Y Sgubor

A shot of Y Sgubor from the outside.

Wrth galon llety’r Brifysgol fe welwch brif ganolbwynt ein neuaddau preswyl – Y Sgubor.

Croeso i'r Sgubor!

Mae yma le i ymarfer corff, astudio, bwyta, cael coffi neu smwddi, prynu’r pethau bach hanfodol rych chi wedi’u hanghofio, ymlacio gyda'ch ffrindiau, neu wneud unrhyw ymholiadau am eich llety. Mae pob dim i’w gael yn y Sgubor!  Wel, bron â bod......

Mae'r Sgubor yng nghanol safle PJM a Fferm Penglais, dim ond tro byr ar droed o’r neuaddau eraill ar y campws.

Mae ar agor 24/7, mae ganddo beiriannau gwerthu â stoc dda o nwyddau, ac mae'n le gwych i astudio neu gymdeithasu.

Adnoddau a Chyfleusterau:

    • Caffi a siop SguborFach
    • Y Swyddfa Llety
    • Byrddau Pŵl am ddim
    • Campfa (24/7 ar gyfer preswylwyr yn unig)
    • Gweithfannau
    • Socedi trydan a Sgriniau
    • Seddi meddal
    • Teledu
    • Argraffydd
    • Peiriannau gwerthu
    • Ffynnon ddŵr
    • Tai bach
    • Golchdy

 

Y cyswllt ar gyfer y dudalen hon:

Llety’r Brifysgol, Y Swyddfa Llety, Y Sgubor, Fferm Penglais, Aberystwyth, SY23 3FH
Ffôn: Llinell Gymorth Bywyd Campws: 01970 622900 Ebost: llety@aber.ac.uk