2. Datblygu ac Adolygu
Mae copi pdf o'r adran hon ar gael i'w lawrlwytho: Mae'r dudalen hon yn cael ei ddiweddaru ar hyn o bryd.
-
2.1 Cyflwyniad i Ddatblygu ac Adolygu
Cyflwyniad
1. Mae Adran 2 y Llawlyfr yn disgrifio trefniadau’r Brifysgol ar gyfer cynllunio, datblygu a chymeradwyo rhaglenni astudio newydd. Mae hefyd yn ymdrin â’r ymarferion blynyddol a chyfnodol er mwyn monitro ac adolygu darpariaeth sy’n bodoli eisoes, a hynny ar lefel cynllun a modiwl.
Datblygu'r cwricwlwm
2. Dylid datblygu cynlluniau a modiwlau newydd o fewn yr adrannau academaidd, gan ddilyn arfer da wrth gynllunio cwricwlwm, ac ystyried disgrifiadau lefel ASA a’r datganiadau meincnodi pwnc. Dylid ymgynghori gyda myfyrwyr, ac ymgynghori’n allanol gydag arholwyr allanol, arbenigwyr pwnc, cyrff proffesiynol (PSRB) neu gyrff ymgynghorol eraill yn gynnar yn ystod datblygiad cynllun, a bydd tystiolaeth ddogfennol o’r broses hon yn cael ei hystyried gan banel craffu academaidd sefydlog. Dylai Adrannau ystyried goblygiadau unrhyw ddatblygiad newydd ar gyfer staffio i ddiogelu gwytnwch y portffolio, ac ystyried yn ogystal y cylch cynllunio dwy flynedd er mwyn sicrhau bod modd cwblhau’r broses cymeradwyo cynllun mewn da bryd fel bod modd sicrhau marchnata effeithiol.
3. Wrth gynllunio cynllun neu fodiwl newydd, bydd angen i'r adrannau ystyried y meini prawf a amlinellir yn y Ffurflen Datblygu Cynllun a’r Ffurflen Cymeradwyo Modiwl. Bydd y dogfennau hyn yn cael eu hystyried yn fanwl yn ystod y prosesau cymeradwyo a amlinellir yn Adran 2 y Llawlyfr Ansawdd Academaidd.
Cyfraith Defnyddwyr a newidiadau i ddarpariaeth sy’n bodoli eisoes
4. Ym mis Mai 2023, diweddarwyd y cyngor a roddir gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) i ddarparwyr addysg uwch ynglŷn â chyfraith defnyddwyr, a gyhoeddwyd gyntaf ym mis Mawrth 2015. Nod y diweddariad oedd sicrhau bod y cyngor a roddir i ddarparwyr, er enghraifft wrth gyfeirio at gyfraith defnyddwyr a rhanddeiliaid, yn gyfoes. Er bod rhywfaint o’r iaith a’r cyfeiriadau yn y ddeddfwriaeth wedi newid, yr un yw ymrwymiad darparwyr addysg uwch o ran sylwedd i’r hyn a gyhoeddwyd yn y cyngor gwreiddiol sy’n amlinellu safbwynt yr Awdurdod o ran cydymffurfio mewn nifer o feysydd gan gynnwys darparu gwybodaeth i fyfyrwyr israddedig. Mae’r Asiantaeth Sicrwydd Ansawdd (ASA) wedi llunio canllaw ymarferol er mwyn cynorthwyo darparwyr i gyflwyno gwybodaeth o ansawdd uchel i ddarpar fyfyrwyr, a hynny yn cynnwys gofynion mynediad, strwythur a dull dysgu’r cwrs, gwybodaeth am fodiwlau, asesiadau ac adborth, a chostau’r cwrs. Mae’r cyngor diwygiedig a ailgyhoeddwyd (31 Mai 2023) ar gael yma https://assets.publishing.service.gov.uk/media/64771faeb32b9e0012a95f30/Consumer_law_advice_for_higher_education_providers_.pdf
5. Rhaid i'r Cyfadrannau gynllunio’n ofalus cyn cyflwyno unrhyw newidiadau i gynlluniau cyfredol, a’r modiwlau sy’n cyfrannu tuag atynt. Os yw newidiadau’n cael eu cynnig fel rhan o ymarferiadau monitro neu adolygu blynyddol, neu mewn ymateb i drefniadau adborth allanol neu adborth myfyrwyr, rhaid i'r adrannau ymgynghori gyda myfyrwyr cyfredol (yn cynnwys y rhai sydd wedi derbyn cynnig ond sydd heb ddechrau eu hastudiaethau) cyn y gellir ystyried cymeradwyo’r newidiadau. Bydd union natur yr ymgynghori hwn yn dibynnu ar ystod y newidiadau arfaethedig ond fe all ddilyn un o’r dewisiadau canlynol. Dylai'r Adrannau ymgynghori â’r Tîm Sicrwydd Ansawdd yn y Gofrestrfa Academaidd i gael cyngor pellach: qaestaff@aber.ac.uk:
(i) Ymgynghori drwy'r Pwyllgor Ymgynghorol Staff-Myfyrwyr
(ii) Ymgynghori gyda myfyrwyr unigol trwy e-bost, gyda’r myfyrwyr yn anfon ymatebion at Gynrychiolwyr Myfyrwyr er mwyn galluogi trafodaeth ar y cyd mewn cyfarfod o Bwyllgor Ymgynghorol Staff / Myfyrwyr
(iii) Ymgynghori gyda myfyrwyr unigol trwy e-bost, gyda rheidrwydd i gael cydsyniad pob myfyriwr.
