Aberystwyth, ac eithrio’r canlynol:

  • Gweithwyr ar gontract tymor penodol neu dros dro am lai na 12 mis.
  • Gweithwyr sydd ar gontractau nad ydynt yn cynnwys oriau sefydlog neu sy’n oriau annodweddiadol.
  • Gweithwyr a gyflogir yn uniongyrchol gan is-gwmnïau’r Brifysgol.

2.2 Rhaid i weithiwr ddangos ei fod yn bwriadu defnyddio’r holl wyliau blynyddol a nodir yn y contract yn ogystal â’r gwyliau ychwanegol yn ystod y flwyddyn wyliau. Rhaid i weithiwr sy’n prynu gwyliau blynyddol ychwanegol sicrhau bod y gwyliau yn cael eu defnyddio yn ystod y flwyddyn. Ni ddarperir ar gyfer trosglwyddo gwyliau blynyddol ychwanegol a brynir i flwyddyn arall, ac eithrio’r achosion a ddiffinnir yn Adran 6.2.

3.0  Ceisiadau ar gyfer gwyliau blynyddol ychwanegol

3.1 Gan fod y polisi wedi ei gyflwyno hanner ffordd drwy’r flwyddyn wyliau, bydd ceisiadau ar gyfer gwyliau blynyddol ychwanegol yn 2015 yn cael eu hystyried yng Ngorffennaf. O 2016, bydd ceisiadau ar gyfer gwyliau blynyddol ychwanegol yn cael eu hystyried yn ystod mis cyntaf pob blwyddyn wyliau, hynny yw, ym mis Ionawr.

Bydd gan Reolwyr Athrofeydd, Cyfarwyddwyr Athrofeydd a Phenaethiaid Gwasanaethau Proffesiynol ryddid i ystyried ceisiadau ar gyfer gwyliau blynyddol ychwanegol yn ystod y flwyddyn os bydd amgylchiadau gweithiwr yn newid.

3.2 Gall gweithiwr holi am uchafswm o 36.5 awr o gwyliau ychwanegol (pro rata ar gyfer gweithwyr rhan-amser, hynny yw, bydd pob awr y gwneir cais amdano yn cael ei drosglwyddo yn unol â’r amserlen waith) ym mhob blwyddyn wyliau. Mae’r flwyddyn wyliau yn rhedeg o Ionawr 1af hyd at Ragfyr 31ain.

3.3 Bydd pob cais i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol yn cael ei ystyried gan Reolwr yr Athrofa briodol, Cyfarwyddwr yr Athrofa neu Bennaeth yr Adran Gwasanaethau Proffesiynol, gan ystyried anghenion gweithredu’r Adran/Athrofa. Lle bo hynny’n bosibl, bydd ceisiadau yn cael eu hystyried o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl derbyn y cais drwy ABW. Bydd yr ymateb i’r cais fel a ganlyn:

    • Cymeradwyo’r cais yn ei gyfanrwydd
    • Cymeradwyo rhan o’r cais
    • Gwrthod

Lle nad yw’n bosibl i gymeradwyo’r cais yn ei gyfanrwydd, rhoddir ymateb ysgrifenedig yn nodi’r rheswm dros hynny. 

3.4 Os bydd y cais am wyliau yn cael ei wrthod, ni fydd hawl apelio dan y polisi hwn.

3.5 Ar ôl i’r cais gael ei gymeradwyo gan y rheolwr priodol, efallai na fydd hi’n bosibl i ddiddymu’r gwyliau sydd eisoes wedi’u prynu yn ystod y flwyddyn wyliau.

3.6 Bydd manylion gwyliau blynyddol y gweithiwr yn cael eu diweddaru ar ABW.

4.0  Talu am wyliau blynyddol ychwanegol

4.1 Bydd y diwrnod(au) ychwanegol o wyliau blynyddol yn cael eu talu drwy un o’r dulliau isod:

  • Tynnu un cyfandaliad o’r cyflog cyn cymryd y gwyliau ychwanegol;
  • Tynnu taliad o’r cyflog dros uchafswm o 6 mis dilynol, gan ddechrau ym mis Chwefror y flwyddyn honno. (D.S. ar gyfer ceisiadau a gyflwynir yng Ngorffennaf 2015 bydd y taliadau yn cael eu tynnu rhwng Awst a Rhagfyr 2015).
  • Bydd y gweithiwr yn cwblhau’r mandad sy’n ofynnol ar gyfer tynnu’r taliad wrth gyflwyno’r cais i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol.

5.0 Cyfrifo cost diwrnod o wyliau

5.1 Ar gyfer y rhan fwyaf o staff amser llawn, bydd diwrnod o wyliau yn cael ei gyfrif ar sail:

Cyflog blynyddol / 365 (7 diwrnod x 52 wythnos) =

Enghraifft:

£18,031 / 365 = £49.40

5.2 Os yw staff yn gweithio’n rhan-amser neu’n gweithio oriau amrywiol ar bob diwrnod gwaith, neu’n gweithio yn ystod y tymor yn unig, dylent ymgynghori ag adran Gyflogres Prifysgol Aberystwyth i sicrhau’r cyfrifiad cywir ar dâl awr neu ddiwrnod.

6.0  Ystyriaethau Cyffredinol

6.1 Bydd y gwyliau ychwanegol a brynir yn cael eu hychwanegu at hawl flynyddol y gweithiwr i wyliau ar Bobl Aber gan yr adran Adnoddau Dynol.6.2 Os bydd gweithiwr yn sâl yn ystod cyfnod o wyliau ychwanegol, dylid cyflwyno dyddiad(au) newydd i’r rheolwr priodol i benderfynu arno/arnynt yn ystod yr un flwyddyn wyliau. Fodd bynnag, os nad yw’n bosibl i wneud hynny, bydd y trefniadau gwreiddiol ar gyfer trosglwyddo gwyliau blynyddol sy’n weddill o ganlyniad i gyfnod o absenoldeb salwch yn berthnasol i unrhyw wyliau ychwanegol a brynir.

7.0  Asesu’r Effaith ar Gydraddoldeb

Mae’r Brifysgol yn ymroddedig i sefydlu’r Cynllun Cydraddoldeb yn ei pholisïau, ei gweithdrefnau a’i dulliau gweithio. Aseswyd effaith y polisi hwn yn unol â’r cynllun cydraddoldeb.

 

Adolygu’r Polisi

Bydd Adnoddau Dynol yn cydlynu adolygiad o’r polisi hwn er mwyn sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r gyfraith ac ymarfer da. Bydd pob adolygiad yn cynnwys ymgynghori ag undebau llafur cydnabyddedig, a bydd unrhyw newidiadau a gynigir yn cael eu cyflwyno i’r pwyllgor perthnasol priodol, Grŵp Gweithredol y Brifysgol a’r Cyngor os bydd angen. Cyflwynir y polisi hwn yn y lle cyntaf ar gyfer y cyfnod rhwng Mehefin 2015 a Rhagfyr 2016. Bydd y Tîm Gweithredol yn derbyn adroddiad ar ddiwedd y cyfnod hwn, a gwneir argymhelliad ynglŷn ag ymestyn cyfnod y polisi ai peidio.

Fersiwn 1.1

Dyddiad Adolygiad Diwethaf: Mawrth 2020

Dyddiad Adolygiad Nesaf: Mawrth 2021