Gwobr Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr

Cronfa newydd yw’r Wobr Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr sydd wedi’i sefydlu i gefnogi astudiaethau a phrosiectau arloesol i wella addysg a phrofiad y myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae’r Wobr yn gysylltiedig â'r Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol, ac anogir cydweithwyr i sicrhau bod eu prosiectau yn cyd-fynd â themâu'r gynhadledd y flwyddyn honno.  Mae'r gronfa yn cynnwys £10K y gall cydweithwyr wneud cais amdano.  Mae £5K o’r gronfa hon yn dod o Swyddfa'r Is-Ganghellor a £5K oddi wrth Medr

Mae angen sicrhau bod y cynigion yn ystyried gwerthoedd craidd y Wobr:   

  • Myfyrwyr-fel-partneriaid 
  • Hygyrchedd i bawb  
  • Y Gymraeg
  • Y gallu i ehangu yn ôl yr angen a’u mabwysiadu gan gydweithwyr ac ardaloedd eraill ar draws y Brifysgol 

Bwriad y gronfa eleni yw cefnogi prosiectau ac ymyriadau sy'n seiliedig ar syniadau a drafodwyd yn y gynhadledd ar draws y themâu canlynol: 

  • Iechyd a lles/ iechyd meddwl yng nghyd-destun dysgu ac addysgu
  • Hygyrchedd a chynhwysiant (dysgu cynhwysol a dylunio addysgu)
  • Meithrin cyswllt ac asesu tosturiol

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yn y cylch dyfarnu hwn yw: 12:00yp dydd Gwener 10 Hydref 2025

Rydym wedi llunio rhai Cwestiynau Cyffredin a welir isod yn y tab Canllawiau i Ymgeiswyr ond os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â gweinyddwyr y gronfa ar eddysgu@aber.ac.uk.

Trosolwg o'r Rhaglen

Mae pum cam i raglen y Wobr Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr fel a ganlyn:

  1. Yn gyntaf, bydd ceisiadau am y wobr yn cael eu cwblhau a'u hanfon at y tîm gweinyddu erbyn 12.00yp 10 Hydref 2025.  Unwaith y bydd y dyddiad cau wedi mynd heibio, bydd yr holl geisiadau yn cael eu prosesu a'u paratoi i'w hanfon at y panel dyfarnu.
  2. Yn ystod y Cyfnod Dyfarnu, bydd y panel yn cyfarfod ar y 24 Hydref 2025 i ystyried a fydd cais yn llwyddiannus a faint o gyllid a roddir iddo.  Bydd pob ymgeisydd yn cael gwybod am ganlyniad eu cais ar 3 Tachwedd 2025, ac ar y 10 Tachwedd bydd arian yn cael ei drosglwyddo i’r cyllidebau adrannol ar gyfer y prosiectau llwyddiannus.
  3. Ar 11 Chwefror 2026, cynhelir digwyddiad Cynnydd Canol Tymor a fydd yn rhoi cyfle i ymgeiswyr llwyddiannus rannu eu prosiect a'u cynnydd gyda'i gilydd a chyda rhanddeiliaid.   Bydd hwn hefyd yn gyfle i gael adborth. 
  4. Bydd disgwyl i'r prosiectau gael eu cwblhau erbyn 31 Gorffennaf 2026.
  5. Bydd disgwyl i’r ymgeiswyr llwyddiannus gyflwyno eu gwaith yn y 14eg Gynhadledd Dysgu ac Addysgu yn 2026, lle byddant yn rhannu eu prosiectau a'u canlyniadau gyda chynrychiolwyr eraill.  Bydd eu prosiectau hefyd yn cael eu troi'n esiamplau o astudiaethau achos ymarfer i'w cyhoeddi ar ein blog a'n tudalennau gwe.  

Pwy sy’n gymwys i wneud cais?

Mae pob aelod o staff ar draws yr Adrannau Academaidd a’r Gwasanaethau Proffesiynol yn gymwys i wneud cais. Disgwylir bod o leiaf un aelod o dîm y prosiect wedi mynychu'r gynhadledd neu wedi ymgysylltu â deunyddiau'r gynhadledd i lywio'r cais. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am hyn, mae croeso i chi gysylltu ag eddysgu@aber.ac.uk.    

Sut mae gwneud cais?

I wneud cais am y Wobr Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr, bydd gofyn i chi lenwi ein ffurflen gais a'i hanfon dros e-bost at eddysgu@aber.ac.uk cyn y dyddiad cau sef 12.00yp Dydd Gwener 10 Hydref 2025.

