Llinellau Amser neu Siartiau Llif

Mae'r Llinell Amser neu'r Siart Llif yn caniatáu i ddefnyddwyr arddangos gwybodaeth mewn blociau ar hyd llinell amser, neu gamau mewn siart llif. Mae'r blociau yn ymddangos yn ddeinamig ar y dudalen wrth i'r defnyddiwr sgrolio trwy'r llinell amser neu'r siart llif.

Bydd yr wybodaeth isod yn ymddangos wrth i chi sgrolio i lawr y dudalen. Os hoffech weld yr holl wybodaeth ar unwaith, cliciwch y botwm isod.

Cyn creu eich llinell amser neu siart llif, dylech wneud y paratoadau canlynol:

  • Cadarnhewch y testun sydd ei angen ar gyfer eich llinell amser neu eitemau’r siart llif;
  • Cadarnhewch y dolenni, y delweddau a'r dogfennau PDF sydd eu hangen ar gyfer eich llinell amser neu'ch siart llif (os oes angen);
  • Sicrhewch fod y Gwasanaethau Gwybodaeth wedi cwblhau'r gosodiad cychwynnol ar gyfer eich llinell amser neu'ch siart llif;
  • Sicrhewch fod y templedi cynnwys canlynol ar gael yn yr adran lle’r hoffech osod eich llinell amser neu’ch siart llif:
    • Eitem Llinell Amser Cody.

Gall defnyddwyr y CMS greu llinellau amser a siartiau llif yn eu tudalennau gwe trwy ddilyn y cyfarwyddiadau a ddarperir yn Nhaflen Wybodaeth 33.