6. Mewn achosion lle y mae’n bosibl na fydd modiwlau dewisol yn cael eu cynnig oherwydd diffyg diddordeb neu am nad oes aelodau staff ar gael i’w dysgu, dylid gwneud hyn yn eglur i fyfyrwyr trwy’r wybodaeth a gyhoeddir. Dylid hysbysu myfyrwyr o unrhyw newid i’r dewis o fodiwlau sydd ar gael cyn gynted â phosibl er mwyn iddynt allu dewis modiwl arall. Bydd hyn yn cael ei egluro i fyfyrwyr mewn llawlyfrau adrannol, sy’n cynnwys datganiad cyffredin ar lefel prifysgol.
Manylaebau Rhaglen
7. Mae Cod Ansawdd y DU ar gyfer Addysg Uwch 2024 yn mynnu bod cyrff dyfarnu graddau yn darparu gwybodaeth ddiffiniol am eu dyfarniadau. Gweler Egwyddor 7 – Cynllunio, datblygu, cymeradwyo ac addasu rhaglenni Arferion Allweddol 7b Cynhyrchir set ddiffiniol o ddogfennau o’r prosesau dylunio, datblygu, cymeradwyo ac addasu; fe’u cedwir yn ddiogel ac maent yn gweithredu fel y brif ffynhonnell wybodaeth am bob rhaglen.
Gwneir hyn trwy’r fanyleb rhaglen, sy’n cynnwys manylion am yr wybodaeth, dealltwriaeth, sgiliau a phriodoleddau eraill y bydd myfyrwyr yn eu datblygu wrth gwblhau’r dyfarniad yn llwyddiannus, ynghyd â’r gweithgareddau dysgu ac asesu sy’n eu cefnogi wrth iddynt ddysgu.
8. Y Gofrestrfa Academaidd sy’n gyfrifol am gynnal y manylebau rhaglen ar-lein, a disgwylir i adrannau adolygu’r rhain bob blwyddyn. Archwilir y manylebau rhaglen hefyd yn rhan o adolygu ac ailddilysu cynlluniau. Darperir templed ar gyfer eu paratoi ar y dechrau a’u cymeradwyo. Ceir templed penodol ar gyfer cynlluniau sy’n cynnwys blwyddyn integredig mewn diwydiant neu flwyddyn yn astudio dramor, gyda chanlyniadau dysgu a fydd yn gyffredin i bob cynllun. Mae’r rhain ar gael yn Adran 2.14 y Llawlyfr Ansawdd Academaidd. Cyhoeddir canllawiau ar gyfer ysgrifennu manylebau rhaglen gan yr Academi Addysg Uwch, ac maent ar gael yma: (https://www.heacademy.ac.uk/system/files/new_writing_programme_specification.pdf).
Marchnata cynlluniau newydd
9. Mae’r Brifysgol wedi mabwysiadu’r polisi canlynol ar gyfer marchnata a chyhoeddi gwybodaeth am gynlluniau newydd.
10. Ni fydd cynlluniau yn cael eu hysbysebu ar dudalennau ‘chwilio am gwrs’ y Brifysgol, ac ni fyddant ar gael i ymgeiswyr trwy UCAS, hyd nes iddynt dderbyn cymeradwyaeth derfynol. Ni chaniateir unrhyw eithriad i’r polisi hwn.
11. Gellir hysbysebu pob cynllun newydd ym mhrosbectws printiedig y Brifysgol ‘yn dibynnu ar gymeradwyaeth’ yn sgil ystyriaeth gychwynnol gan y Panel Craffu Academaidd.
12. Mewn achosion eithriadol, gall y Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr) ganiatáu dulliau marchnata eraill ‘yn dibynnu ar gymeradwyaeth’. Byddai hyn yn golygu bod yr adrannau yn gallu cynhyrchu taflenni print neu arddangos manylion ar wefannau adrannol neu trwy’r cyfryngau cymdeithasol. Noder na fydd hyn yn cynnwys UCAS na thudalennau cyrsiau’r Brifysgol. Er mwyn gofyn i’r Dirprwy Is-Ganghellor ystyried caniatáu marchnata ehangach ‘yn dibynnu ar gymeradwyaeth’, bydd angen i'r adrannau gwblhau cais yn y rhan berthnasol o’r Ffurflen Datblygu Cynllun. Dyma’r meini prawf ar gyfer penderfyniad gan y Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg a Phrofiad Myfyrwyr):
Ar gyfer cynlluniau a fydd yn cael eu dysgu yn Aberystwyth:
(i) Rhaid i o leiaf 75% o’r cynllun fod yn cael ei ddarparu eisoes trwy fodiwlau cyfredol
(ii) Mae’r holl adnoddau ar gyfer darparu’r cynllun yn bodoli eisoes
(iii) Cadarnhawyd teitl y cynllun eisoes, ac ni fydd unrhyw newid pellach.
Ni fydd marchnata ‘yn dibynnu ar gymeradwyaeth’ yn cael ei gymeradwyo os ystyrir y gallai teitl y cynllun gael ei drafod ymhellach a’i newid yn ystod cam y panel yn y broses cymeradwyo cynlluniau.
