Polisi Mudiadau

Beth yw Mudiad (Organisation)?  

Safleoedd ar Blackboard yw Mudiadau sydd at ddibenion anacademaidd.  Yr un yw eu swyddogaeth â chwrs Blackboard a gellir eu defnyddio i roi gwybodaeth, hyfforddiant ar-lein, a mynediad at ddeunyddiau.   

Ni ddylai Mudiadau gael eu defnyddio at ddibenion asesu neu weithgareddau cwrs, oni bai bod yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu wedi cytuno ar hyn yn benodol.  Ni fydd Mudiadau'n cael eu creu ar gyfer unrhyw fodiwlau sy'n bodoli yn y System Rheoli Modiwlau.   

Mae rhai Mudiadau'n cael eu creu'n awtomatig ond gellir gofyn i’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu am Fudiadau newydd.     

Gallwn sefydlu ffrydiau i'ch Mudiad er mwyn gosod staff neu fyfyrwyr arnynt yn awtomatig fel Cyfranogwyr (gweler Opsiynau Cofrestru isod).    

Pwy all wneud cais  

Gall unrhyw aelod o staff ofyn am Fudiad, ond mae'n rhaid iddo gael cytundeb ei bennaeth adran, neu uwch noddwr y prosiect.   

Dylai pob Mudiad gael o leiaf 2 aelod o staff fel arweinwyr yn rhan o'r broses greu.  

Rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â'r Uned cyn gwneud cais (eddysgu@aber.ac.uk) i drafod eich gofynion.    

Mudiadau Adrannol  

Mae gan bob adran Fudiad ar wahân ar gyfer myfyrwyr Israddedig, Uwchraddedig, a Staff yn eu hadran.   

Mae'r rhain ar ffurf:  

DEPT-[llythyren adrannol]-UG-O (e.e. DEPT-N-UG-O)  

Mae'r Mudiadau hyn yn cael eu creu'n awtomatig â’r cyfranogwyr perthnasol yn bwydo i'r Mudiad yn awtomatig.  

Bydd myfyrwyr newydd ac aelodau staff yn bwydo i mewn i’r Mudiad unwaith y byddant wedi actifadu eu cyfrif.    

Os oes angen mynediad o fath gwahanol arnoch i Fudiad, er enghraifft, os oes angen mynediad fel Arweinydd arnoch i Fudiad staff adrannol, cysylltwch â'r Uned (eddysgu@aber.ac.uk).   

Cais am Fudiad newydd  

Bydd yr holl geisiadau yn cael eu hystyried gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu gan ddilyn y canllawiau hyn.  Rheolwr yr Uned (neu’r dirprwy) fydd yn penderfynu’n derfynol ar greu Mudiad newydd.    

Fel arfer, ni fydd ceisiadau am Fudiadau ar gyfer is-setiau o fyfyrwyr neu staff mewn adran yn cael eu cymeradwyo (e.e. holl fyfyrwyr y flwyddyn olaf, pob aelod o staff ymchwil).  Fel arfer, ni fydd ceisiadau am Fudiadau ar gyfer yr un set o fyfyrwyr neu staff â Mudiad sy’n bodoli eisoes yn cael eu cymeradwyo.   

Mae hyn er mwyn lleihau nifer y lleoliadau sydd i ddefnyddwyr edrych arnynt.  Gall yr Uned gynghori ar sut i reoli’r defnydd o adnoddau trwy Fudiadau adrannol sy’n bodoli eisoes, gan ddefnyddio offer fel Grwpiau.   

Gofynnir i bob cais i Fudiadau ddarparu hyfforddiant neu gynefino gorfodol ar gyfer yr holl staff a/neu fyfyrwyr ystyried a ellir defnyddio Mudiad sydd eisoes yn bodoli.  Mae hyn er mwyn lleihau nifer y safleoedd y mae'n rhaid i staff a myfyrwyr edrych arnynt.   

Fel arfer, ni fydd ceisiadau am Fudiadau Cymraeg a Saesneg ar wahân am yr un wybodaeth neu brosiect yn cael eu cymeradwyo.  Rydym yn cynghori creu Mudiadau dwyieithog fel y gall defnyddwyr newid rhwng ieithoedd yn hawdd.  Mae hyn hefyd yn sicrhau y gellir diweddaru deunyddiau Cymraeg a Saesneg ar yr un pryd.  Gall yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu gynghori ar ffyrdd o drefnu cynnwys dwyieithog.   

Pa wybodaeth sydd ei hangen  

Wrth wneud cais am Fudiad newydd, rhowch y manylion canlynol os gwelwch yn dda   

  • Enw, e-bost ac adran y sawl sy'n gwneud cais  
  • Enw'r Mudiad (yn ddwyieithog lle bo hynny'n briodol)   
  • Pwrpas y Mudiad  
  • Cofrestriadau ar gyfer y Mudiad (gweler y Dewisiadau Cofrestru isod)  
  • Aelod neu aelodau eraill o'r staff i'w cynnwys fel Arweinwyr ar y Mudiad  
  • Cymeradwyaeth gan y Pennaeth Adran  

Unwaith y bydd cais wedi cyrraedd, bydd yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn ymateb o fewn 3 diwrnod gwaith. Efallai y bydd angen mwy o wybodaeth, ac efallai y byddwn yn gofyn am gyfarfod i drafod y gofynion cyn i'r Mudiad gael ei greu.    

Proses adolygu  

Bydd pob Mudiad yn cael ei adolygu bob haf, a gofynnir i’r arweinwyr gadarnhau bod angen y Mudiad o hyd.  Bydd Mudiadau nad ydynt yn cael eu creu'n awtomatig ac nad ydynt wedi cael defnydd gan gyfranogwyr ers 2 flynedd yn cael eu gwneud yn ddi-rym.  Bydd yr Uned yn cysylltu â'r arweinwyr i gadarnhau nad oes ei angen mwyach.   

Rhaid i arweinwyr gysylltu â'r Uned os:   

  1. nad oes angen y Mudiad mwyach;  
  1. yw’r arweinwyr yn newid rôl o fewn PA neu'n gadael y brifysgol.  

Opsiynau Cofrestru   

Gellir ychwanegu'r grwpiau canlynol o ddefnyddwyr at Fudiadau.  Os nad yw'r rhestr hon yn cynnwys eich gofynion cofrestru, cysylltwch â'r Uned i drafod opsiynau.  Ni allwn warantu y bydd opsiynau cofrestru ar gael y tu hwnt i'r rhestr hon.  Gweler isod am esboniad pellach ynghylch categorïau cardiau a champysau.   

Yn y rhan fwyaf o achosion bydd defnyddwyr yn cael eu hychwanegu fel cyfranogwyr ar y Mudiad.