Hyfforddiant

Argymhellir y dylai staff fynd i sesiwn hyfforddi SharePoint os nad ydynt yn gyfarwydd â'r system.

Ar hyn o bryd ar-lein yn unig y ceir hyfforddiant SharePoint a hynny trwy Blackboard.  

Mae dwy lefel o hyfforddiant ar gael:

Hyfforddiant Defnyddiwr SharePoint

Mae hwn i bobl sydd angen defnyddio SharePoint i gydweithio ag eraill yn eu tîm, eu hadran neu ar draws y brifysgol.  Mae wedi'i anelu at ddefnyddwyr yn hytrach na gweinyddwyr y safle.  Bydd yn eich dysgu sut i ddefnyddio SharePoint a llyfrgelloedd dogfennau, calendrau a rhestrau tasgau.

Hyfforddiant Gweinyddwr SharePoint

Mae hwn i bobl sydd angen cynnal a datblygu safleoedd SharePoint fel y gall eraill eu defnyddio i gydweithio. Bydd yn eich dysgu sut i sefydlu safle, yn ogystal ag ychwanegu llyfrgelloedd a rhestrau, gosod caniatâd, ac addasu eich safle.

Rhagor o wybodaeth