Ar gyfer cynlluniau a fydd yn cael eu darparu trwy bartneriaeth gydweithredol:
(i) Mae'r trefniant partneriaeth eisoes wedi'i gymeradwyo
(ii) Mae’r cynllun yn seiliedig ar ddarpariaeth sy’n bodoli eisoes yn Aberystwyth ac ni fydd unrhyw addasu cynnwys na newid i’r teitl.
Gwybodaeth gyhoeddedig
13. Yr Adrannau sy'n gyfrifol am gynnal gwybodaeth gywir a chyfredol am eu cyrsiau. Ceir canllawiau ar sut i gyhoeddi gwybodaeth am gyrsiau trwy dudalennau Tîm y We: https://www.aber.ac.uk/cy/is/it-services/web/courses/. Cyhoeddir gwybodaeth am gyrsiau yma https://cyrsiau.aber.ac.uk/ a cheir manylion strwythur y cynlluniau yn ôl blwyddyn academaidd yma https://www.aber.ac.uk/cy/study-schemes/ . Cyhoeddir mynegai i fodiwlau cyfredol a’u manylion fesul blwyddyn academaidd ac Adran yma https://www.aber.ac.uk/cy/modules/.
-
2.2 Cymeradwyo Modiwlau
-
Cyflwyniad
1. Mae Trefn Cymeradwyo Modiwlau’r Brifysgol yn cael ei goruchwylio gan y Pwyllgor Ansawdd a Safonau. Y Cyfadrannau sy’n gyfrifol am gymeradwyo modiwlau newydd a modiwlau sydd wedi'u had-drefnu, mân newidiadau i fodiwlau a gohirio a dileu modiwlau. Dylid gwneud cynigion ar gyfer modiwlau newydd a modiwlau wedi'u had-drefnu ar-lein gan ddefnyddio system Rheoli Modiwlau APEX a'u cyflwyno i'r Gyfadran berthnasol i'w hystyried. Dylai aelod o staff academaidd annibynnol graffu ar y cynigion; bydd yr adolygydd yn cael ei enwebu fel rhan o lif gwaith cymeradwyo'r modiwl a dylent gwblhau'r adran adolygu cyn i'r modiwl gael ei ystyried gan y G. Ar ôl cael cymeradwyaeth y Gyfadran, bydd y Swyddfa Gweinyddu Myfyrwyr yn cael gwybod am y newidiadau a fydd yn cael eu cofnodi yng nghronfa ddata’r modiwl. Dylid defnyddio’r system APEX i wneud cynigion ar gyfer modiwlau Dysgu o Bell sy’n seiliedig ar fodiwlau sydd eisoes yn bodoli ac yn cael eu dysgu ar y campws, a modiwlau Cyfrwng Cymraeg sy'n gopi uniongyrchol o fodiwl cymeradwy, neu i'r gwrthwyneb.
2. Dylai pob modiwl newydd, a’r rhai a ad-drefnwyd, gael eu cymeradwyo gan Gyfadrannau a dylid diweddaru’r wybodaeth ar gronfa ddata’r modiwlau a’r cynllun ar gyfer y sesiwn academaidd ddilynol. Dylid gwneud hyn erbyn diwedd tymor y gwanwyn neu heb fod yn hwyrach na 31 Mawrth os daw tymor y gwanwyn i ben ar ôl y dyddiad hwn.
3. Dylid gwneud mân newidiadau gan ddefnyddio'r system Rheoli Modiwl APEX ond ni fydd angen adolygwr mewnol, er enghraifft mewn achosion o newid teitl, newidiadau bach mewn cynnwys, newidiadau i bwysiad asesiad lle nad yw hyn yn effeithio ar ganlyniadau dysgu, a newidiadau i'r semester. Rhaid cwblhau'r broses gymeradwyo yn gyfan gwbl os oes newidiadau sylweddol i’r modiwl o ran ei gynnwys, ei ganlyniadau dysgu neu’r asesu.
4. Dylid cyflwyno cynigion i ddileu a/neu ohirio modiwlau i'r Gyfadran i'w cymeradwyo. Dylid cyfeirio ymholiadau ynglŷn â dileu neu ohirio modiwlau i'r Gyfadran yn y lle cyntaf. Dylid diweddaru'r modiwl yn APEX i ofyn am ddileu/gohirio, ac yna bydd yn cael ei ystyried gan y Gyfadran.
5. Fel rhan o'r broses gymeradwyo, dylai'r Gyfadran sy'n gyfrifol am y dysgu sicrhau bod ganddi'r adnoddau angenrheidiol i gyflwyno'r modiwl.
6. Nid bwriad y Llawlyfr Ansawdd Academaidd yw'r darparu geiriad penodol ar gyfer cymeradwyo modiwl ond ei nod yw egluro rhai o’r cwestiynau cyffredin. Rhaid cael cymeradwyaeth y Gyfadran pan fo newidiadau i fodiwlau yn cynnwys y canlynol:
(i) Newidiadau sylweddol i gynnwys y modiwl
(ii) Unrhyw newid i’r lefel penodedig
(iii) Unrhyw newid i bwysoliad y credydau
(iv) Unrhyw newid i’r canlyniadau dysgu a/neu ddulliau asesu.
