Gwelliannau i Ddiogelwch SharePoint
Cyhoeddwyd: 13 Mawrth 2024
Er mwyn gwella diogelwch ar safleoedd SharePoint, rydym yn gwneud y newidiadau canlynol.
- Cyfyngu rhannu i berchnogion safleoedd yn unig:
Ni fydd defnyddwyr eraill y safle bellach yn gallu rhannu'r safle na'r cynnwys ynddo ag eraill drwy ddolenni rhannu. Os oes angen i ddefnyddwyr eraill gael mynediad i'r safle neu'r cynnwys ynddo, bydd angen iddynt gael eu hychwanegu gan berchennog y safle. - Adolygu holl berchnogion y safle:
Byddwn yn gwirio pob safle i sicrhau bod ganddynt berchnogion, a bod y perchnogion yn dal yn briodol ar gyfer yr adran/tîm y mae'r safle'n perthyn iddynt. Ar safleoedd lle mae pob aelod yn berchnogion, byddwn mewn cysylltiad i drafod lleihau nifer y perchnogion ar safleoedd. - Creu canllawiau i berchnogion safleoedd:
Rydym yn gweithio ar ddeunyddiau canllaw i berchnogion safleoedd fel y gallwch sicrhau eich bod yn rhannu safleoedd a chynnwys yn ddiogel. - Adolygu safleoedd nas defnyddir
Byddwn yn gwirio pryd y defnyddiwyd safleoedd ddiwethaf a chael gwared ar safleoedd nad oes eu hangen mwyach. Byddwn yn cysylltu â pherchnogion safleoedd i gadarnhau nad oes angen safleoedd mwyach cyn eu dileu.
Gan fod ein hystâd SharePoint yn fawr iawn, bydd y newidiadau hyn yn cael eu cyflwyno dros gyfnod o amser felly efallai na fyddwch yn gweld y newidiadau ar unwaith yn y safleoedd yr ydych chi’n gyfrifol amdanynt.
Os oes gennych unrhyw bryderon, cysylltwch â gg@aber.ac.uk.