Hyfforddiant a Chefnogaeth

Mae’r Grŵp E-ddysgu’n cynnig rhaglen hyfforddiant a chefnogaeth gynhwysfawr sy’n ymdrin â sawl maes yn ymwneud â dysgu trwy gyfrwng technoleg.   

Mae ein sesiynau’n gyfranogol ac yn rhyngweithiol. Gall hyn gynnwys trafodaethau grŵp, trafodaethau mewn pâr, neu weithgareddau ymarferol. Rydym yn hapus i deilwra ein sesiynau i fformat sy’n addas i chi. 

Os ydych am drafod unrhyw agweddau o’n sesiynau hyfforddi, neu os byddai’n well gennych sesiwn un-i-un, anfonwch e-bost at eddysgu@aber.ac.uk gyda’ch gofynion.

Gallwch sicrhau lle ar bob un o’m sesiynau hyfforddi ar-lein

Mae’r sesiynau wedi’u rhannu’n dair lefel:

 

Hanfodion E-ddysgu mae’r sesiynau hyn yn darparu cyflwyniad i gyfranogwyr i’r technolegau gwahanol sydd ar gael i staff cynorthwyol ym Mhrifysgol Aberystwyth i’w cynorthwyo i gadw at bolisïau’r Brifysgol.

 

E-ddysgu Uwch - mae’r sesiynau hyn yn adeiladu ar yr hyfforddiant a gynigir yn y sesiynau Hanfodion E-ddysgu ac yn ceisio darparu ar gyfer aelodau o staff sydd eisiau defnyddio technolegau mewn modd mwy arbenigol.

 

Rhagoriaeth E-ddysgu -mae’r sesiynau hyn yn ceisio cefnogi datblygiad dulliau arloesol o ddysgu trwy gyfrwng technoleg. Mae’r sesiynau hyn yn cynnwys gweithio’n agos â’n partneriaid academaidd i gefnogi datblygiad a defnydd pwrpasol o ymgorffori technolegau e-ddysgu.