7. Mae’r angen am fodiwl newydd neu fodiwl wedi’i ad-drefnu yn cael ei gydnabod ar lefel yr adran neu’r pwnc, a nodir Cydlynydd Modiwl i arwain y gwaith o ddrafftio'r cynnig.
8. Gan ddefnyddio’r system Rheoli Modiwl APEX a'r canllawiau a ddarperir yn adran 2.2 o'r Llawlyfr Ansawdd Academaidd, paratoir cynnig drafft.
9. Dylid cyflwyno'r cynnig i adolygydd modiwl (i'w enwebu gan y Gyfadran (Dirprwy Is-Ganghellor Cynorthwyol y Gyfadran (Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr)). Mae'r broses adolygu ar wahân i unrhyw graffu ar gynnig modiwl gan yr adran. Dylai cyfadrannau sicrhau bod aelod academaidd annibynnol o staff yn craffu ar y cynigion modiwlau ac nad yw’r aelod hwnnw wedi bod yn rhan o ysgrifennu'r modiwl nac yn rhan o unrhyw broses graffu neu gymeradwyo adrannol cyn hyn.
10. Dylai'r asesydd ystyried y modiwl, darparu adborth adeiladol o fewn APEX ac argymell un o'r camau canlynol:
(i) Cymeradwyo'r cynnig
(ii) Cyfeirio’r cynnig ymlaen i’r Gyfadran i gael trafodaeth pellach neu ehangach, neu gymeradwyo yn amodol ar gyflawni diwygiadau penodol
(iii) Cyfeirio yn ôl at gydlynydd y modiwl i ddatblygu’r cynnig ymhellach.
11. Dylai'r cynnig/ad-drefnu modiwl cyflawn, gan gynnwys y sylwadau gan yr adolygydd annibynnol, gael ei gymeradwyo gan y Gyfadran.
12. Unwaith y bydd modiwl wedi'i gymeradwyo'n llawn, bydd y modiwl/newidiadau yn cael eu hychwanegu at y gronfa ddata modiwlau. Bydd Gwasanaethau Gwybodaeth, y Swyddfa Amserlennu a'r Gwasanaethau Cymorth Myfyrwyr a Gyrfaoedd yn cael eu hysbysu'n awtomatig trwy'r llif gwaith yn APEX.
13. Ni fydd unrhyw fodiwl yn ymddangos ar y gronfa ddata nes bod y broses gymeradwyo ffurfiol wedi'i chwblhau ar lefel y gyfadran.
14. Mewn achosion lle gellir defnyddio isafswm trothwy i fodiwlau dewisol, rhaid i'r adran academaidd roi gwybod i fyfyrwyr na ellir gwarantu y bydd y modiwl yn cael ei gynnal gyda nifer isel o fyfyrwyr cofrestredig, ac efallai y gofynnir i fyfyrwyr ddewis eto. Yn yr un modd, dylid rhoi gwybod i fyfyrwyr am achosion lle gellir capio nifer y cofrestriadau ar fodiwl, gan esbonio hyn yn glir.
-
Canllawiau ar Gwblhau Cymeradwyo Modiwlau yn APEX
15. Defnyddir yr wybodaeth yn y system Rheoli Modiwl yn sail ar gyfer holl ddogfennaeth berthnasol y modiwl, gan gynnwys yr wybodaeth ar gronfa ddata modiwlau PA ac mewn llawlyfrau cynlluniau gradd. Dylid rhoi ystyriaeth ofalus i lefel y manylder a fydd yn ymddangos ar y we yng nghyd-destun y cyngor a roddir gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd Cyngor cyfraith defnyddwyr i ddarparwyr addysg uwch. Dylai'r wybodaeth a gyhoeddir fod yn ddigon manwl i alluogi myfyrwyr presennol a darpar fyfyrwyr wneud dewisiadau gwybodus, ond nid mor fanwl fel y byddai mân newidiadau – nad ydynt yn effeithio ar ganlyniadau dysgu nac asesiadau – yn sbarduno'r angen am gyflwyno proses gymeradwyo lawn y modiwl.
16. Mae'r dyddiad cau terfynol ar gyfer cynigion modiwlau newydd Rhan Dau mewn pryd ar gyfer cofrestru dros dro yn y sesiwn cyn y sesiwn lle bwriedir cyflwyno'r modiwl. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol, megis y rhai sy'n deillio o newidiadau staff, y dylai cyfadrannau ystyried cynigion modiwlau a gyflwynwyd ar ôl y dyddiad hwnnw.
-
Adrannau Ffurflen Ar-lein
17. Mae’r adran ragarweiniol hon ar y ffurflen ar-lein yn cynnwys gwybodaeth gefndirol y modiwl. Yn gyffredinol mae’r cwestiynau yn rhai gweinyddol a hunanesboniadol ac yn bwysig ar gyfer y gronfa ddata modiwlau a monitro gwiriadau ansawdd ar bortffolio’r modiwl.
-
Gwybodaeth Gefndirol
- Cydlynydd y Modiwl: Os cynigir bod unigolyn nad yw’n aelod o Brifysgol Aberystwyth yn cydlynu'r modiwl a/neu yn dysgu rhan sylweddol o’r modiwl, dylid paratoi CV byr ar gyfer y person(au) dan sylw a’i gyflwyno, ynghyd â’r ffurflen gymeradwyo modiwl, i'r gyfadran briodol.