Ffurlen gais am Wobr Cynhadledd Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr

Mae'r ffurflen gais yn cynnwys tair adran:

Amdanoch Chi

Bydd yr adran hon yn amlinellu:

  • Pwy fydd eich Arweinydd Prosiect
  • Eich adran
  • Pwy fydd yn rhan o'ch prosiect
  • Cyfeiriad e-bost yn bwynt cyswllt ar gyfer eich cais.   

Cynnig ar gyfer prosiect.

Dyma’r lle y byddwch yn cynnwys:

  • Amlinelliad o'ch prosiect
  • Sut mae eich prosiect yn ymwneud â themâu'r gynhadledd
  • 2 darged CAMPUS (Cyraeddadwy, Amser Wedi’i Bennu, Mesuradwy, Penodol, Uchelgeisiol a Synhwyrol) ar gyfer eich prosiect

Gall eich disgrifiad fod ar ffurf darn ysgrifenedig 500 gair neu recordiad Panopto 3 munud.

Gweinyddwr Prosiect

Mae rhan olaf y ffurflen yn cynnwys:

  • Cadarnhad a fydd angen cymeradwyaeth moeseg ai peidio
  • Cadarnhad o gymeradwyaeth gan eich Pennaeth Adran
  • Amserlen o'r hyn y bydd eich prosiect yn ei gynnwys, a dadansoddiad o sut y bydd cyllid eich prosiect yn cael ei ddefnyddio.

Gwerthoedd craidd

Mae angen sicrhau bod cynigion yn ystyried:  

  • Myfyrwyr-fel-partneriaid 
  • Hygyrchedd i bawb  
  • Y Gymraeg
  • Y gallu i ehangu yn ôl yr angen a’u mabwysiadu gan gydweithwyr ac ardaloedd eraill ar draws y Brifysgol 

 

Ar ôl i’r dyddiad cau fynd heibio, bydd eich cais yn cael ei adolygu gan banel wedi’i ddethol o blith uwch academyddion, myfyrwyr a rhanddeiliaid o bob rhan o'r ddwy gyfadran.  Byddwch yn cael gwybod a yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus ai peidio.  Petaech chi’n llwyddiannus, penodir Mentor Prosiect sydd â gwybodaeth a phrofiad ym maes eich prosiect a bydd cyllid yn cael ei ddyrannu o’r wobr.  

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r broses ymgeisio, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â ni yn eddysgu@aber.ac.uk.  Am gyngor ac arweiniad i ymgeiswyr, gweler y deunyddiau a ddarperir isod.  

Pam ddylwn i wneud cais?

Mae'r Wobr Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr yn gyfle i gael y gefnogaeth ariannol sydd ei angen i gynnal prosiectau ac ymyriadau a all wneud gwahaniaeth i ansawdd addysgu a phrofiad myfyrwyr yma ym Mhrifysgol Aberystwyth.  Os ydych chi'n llwyddiannus yn eich cais, byddwch yn manteisio ar y canlynol:

  • Cyfraniad sylweddol at wella profiad y myfyrwyr yma yn Aberystwyth.
  • Tystiolaeth y gallwch ei defnyddio i fodloni meini prawf wrth ddatblygu eich gyrfa.
  • Profiad y gallwch ei ddefnyddio fel tystiolaeth wrth gynnig am wobrau eraill a chyfleoedd am gymrodoriaethau megis y rhai sy'n cael eu rhedeg gan AU Ymlaen.
  • Cydnabyddiaeth o'ch ymarfer rhagorol a'ch syniadau arloesol.
  • Y cyfle i redeg prosiect cydweithredol gyda chydweithwyr ar draws y brifysgol a phartneriaid sy’n fyfyrwyr.

Cyfarwyddiadau i Ymgeiswyr

Rydym wedi crynhoi atebion i gwestiynau cyffredin ynghylch cyflwyno cais Gwobr Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr.

Sut ydw i'n cwblhau'r ffurflen?

Mae'r ffurflen mewn fformat Excel ac ar gael ar ein tudalen we.  Rhowch eich testun yn y celloedd perthnasol.  

Ar gyfer Disgrifiad y Prosiect, mae croeso i chi ysgrifennu 500 o eiriau neu ddarparu recordiad 3 munud o hyd.  Os ydych chi'n recordio, uwchlwythwch ef i Panopto a chynnwys dolen i'r recordiad yn y cais.  Mae rhagor o gymorth ar ddefnyddio Panopto ar gael ar ein tudalennau gwe.   

Cofiwch sicrhau eich bod yn rhoi tic i ddangos eich bod wedi ystyried goblygiadau moesegol y prosiect a'ch bod wedi ymgynghori â'ch Pennaeth Adran neu'ch Rheolwr Llinell a'u bod hwy yn hapus i chi ymgymryd â'r prosiect.   

