Y Sgubor
   
                                                                                                             
                                                                                                             
    
    
    
 
    
    
    Wrth galon llety’r Brifysgol fe welwch brif ganolbwynt ein neuaddau preswyl – Y Sgubor.
Croeso i'r Sgubor!
Mae yma le i ymarfer corff, astudio, ymlacio gyda'ch ffrindiau, neu wneud unrhyw ymholiadau am eich llety. Mae pob dim i’w gael yn y Sgubor! Wel, bron â bod......
Mae'r Sgubor yng nghanol safle PJM a Fferm Penglais, dim ond tro byr ar droed o’r neuaddau eraill ar y campws.
Mae ar agor 24/7, mae ganddo beiriannau gwerthu â stoc dda o nwyddau, ac mae'n le gwych i astudio neu gymdeithasu.
Adnoddau a Chyfleusterau:
- 
- Y Swyddfa Llety
 - Byrddau Pŵl am ddim
 - Campfa (24/7 ar gyfer preswylwyr yn unig)
 - Gweithfannau
 - Socedi trydan a Sgriniau
 - Seddi meddal
 - Teledu
 - Argraffydd
 - Peiriannau gwerthu
 - Ffynnon ddŵr
 - Tai bach
 - Golchdy
 
 


Y cyswllt ar gyfer y dudalen hon:
Llety’r Brifysgol, Y Swyddfa Llety, Y Sgubor, Fferm Penglais, Aberystwyth, SY23 3FH
Ffôn: Llinell Gymorth Bywyd Campws: 01970 622900 Ebost: llety@aber.ac.uk 