- A oes gan y cynnig oblygiadau i fframwaith unrhyw gynlluniau astudio? Byddwch yn ymwybodol o'r modiwlau a ddefnyddir gan sefydliadau partner ac y gall newidiadau sylweddol i graidd cynllun neu newid yn lefel modiwl arwain at anghydbwysedd mewn semestrau.
- Dylid cymryd gofal o ran gorgyffwrdd mewn adrannau eraill. Gellir defnyddio’r gronfa ddata modiwlau i chwilio am deitlau a/neu gynnwys sydd yr un fath neu’n debyg. Pan ddefnyddir yr adran hon i adnabod elfennau cyflenwol, nodwch y tebygrwydd a’r gwahaniaethau o ran lefel y cynnwys yn ogystal â phwnc y cynnwys. A yw'r modiwl arfaethedig yn datblygu pynciau a gyflwynwyd mewn modiwl arall, yn darparu gwybodaeth graidd i eraill neu'n cyd-fynd ar yr un lefel?
-
Rhesymeg a Chynnwys y Modiwl
18. Dylai hwn fod mor wrthrychol â phosibl. Gall fod gan y cynigydd syniad clir iawn o werth arfaethedig y modiwl a’i ganlyniadau ond gallai hyn fod yn llai amlwg i rywun sy’n edrych o’r tu allan i’r ddisgyblaeth.
- Sail resymegol academaidd: Dylai hyn gynnwys gwybodaeth gefndir e.e. bwriad i lenwi bwlch yn y portffolio o fodiwlau a/neu sgiliau; nod i wella cyflogadwyedd myfyrwyr, neu wella eu gallu i drin materion cymhleth gydag amrywiaeth o sgiliau academaidd/technegol. Gellir cynnig rhai amcanion penodol e.e. yn ymwneud â’r disgwyliad y bydd y rhaglen arfaethedig yn bodloni gofynion achrediad proffesiynol neu y bydd y modiwl yn helpu i fodloni gofynion diwygiedig; y bydd y myfyrwyr yn cael sgiliau TGCh mwy cyfredol neu y byddant yn cael sgiliau TGCh ehangach y gellid eu diweddaru’n rheolaidd mewn cyflogaeth neu gydag astudio pellach. Ni fydd yr wybodaeth hon yn ymddangos yn y gronfa ddata modiwlau.
- Disgrifiad cryno: Dylai hwn fod yn grynodeb o gynnwys y modiwl, wedi’i anelu at gynulleidfa o fyfyrwyr (dim mwy na 150 o eiriau). Bydd yr wybodaeth hon yn ymddangos yn y gronfa ddata modiwlau.
- Cynnwys: Bydd yr wybodaeth hon yn ymddangos yn y gronfa ddata modiwlau. Mae angen i’r wybodaeth fod yn gymharol fanwl a dylai gynnwys y pynciau sydd i’w trafod a dylai grybwyll y gyfran amser a’r math o gyflwyno y dylid eu disgwyl fel darlithoedd, seminarau a/neu fathau eraill o gyflwyno. Os yw cydweithwyr yn rhy ragnodol wrth osod cynnwys y cwrs, gallai gyfyngu ar eu gallu i gyflwyno diwygiadau i ddarlithoedd neu seminarau unigol mewn ymateb i ddatblygiadau yn y maes neu werthusiadau modiwl. Gellir cyhoeddi’r cynllun wythnosol manwl yn cynnwys darlithoedd, seminarau ac ati ar Blackboard, mewn llawlyfrau modiwl neu gyfatebol fel elfennau o gyflwyno a allai newid o flwyddyn i flwyddyn heb fod newid i’r cynnwys a fyddai’n golygu cymeradwyaeth drwy system Rheoli Modiwlau APEX.
-
Canlyniadau Dysgu ac Asesiadau
19. Dylid pennu’r lefel arfaethedig (0, 1, 2, 3, M, etc.) yng nghyswllt disgrifyddion lefel PA a gytunwyd; gweler Atodiad 3.1.21.
- Canlyniadau Dysgu: Y fformat safonol yw ‘Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr' gyda rhestr wedi’i rhifo o ganlyniadau dysgu’n dilyn. Nid oes rhaid i’r rhestr fod yn nhrefn pwysigrwydd o reidrwydd; mae’r canlyniadau wedi’u rhifo er mwyn hwyluso ymateb i’r cwestiwn sut maent yn gysylltiedig â’r dulliau asesu. Fel arfer gellid pennu 3- 8 o ganlyniadau dysgu i fodiwl 10 credyd.
-
Dysgu ac Asesu
- Asesu: Bydd yr wybodaeth hon yn ymddangos yn y gronfa ddata modiwlau ac mae’n cysylltu’n uniongyrchol â’r meddalwedd trefnu amserlen ac arholiadau. Nodwch hyd yr arholiadau, manylion y gwaith cwrs, a chanran pwysiant bob un gan egluro sut mae pob canlyniad dysgu’n gysylltiedig â’r dulliau asesu. Mae asesu’n cyfeirio at bob dull a ddefnyddir i fesur cynnydd myfyrwyr drwy’r modiwl a’u perfformiad. Mae asesiadau ffurfiannol a chrynodol yn berthnasol.