Rydym wedi gofyn am amserlen ar gyfer y prosiect arfaethedig a dadansoddiad o’r gwariant arfaethedig er mwyn rhoi cyfle i gydweithwyr nodi yn gyffredinol y gweithgareddau y maent yn gobeithio eu cwblhau.

Faint o arian alla i wneud cais amdano?

Gallwch wneud cais am hyd at £2,000 o'r gronfa sy’n £10,000.  Sylwch mai dim ond un cais y flwyddyn y gallwch gyflwyno.  Fel rhan o'ch cais, gofynnir i chi ddarparu crynodeb sy’n rhoi trosolwg o'ch dadansoddiad cyllideb arfaethedig.  Rhoddir y gyllideb i'ch adran er mwyn i chi ei gwario ar y prosiect.  

Beth mae'r panel yn chwilio amdano?

Mae'r panel yn chwilio am brosiectau sy'n realistig ac yn gysylltiedig â thema'r gynhadledd sef asesu tosturiol.  

Fel rhan o'r cynnig, gofynnir i ymgeiswyr ddarparu 2 darged.  Dylai'r targedau hyn fod yn dargedau CAMPUS:  Cyraeddadwy, Amser Wedi’i Bennu, Mesuradwy, Penodol, Uchelgeisiol a Synhwyrol.   

Yn ogystal â hyn, bydd y panel yn rhoi eu hargraffiadau cyntaf o'r prosiect, ac yn gwirio’r canlynol:  

  • Ei fod yn hygyrch i bawb    
  • Y gellir ei gyflawni o fewn yr amserlen   
  • Ei fod yn berthnasol i gyd-destunau dysgu Cymraeg a Saesneg   
  • Ei fod yn cyd-fynd â themâu'r gynhadledd  
  • Ei fod wedi'i gymeradwyo gan Bennaeth yr Adran neu'r rheolwr llinell  
  • Bod goblygiadau moesegol wedi'u hystyried  
  • Ei fod wedi'i gostio'n realistig   
  • Y gellir ei ehangu yn ôl yr angen ar draws y Brifysgol  
  • Ei fod yn defnyddio dull myfyrwyr fel partneriaid  

Mae gan y panel ddiddordeb hefyd mewn prosiectau sy'n gweithio ar draws adrannau a disgyblaethau, ac yn cynnwys cydweithredu rhwng gwasanaethau proffesiynol ac adrannau academaidd.  

Ar ein blog, mae gennym ddeunyddiau ynghylch myfyrwyr fel partneriaid. 

Sut y caiff fy nghais ei asesu?

Bydd eich cais yn cael ei anfon at banel sy'n cynnwys:  

  • Dirprwy Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr (Cadeirydd)  
  • Swyddog Materion Academaidd  
  • ⁠Swyddog Diwylliant Cymru a Llywydd UMCA 
  • Myfyriwr  
  • 2 x uwch academydd (un o bob cyfadran) 
  • Aelod o staff Addysg Ddigidol 
  • Arbenigwr yn seiliedig ar thema'r gynhadledd.  Eleni, aelod o’r Gwasanaethau i Fyfyrwyr yw hwn.  

Bydd pob aelod o'r panel yn adolygu'r cais.  Byddant yn rhoi eu sylwadau ar y cwestiynau canlynol:  

  • Beth yw eu hargraff gyntaf o'r cynnig? 
  • Ydy’r targedau o fewn cyrraedd?  
  • Beth yw cryfderau'r cynnig?  
  • Oes gennych chi unrhyw bryderon ynghylch y cynnig?  

Bydd y panel hefyd yn gwirio’r prosiect o ran y canlynol:  

  1. Ei fod yn hygyrch i bawb   
  2. Y gellir ei gyflawni o fewn yr amserlen  
  3. Ei fod yn berthnasol i gyd-destunau dysgu Cymraeg a Saesneg  
  4. Ei fod yn cyd-fynd â themâu'r gynhadledd 
  5. Ei fod wedi'i gymeradwyo gan Bennaeth yr Adran neu'r rheolwr llinell 
  6. Bod goblygiadau moesegol wedi'u hystyried 
  7. Ei fod wedi'i gostio'n realistig  
  8. Y gellir ei ehangu yn ôl yr angen ar draws y Brifysgol 
  9. Ei fod yn defnyddio dull myfyrwyr fel partneriaid  

Bydd y panel wedyn yn cyfarfod i drafod y cynnig.  

