Hyfforddiant

Os oes arnoch angen hyfforddiant ar gyfer y System Rheoli Cynnwys (SRhC, neu’r CMS), gallwch gofrestru eich hun a chwblhau hyfforddiant ar-lein ar Blackboard:

  • Cysylltwch â Suzy i roi gwybod bod arnoch eisiau gwneud hyfforddiant SRhC fel y gall hi eich ychwanegu at y system
  • Ewch i’r adran ‘Web Services Staff Training’
  • Cliciwch ar ‘CMS Training’ yn y ddewislen ar y chwith
  • Lawrlwythwch yr ymarferion hyfforddiant:
  • Gwyliwch y fideos hyfforddiant ar-lein ar Blackboard a gweithiwch eich ffordd drwy’r ymarferion
  • Rhowch wybod i Suzy eich bod wedi cwblhau’r cwrs, yn ogystal â nodi pa ganiatâd y bydd arnoch ei angen  
  • Wedi i’ch gwaith yn y SRhC gael ei wirio, rhoddir y caniatâd angenrheidiol ichi  

Uwchraddio Lefel y Defnyddiwr

Caiff yr holl ddefnyddwyr CMS newydd eu hyfforddi ar lefel Cyfrannwr. Fodd bynnag os oes angen i’r defnyddiwr CMS newydd fod yn Safonwr i’w adran mae modd uwchraddio (yn amodol ar gadarnhad gyda’r adran). Pan fydd defnyddiwr CMS wedi’i uwchraddio o Gyfrannwr i Safonwr, bydd angen cwblhau’r ymarferion Uwchraddio: