Y Ffald
Sbort a sbri yn y Ffald!
Man cymdeithasol yw’r Ffald sydd ar agor i breswylwyr sy'n byw mewn unrhyw llety a reolir gan y brifysgol. Dim ond tafliad carreg yw hi o'r Swyddfa Llety ar lawr gwaelod Bloc 2, Fferm Penglais. Mae’n fan cymdeithasol gwych lle y cewch gegin fach (rhag ofn bod gennych awydd paned), teledu a bar sain, llawer o seddi cyfforddus, bwrdd mawr ar gyfer gemau neu waith grŵp, a man astudio/cymdeithasol caeedig (gwych ar gyfer DnD!)
Mae ar agor 24/7 - dim ond eich Cerdyn Aber fydd ei angen arnoch i fynd mewn.
Hefyd, cadwch lygad ar agor am ein Cyfnewidfa Lyfrau a gynhelir gan wasanaethau Bywyd Preswyl yn y Ffald. Cewch gymryd llyfr neu adael llyfr, a mynd ar antur mewn print.
Adnoddau a Chyfleusterau:
- Cegin fach
- Bwrdd mawr
- Seddi meddal
- Ardal gaeedig
- Teledu a bar sain
- Dewis da ar y silffoedd llyfrau (Cyfnewidfa Lyfrau)
- Socedi trydan
- Gemau amrywiol
- Tŷ bach
Y cyswllt ar gyfer y dudalen hon:
Llety’r Brifysgol, Y Swyddfa Llety, Y Sgubor, Fferm Penglais, Aberystwyth, SY23 3FH
Ffôn: Llinell Gymorth Bywyd Campws: 01970 622900 Ebost: llety@aber.ac.uk