Mynediad diwifr i ymwelwyr â Phrifysgol Aberystwyth

Mae’n rhaid i ymwelwyr sydd eisiau defnyddio gwasanaeth diwifr Prifysgol Aberystwyth wneud yn siŵr:

  • bod gan eu cyfrifiadur y pecyn gwasanaeth diweddaraf a’r diweddariadau wedi’u gosod ar gyfer eu system weithredu
  • bod gan eu cyfrifiadur feddalwedd gwrthfirws diweddar
  • nad oes firysau nac ysbïwedd ar eu cyfrifiadur

cyn iddynt ddod i’r campws.

Mae’r holl ddefnydd a wneir o rwydwaith Prifysgol Aberystwyth yn cael ei reoli gan Reoliadau a Chanllawiau’r Gwasanaethau Gwybodaeth a Pholisi Defnydd Derbyniol JANET.

Ymwelwyr o sefydliadau academaidd eraill

 

  • Mae Prifysgol Aberystwyth yn cymryd rhan yng Ngwasanaeth Crwydro Janet.
  • Golyga hyn fod ymwelwyr o sefydliadau academaidd eraill sy’n cymryd rhan yn gallu cysylltu â rhwydwaith eu sefydliadau eu hunain drwy rwydwaith diwifr eduroam Prifysgol Aberystwyth pan fônt yn ymweld â’n campws. Gallwch wirio i weld a yw eich sefydliad yn cymryd rhan yn y gwasanaeth hwn ar wefan Gwasanaeth Crwydro JANET
  • Dylech wneud trefniadau i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn gyda’ch sefydliad cartref CYN dod i Brifysgol Aberystwyth.

Pob ymwelydd arall, unigolion sy’n mynychu cynadleddau a digwyddiadau

  • Mae ein rhwydwaith diwifr ymwelwyr PAU-Guest ar gael ar draws y campws:
    Llun yn dangos PAU-Guest fel rhwydwaith sydd ar gael

  • Darperir y gwasanaeth hwn gan BT a gofynnir i chi fewngofnodi gyda chyfeiriad e-bost personol:
    Llun yn dangos y dudalen mewngofnodi ar gyfer PAU-Guest