Llinell Amser Prosiect Sgiliau Digidol

Mae'r dudalen hon yn dangos rhai o brif gyflawniadau'r Prosiect Sgiliau Digidol ers ei sefydlu ym mis Awst 2021.

Mehefin 2021

Lansiad Strategaeth Ddigidol PA (2021-2025): Mae sgiliau digidol yn un o bedair "sylfaen" allweddol y strategaeth

Strategaeth Ddigidol PA
Mehefin 2021

Prynu tanysgrifiad 3 blynedd i'r Offeryn Darganfod Digidol a LinkedIn Learning

Awst 2021

Sefydlu'r Prosiect Sgiliau Digidol a phenodi Arweinydd Sgiliau Digidol

Postiad blog
Hydref - Rhagfyr 2021

Treialu defnydd myfyrwyr o'r Offeryn Darganfod Digidol (myfyrwyr blwyddyn sylfaen a'r flwyddn gyntaf) gyda pedair adran academaidd: Busnes, Seicoleg, Addysg a Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol

Chwefror 2022

Cymeradwyaeth i gyflwyno'r Offeryn Darganfod Digidol: Cymeradwyaeth gan y Pwyllgor Gwella Academaidd a'r Bwrdd Academaidd y bydd holl fyfyrwyr blwyddyn sylfaen a'r flwyddyn gyntaf yn cael eu cefnogi i ddefnyddio'r Offeryn Darganfod Digidol

Prosiect peilot staff gwasanaethau proffesiynol o'r Offeryn Darganfod Digidol gyda staff Gwasanaethau Gwbodaeth a'r Fforwm Gweinyddol

Mai 2022

Cyflwyniad ar Drafodaeth Banel Connect More Jisc - "Developing digital culture in education: How using Jisc's building digital capability service supports digital culture"

Rhaglen Connect More 2022
Awst 2022

Penodi dwy Gynorthwyydd Sgiliau Digidol i gefnogi'r prosiect am 4 mis

Cymorth Newydd i Staff Academaidd: Datblygiad adnoddau addysgu a rhaglen hyfforddiant newydd ar gyfer staff sy'n cefnogi myfyrwyr i ddefnyddio'r Offeryn Darganfod Digidol

Gweld Adnoddau Addysgu i Staff
Awst 2022

Datblygiad adnodd newydd i gefnogi myfyrwyr sy'n defnyddio'r Offeryn Darganfod Digidol yn annibynnol

Gweld yr adnodd i fyfyrwyr
Medi 2022

Penodi tri Pencampwr Digidol Myfyrwyr am y tro cyntaf

Postiadau blog gan y Pencampwyr Digidol Myfyrwyr
Medi 2022

Myfyrwyr blwyddyn sylfaen a'r flwyddyn gyntaf yn derbyn cefnogaeth i ddefnyddio'r Offeryn Darganfod Digidol am y tro cyntaf (~900 o fyfyrwyr yn cwblhau'r Offeryn Darganfod Digidol)

Trafodaeth Banel yng Nghynhadledd Dysgu ac Addysgu Blynyddol PA: 'Supporting the development of students' digital capabilities'

Gwyliwch y Drafodaeth Banel
Hydref - Rhagfyr 2022

Treialu defnydd myfyrwyr o'r Offeryn Darganfod Digidol am eildro (myfyrwyr ail flwyddyn) gyda phedair adran academaidd: Busnes, Seicoleg, Addysg a Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol

Treialu modiwl Blackboard newydd i gefnogi myfyrwyr sy'n defnyddio'r Offeryn Darganfod Digidol ac adnoddau ychwanegol

Tachwedd 2022

Datblygiad dau adnodd newydd ar gyfer myfyrwyr a staff - Llyfrgell Sgiliau Digidol PA (Llyfrgell Myfyrwyr, Llyfrgell Staff) a Chasgliadau Sgiliau Digidol LinkedIn Learning (Casgliadau Myfyrwyr, Casgliadau Staff)

Chwefror 2023

Cymeradwyaeth i gyflwyno'r Offeryn Darganfod Digidol: Cymeradwyaeth gan y Pwyllgor Gwella Academaidd y bydd holl fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig yn cael eu cefnogi i ddefnyddio'r Offeryn Darganfod Digidol ym mlwyddyn academaidd '23-24

Mawrth a Gorffennaf 2023

Penodi dwyGydlynydd Datblygu Sgiliau a Galluoedd Digidol: Shân Saunders a Jia Ping Lee

Staff y Tîm Sgiliau Digidol
Mai 2023

Prosiect Beth yw barn myfyrwyr am LinkedIn Learning?y Pencampwyr Digidol Myfyrwyr

Barn y myfyrwyr
Mehefin 2023

Cyflwyniad yn nigwyddiad cymuned ymarfer Galluoedd Digidol a Mewnwelediadau Digidol Jisc - "Embracing university-wide collaboration to drive student engagement with the Digital Discovery Tool" (City, Prifysgol Llundain)

Rhaglen y digwyddiad