Mae 3 canlyniad ar gyfer y cynnig:  

  1. Cymeradwyo – cymeradwyir y prosiect heb unrhyw ddiwygiadau a threfnir i symud yr arian i gyfrif eich Adran.  
  2. Gwrthod – teimlir nad yw'r prosiect yn ei ffurf bresennol yn addas.  Bydd ymgeiswyr yn cael adborth os rhoddir yr opsiwn hwn.  
  3. Cymeradwyo, ond gyda rhai newidiadau – mae hyn yn golygu bod y panel wedi cytuno i agweddau ar y cynnig ac yn barod i'w ariannu cyn belled â bod rhai newidiadau.   Gallai'r rhain gynnwys lleihau'r gyllideb y gofynnwyd amdano neu ddyrannu mwy o arian.  Efallai y byddwn hefyd yn awgrymu tynnu cynigion at ei gilydd.   

Bydd y prif ymgeisydd yn cael ei hysbysu drwy e-bost ar yr wythnos sy'n dechrau 10 Tachwedd 2025.

 

Pa fathau o weithgareddau y gallaf eu defnyddio yn y prosiect?

A oes angen i mi geisio cymeradwyaeth o ran moeseg ar gyfer fy mhrosiect?

Os ydych chi'n casglu data gan fyfyrwyr fel rhan o'r prosiect, efallai y bydd angen cymeradwyaeth moeseg arnoch.  Ar y ffurflen gais gofynnir i chi ddewis rhwng dau opsiwn:  

  • Nid oes angen cymeradwyaeth foesegol 
  • Mae angen cymeradwyaeth foesegol ac rwyf wedi cwblhau ffurflen foeseg ar-lein  

Os nad ydych yn siŵr a oes angen i chi wneud cais am foeseg, gweler y canllawiau ar y dudalen foeseg ar y we neu cysylltwch ag ethics@aber.ac.uk.  Os oes angen cymeradwyaeth foesegol arnoch cyflwynwch ffurflen gais moeseg ymchwil.

A oes unrhyw beth y dylwn i ei osgoi yn y prosiect?

Nod y prosiectau hyn yw eu bod yn brosiectau gorchwyl a gorffen o fewn y flwyddyn ariannol.  Dylai'r prosiect gael canlyniadau clir a diriaethol.  Gan hynny, ni ddylid defnyddio'r arian ar gyfer gweithgareddau busnes-fel-arfer.   

Os ydych chi'n prynu offer neu feddalwedd fel rhan o'r prosiect, ystyriwch pwy sydd â’r hawl i ddefnyddio’r offer a'r feddalwedd, pwy sy'n ei gynnal a'i gadw, a beth yw eich cynlluniau ar ei gyfer unwaith y bydd y prosiect wedi dod i ben.  Os oes gennych unrhyw gwestiynau am hyn, mae croeso i chi gysylltu â ni ar eddysgu@aber.ac.uk.   

Rydw i wedi bod yn llwyddiannus ac mae fy nghais wedi'i gymeradwyo. A oes unrhyw beth y mae disgwyl i mi ei wneud?

Llongyfarchiadau ar gael y cyllid!  Rydym yn gobeithio y byddwch chi'n mwynhau rhedeg eich prosiect.  Fel rhan o amodau'r cyllid, rydym yn disgwyl i gydweithwyr:  

  • Gyfrannu at y Gynhadledd Addysg a Phrofiad Myfyrwyr sy’n dilyn trwy roi cyflwyniad neu gynnal gweithdy a lledaenu canfyddiadau eu prosiect i eraill  
  • Cyflwyno a chymryd rhan mewn digwyddiad anffurfiol i drafod cynnydd y prosiect ar 11 Chwefror.  Bydd pob ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei wahodd i ddigwyddiad lle bydd yn cyflwyno’r gwaith i randdeiliaid allweddol er mwyn dangos y cynnydd, gofyn am adborth, ac i gael trafodaeth ynghylch sut y gellid datblygu'r prosiect  
  • Cynhyrchu blogbost yn amlinellu canlyniadau’r prosiect  
  • Gweithredu fel mentoriaid ar gynigion prosiectau yn y dyfodol 

Rydw i wedi bod yn llwyddiannus ac mae fy nghais wedi'i gymeradwyo. Pa gefnogaeth alla i ei ddisgwyl?

Rydym wrth law i'ch cynorthwyo trwy gydol proses y prosiect.  Mae croeso i chi gysylltu â ni ar unrhyw adeg (naill ai cyn gwneud cais neu yn ystod proses y prosiect) ar eddysgu@aber.ac.uk.   

Byddwn hefyd yn neilltuo mentor i bob prosiect a fydd yn cynnig eu harbenigedd.  Bydd gan y mentor hwn wybodaeth am y maes rydych chi'n gweithio ynddo a gall fod yn aelod o staff neu'n fyfyriwr.   

 

Os oes gennych ragor o gwestiynau am Wobr Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr neu ynghylch cyflwyno cais, mae croeso i chi gysylltu â ni ar eddysgu@aber.ac.uk