- Asesu: Dylid pennu’r dulliau asesu h.y. arholiad ysgrifenedig nas gwelwyd (traethawd, ateb byr, cwestiynau amlddewis ac ati) a gwaith cwrs (llafar, portffolio, perfformiad, traethawd ac ati) gyda’r hyd/raddfa. Dylid cynnwys pob elfen mewn asesiad crynodol fel cyfran o’r asesiad cyflawn. Mae hyn yn hanfodol wrth fonitro’r berthynas rhwng asesu a phwyso credydau a llwyth gwaith y myfyriwr. Os yw’r canlyniadau dysgu yn disgrifio dull dysgu sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr gyda dull seiliedig ar grŵp, ond bod yr asesu’n bennaf yn arholiad ysgrifenedig nas gwelwyd, caiff anghysondeb ei ddatgelu.
- Asesiad Ailsefyll: Mae hyn yn cyfeirio at gyfleoedd i ailsefyll, gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi’n glir os bydd cyfle i ailsefyll a pha fath o asesiad fydd hwn. Dylai fformat yr asesiad ailsefyll fod yr un fath â’r asesiad semester oni bai ei fod yn amhosibl ei atgynhyrchu e.e. gwaith grŵp neu ymarferol. Dylai unrhyw elfennau a basiwyd fel arfer gael eu dwyn ymlaen.
-
Sgiliau
20. Gallai datblygu un neu ragor o’r sgiliau a restrir yn yr adran hon fod yn echblyg yn rhaglen y modiwl. Os felly, dylid nodi natur y sgiliau sydd i’w datblygu. Ar ben hyn, os yw’r sgiliau’n cael eu hasesu’n ffurfiol, dylid nodi hyn fel ie/na. Gweler y rhestr gymeradwy o sgiliau ar ddiwedd y bennod hon.
-
Gwybodaeth Gyffredinol Arall
21. Rhestr Ddarllen a Llyfryddiaeth: Pe byddai amcan o destunau hanfodol a darllen pellach yn cynorthwyo’r drefn cymeradwyo modiwl, dylid ychwanegu hyn yn Lyfryddiaeth Fynegol. Os yw’r Llyfryddiaeth gyfan yn cael ei darparu, dylid cysylltu â’r llyfrgellydd pwnc i drafod ymhellach. Mae canllawiau ynglŷn â Rhestrau Darllen Aspire wedi’u cyhoeddi yn: https://faqs.aber.ac.uk/802.
22. Adnoddau: Dylai’r gofynion llyfrgell a TG ddangos i ba raddau y defnyddir TG, e.e. a oes angen labordy cyfrifiadurol bob wythnos, yn ysbeidiol ac ati? Pa feddalwedd sydd ei angen, pa fath gyfleusterau argraffu? Gellir cael rhagor o gyngor gan y Llyfrgellydd Pwnc er mwyn penderfynu a fyddai modiwl yn elwa o gynnwys sgiliau gwybodaeth yn rhan o’r addysgu. Am ragor o wybodaeth, cyfeiriwch at y Datganiad Llythrennedd Gwybodaeth. Dylid ymgynghori â'r Llyfrgellydd Pwnc hefyd wrth ystyried tanysgrifiadau newydd a fydd yn rhoi cymorth i astudio’r modiwl, e.e. cyfnodolyn neu gronfa ddata.
-
Tystiolaeth o Graffu Annibynnol
23. Dylai adolygydd sy'n aelod annibynnol o'r staff academaidd ac nad ydyw wedi ymwneud ag ysgrifennu’r modiwl graffu ar gynigion modiwl; dylech enwebu adolygydd gan ymgynghori â’ch Adran a/neu Gyfadran. Dylai’r adolygydd lenwi’r rhan hon o'r ffurflen a chysylltu â’r cynigydd, a ddylai wneud unrhyw newidiadau angenrheidiol i’r ffurflen a/neu roi ymateb yn y sylwadau. Os yw modiwl yn gyfieithiad uniongyrchol o fodiwl sydd eisoes wedi’i gymeradwyo, nid oes angen cwblhau’r adran hon.
-
Cymeradwyaeth
24. Rhaid i fodiwlau gael cymeradwyaeth y Gyfadran. Ar ôl cwblhau'r broses gymeradwyo fewnol o fewn y Gyfadran, bydd y Gofrestrfa Academaidd yn trosglwyddo'r data o APEX i’r gronfa ddata modiwlau.
-
Disgrifyddion Lefel
25. Wrth bennu natur y galwadau mae’r modiwl yn eu gwneud ar fyfyrwyr, dylid cyfeirio at y disgrifyddion lefel a gytunwyd ar gyfer Prifysgol Aberystwyth: gweler 3.1.21 y Llawlyfr Ansawdd.
-
Canlyniadau Dysgu
26. Dylai Canlyniadau Dysgu’r modiwl ddilyn y canllawiau canlynol:
- Dylai canlyniad fynegi’r hyn y dylai myfyrwyr allu ei wneud ar ôl cwblhau’r modiwl.
- Gall y rhestr o ganlyniadau wahaniaethu rhwng canlyniadau ‘penodol’, a asesir yn uniongyrchol a chanlyniadau ‘cyffredinol’ sy’n ehangach eu natur ac nad oes modd eu hasesu’n uniongyrchol gyda’r dulliau asesu mewn unrhyw modiwl unigol.
