Am Fywyd Preswyl

Tîm o Fyfyrwyr, ar gyfer Myfyrwyr!

  • BywydAberlife – mae ganddom 4 gwerth craidd sy’n arwain a ddiffinio’r gwaith a wnawn:
    • Darparu Amgylchedd Diogel
    • Cyfoethogi Ysbryd Cymunedol
    • Ymgysylltiad Staff a Myfyrwyr
    • Lles Staff a Myfyrwyr

Mae’ch Cynorthwyydd Preswyl (CP) yn gyd-fyfyrwyr sydd yma i roi cymorth ac arweiniad wrthych, gan anelu at greu amgylchedd byw a dysgu cadarnhaol ac i feithrin ymdeimlad o gymuned ar draws y brifysgol. Gall hyn gynnwys cyngor ar ddatrys dadleuon fflatiau, ar sut i guro straen arholiadau, gwybodaeth am ddigwyddiadau, gweithgareddau a chwaraeon o amgylch yr ardal, neu ond cyngor ar ble i ddod o hyd o’r cwpan gorau o goffi yn Aber! Os nad ydynt yn gallu helpu, byddant yn eich cyfeirio at rywun sy’n gallu.

  • Eich amser yn ein Preswylfeydd
    Rydym yn ymroddedig i sicrhau eich bod yn cael yr amser gorau posibl yma a byddwn yn gweithio gyda chi a'ch cyd-fyfyrwyr i:
    • Darparu groeso cynnes ac annog trawsnewid esmwyth i Fywyd Prifysgol
    • Adeiladu ddiwylliant sy'n canolbwyntio ar y gymuned a fydd yn rhoi ymdeimlad o berthyn i chi
    • Ein nod yw dod â'n myfyrwyr ynghyd trwy gweithgareddau Bywyd Pres. a allai ddatblygu eich dysgu a'ch sgiliau, gan ddarparu cymorth ymarferol ar gyfer eich bywyd myfyriwr yn ogystal â gweithgareddau cymdeithasol a diwylliannol
    • Hyrwyddo ymddygiad byw positif ac i gyfeirio at unrhyw ymddygiad amhriodol
    • Darparu cefnogaeth cyfoedion i gyfoedion a chyfeirio at wasanaethau proffesiynol
    • Adeiladu ar y cysylltiad rhwng dysgu a phrofiadau byw
    • Mae Bywyd Pres. a’r tîm CP yn gweithio mewn partneriaeth â Chymorth Myfyrwyr a Gyrfaoedd, Undeb y Myfyrwyr, y Swyddfa Llety, a'r Tîm Eiddo Preswylfeydd.
    • Bydd yr CP yn cynorthwyo myfyrwyr ym mhob agwedd ar eich profiad byw ar y campws.

Eich amser yn ein Preswylfeydd

Ynghyd â'n cydweithwyr, mae'r Tîm Bywyd pres. yn gweithio i sicrhau bod eich llety'n parhau i fod yn addas i'r diben yn ystod eich cytundeb trwydded, gan weithio o fewn holl bolisïau a gweithdrefnau'r Brifysgol sy'n ymwneud â llety myfyrwyr a byw ar y campws fel bod gennych yr amser gorau posibl.

 

Cytundebau Cydletywyr

Bydd y tîm CP yn galw i gwrdd â thrigolion yn ystod y tymor 1af.

Mae’r rhain yn gyfarfodydd sydd wedi’u trefnu ymlaen llaw, gyda hysbysiad yn cael ei anfon ymlaen llaw i roi cyfle i bob myfyriwr fynychu, trafod a chytuno sut yr hoffech chi fyw a rhannu’r llety a’r mannau cymunedol.

Mae hwn yn gyfle i gytuno ar rai rheolau a ffiniau i helpu i adeiladu amgylchedd byw mwy ffafriol i bob myfyriwr sy'n byw gyda'i gilydd.

Ymweliadau Ardal

Bydd y tîm CP yn galw i gwrdd â myfyrwyr yn eu llety yn ystod y tymor ar rota 3 wythnos a drefnwyd ymlaen llaw. Mae'r ymweliadau ardal yn anffurfiol ac yn rhoi cyfle i fyfyrwyr rannu unrhyw faterion cyfredol neu ofyn am unrhyw gefnogaeth/cyfeirio perthnasol megis adrodd am gynhaliaeth.
Fe'ch hysbysir o'r ymweliadau hyn ymlaen llaw er mwyn rhoi pob cyfle i chi allu bod yn bresennol os dymunwch!

Gwasanaeth Galw Heibio

  • Bydd y tîm CP yn cynnal y sesiynau hyn yn ystod yr wythnos yn ystod y tymor er mwyn i fyfyrwyr alw yn bersonol i gwrdd ag aelod o'r tîm i drafod unrhyw faterion sy'n ymwneud â'u llety neu bryderon ehangach.
    Bydd y tîm yn cynnig y gefnogaeth, y cyfeiriadau a'r arweiniad priodol.

Cynigir y gwasanaeth hwn rhwng 18:00-20:00, mewn lleoliadau penodol a restrir fel a ganlyn:
Dydd Llun, yn Y Sgubor, Fferm Penglais, dydd Mawrth, yn Lolfa Rosser D, dydd Iau, ym Mhantycelyn, dydd Gwener, yn Lolfa Felen PJM a;
13:00-15:00 brynhawn Mercher yn Llyfrgell HO.

Gwasanaeth Sgwrsio Byw CP

Fel rhan o’n Gwasanaeth Bywyd Pres. rydym yn cynnig cyfleuster ‘sgwrsio byw’ rhwng 18:00-20:00 ar nosweithiau Llun, Mawrth, Iau a Gwener a sesiwn prynhawn ar ddydd Mercher rhwng 13:00-15:00. Gallwch ddechrau sgwrs trwy glicio ar y botwm ‘sgwrs fyw’ porffor ar dudalen we’r Swyddfa Llety.

Gallwch ddefnyddio'r sgwrs fyw i siarad ag aelod o'r tîm RA am unrhyw faterion yr ydych yn eu cael yn eich llety.

Cyfryngau Cymdeithasol

@BywydAberLife ar Facebook ac Instagram.