- Dylid mynegi canlyniad mewn geiriau sy’n golygu bod modd rhagweld y byddai myfyriwr yn gallu ei gyflawni ar raddfa ‘yn llwyr’ i ‘yn rhannol’ a ‘dim o gwbl’.
- Dylai’r gofynion ar fyfyrwyr, fel y’i nodir gan y canlyniadau dysgu arfaethedig, fod yn briodol i lefel y modiwl (gweler disgrifyddion lefel y sefydliad ar gyfer yr hyn a olygir gan ‘lefel 1’ ac ati).
- Dylai fod modd asesu’r canlyniadau ar draws holl ystod y garfan o fyfyrwyr y mae’r modiwl wedi’i gynllunio ar eu cyfer.
- Byddai set o ganlyniadau modiwl fel arfer yn cynnwys amrediad o fathau o gyrhaeddiad myfyrwyr (gwybodaeth, dealltwriaeth, sgiliau).
- Ni ddisgwylir y byddai mwy na 8 canlyniad yn cael eu dynodi ar gyfer un modiwl penodol.
-
Geirfa canlyniadau
27. Nid oes geirfa benodol ar gyfer canlyniadau dysgu. Fodd bynnag, mae’n werth cadw’r canlynol mewn cof.
- Dylai berfau a ddefnyddir i ddisgrifio canlyniadau fod yn weithredol a dangos, os yw’r canlyniad am gael ei asesu, y gallu i fesur pob canlyniad trwy asesiad ffurfiannol neu grynodol. Er enghraifft os disgwylir i fyfyrwyr ‘ddeall’ cysyniad, gallai fod yn well nodi y dylai myfyrwyr allu ‘dynodi’ nodweddion y cysyniad, ‘disgrifio’ ei werth wrth egluro ffenomen, ‘dangos’ defnydd o’r cysyniad a ‘gwerthuso’ ei arwyddocâd. Gellid ystyried y canlyniadau hyn fel ffordd fesuradwy i fynegi’r ddealltwriaeth y byddem yn disgwyl i fyfyrwyr ei chaffael.
- Mae dealltwriaeth yn cynnwys achosion penodol iawn, yn yr enghraifft hon, o ddynodi, disgrifio a dangos. Fodd bynnag ceir amrywiaeth o lefelau canolradd o ddiffiniadau. Gallai geirfa o’r fath gynnwys ‘dynodi’n feirniadol’, ‘dangos gallu’, ‘gallu cymhwyso/trafod’ a ‘defnyddio amrywiaeth’. Gallai’r rhain hefyd fodloni gofynion mesur. Yn amlwg bydd hyn yn amrywio’n fawr rhwng ac o fewn disgyblaethau.
28. Mae’r tabl isod yn cynnwys rhagor o’r berfau llai mesuradwy a thermau amgen y gellid eu cysylltu’n agosach â dulliau asesu. Yn amlwg, mae’r rhain yn benodol i’r cyd-destun ac mae modd cyfnewid rhai â’i gilydd. Nid yw hon yn rhestr holl gynhwysfawr.
Berf gyffredinol
Berf fesuradwy
Deall
Dangos dealltwriaeth o
Bod yn ymwybodol
Disgrifio, dangos, trafod
Amgyffred
Dadansoddi, Gwerthuso
Cymathu
Egluro, Cyfosod
Sefydlu
Dangos, Dynodi, Rhestru, Nodi, Cyfiawnhau
Gwerthfawrogi
Dadansoddi, Gwerthuso, Cymharu
Ymwybyddiaeth
Cyfathrebu, Egluro
Gwneud
Perfformio
Gwybod
Diffinio, Gwahaniaethu, Gwerthuso
Sgiliau ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol
Datrys problemau'n greadigol
Cyfleoedd sy'n herio, yn gwneud i'r myfyriwr feddwl drostynt eu hunain a/neu gynnwys dod o hyd i ffyrdd gwahanol o weithio'n greadigol. Yn cynnwys gwneud penderfyniadau, ffyrdd mentrus o feddwl, dulliau amgen, arloesi, menter.
Meddwl beirniadol a dadansoddol (meddylfryd cwestiynu)
Y gallu i gasglu data gofynnol yn gyflym a dadansoddi a gwerthuso sefyllfaoedd a gwybodaeth yn gynhwysfawr i lywio penderfyniadau/meddwl. Yn cynnwys llythrennedd gwybodaeth, y gallu i gynllunio ymchwil, casglu data priodol, ystyried persbectifau a safbwyntiau amgen, dod i gasgliadau, bod yn rhesymegol, rhesymu a dadansoddi meintiol, adnabod rhagfarn a chamwybodaeth.
Hyblygrwydd a gwydnwch
Y gallu i ddelio ag amgylchiadau ac amgylcheddau sy'n newid. Addasu i weithio gyda phobl eraill sydd â dewisiadau a blaenoriaethau gwahanol. Addasu i gyfathrebu â gwahanol gynulleidfaoedd. Yn cynnwys cydnabyddiaeth bod galluoedd yn tyfu dros amser; dysgu drwy gamgymeriadau; derbyn adborth yn gadarnhaol; beirniadaeth adeiladol.
Cymhwysedd digidol
Cysyniad eang sy'n cwmpasu llythrennedd yn y cyfryngau a gwybodaeth, ymchwil ddigidol a datrys problemau, creadigrwydd gydag offer digidol yn ogystal â rheoli dulliau cyfathrebu a chyfryngau cymdeithasol yn rheolaidd. Yn cynnwys parodrwydd i roi cynnig ar dechnolegau newydd, addasu i ddulliau digidol o weithio, dealltwriaeth o ôl troed digidol a'i effaith.
Adlewyrchu (hunanymwybyddiaeth)
Trwy drafod a thasgau, cyfleoedd i ddeall eu profiadau, eu rhinweddau a'u dyheadau eu hunain. Dysgu dan arweiniad myfyrwyr. Darparu cyfleoedd i nodi a mynd i'r afael â chryfderau a gwendidau. Yn gysylltiedig ag Arolwg ar Brofiad Myfyrwyr (ABM), gan gydnabod datblygu sgiliau a chynnydd personol, cynllunio gyrfa, asesu diddordebau a gwerthoedd, adborth ac asesu.
Cyfathrebu proffesiynol
Gosod cyfathrebu ysgrifenedig, llafar, gweledol, rhifiadol a digidol yng nghyd-destun y gweithle. Yn cynnwys y gallu i ddangos empathi drwy osod eu hunain yn esgidiau pobl eraill, i ddeall eu teimladau, ac i helpu i ddatrys eu problemau, i gydnabod dulliau cyfathrebu priodol sy'n gysylltiedig â chynulleidfaoedd gwahanol, defnyddio dulliau iaith a chyfathrebu'n briodol, defnyddio data meintiol mewn ffyrdd priodol i wella dealltwriaeth, i ystyried cynnwys cyfathrebu a'r cywair a ddefnyddir.
Synnwyr byd go iawn
Dysgu yn seiliedig ar ymchwilio i faterion byd go iawn (Dysgu Seiliedig ar Broblemau/Dysgu Seiliedig ar Achos).
Cyfraniadau gan gyn-fyfyrwyr, ymarferwyr ac entrepreneuriaid.
Profiad – dysgu seiliedig ar ymarfer sy’n seiliedig ar waith neu ar y gymuned.
Datblygu sgiliau mewn: menter, annibyniaeth, gweithio yn rhan o dîm, ymdopi â phwysau, cyfathrebu'n effeithiol, rheoli amser, gwneud penderfyniadau, bod yn gyfrifol, cydnabod rhagfarn a chamwybodaeth, addasu, cynllunio, cydlynu a threfnu, cydnabod trosglwyddedd sgiliau, trosi labeli sgiliau yn y byd academaidd i'r rhai a ddefnyddir yn y gweithle. Cyfeirir atynt weithiau fel ymwybyddiaeth fasnachol.
Cydweithio
Cydweithio fel grŵp, gyda chanlyniad a rennir ac a asesir fel cyfanrwydd, trafod, dylanwadu.
Cydweithredol, fel grŵp, gyda chanlyniad a rennir ond a asesir yn unigol
Datblygu arweinyddiaeth drwy gyfleoedd i:
- ysgogi a chyfarwyddo eraill
- cymryd cyfrifoldeb am gyfeiriad a gweithredoedd tîm
- defnyddio blaengaredd, cymryd cyfrifoldeb a pherchnogaeth o broblemau.
-
-
2.3 Crynodeb o'r Drefn Cymeradwyo Cynlluniau
1. Yn yr adran hon rhoddir crynodeb o’r drefn ar gyfer cymeradwyo cynlluniau, trefn a ddisgrifir yn fanwl yn adrannau 2.4 - 2.9. Efallai y bydd y siartiau llif datblygu cynlluniau a welir yn adran 2.15 hefyd yn ddefnyddiol i staff.
2. Dylid trafod pob cais gyda’r Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr) a’r Pennaeth Cynllunio cyn cwblhau unrhyw achos busnes neu ddogfennaeth datblygu cynllun; dylid gwneud hyn trwy’r cylch Cynllunio ar gyfer achosion sy’n dilyn Llwybr Cymeradwyaeth Y Weithrediaeth, neu mewn egwyddor ar gyfer achosion sy’n dilyn Llwybr Cymeradwyo Di-Weithrediaeth. Mewn achosion eithriadol, os bydd cynigion yn cael eu cyflwyno y tu allan i’r cylch Cynllunio, dylid gwneud cais i’r Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr) a’r Pennaeth Cynllunio. Ar ôl i’r cynnig gael ei gymeradwyo, dylai’r adran fynd yn ei blaen i ddatblygu’r achos busnes a/neu ddogfennaeth y cynnig a nodir isod.
3. Mae dau lwybr i'r drefn gymeradwyo, llwybr 'Y Weithrediaeth' a'r llwybr ‘Di-Weithrediaeth’. Dylech ymgynghori â'ch cyswllt Sicrwydd Ansawdd yn y Gofrestrfa Academaidd (qaestaff@aber.ac.uk) i weld pa lwybr cymeradwyo sy'n addas i'ch gofynion chi.
4. Llwybr ‘Y Weithrediaeth’ yw'r drefn ar gyfer cynigion sydd wedi eu newid neu eu had-drefnu'n sylweddol, yn ddatblygiadau mewn maes newydd o ddarpariaeth, a datblygiadau sydd ag oblygiadau mewn adnoddau a goblygiadau ar lefel prifysgol y mae angen i Weithrediaeth y Brifysgol eu cymeradwyo’n derfynol. Dylid trafod yr achos busnes, a chwblhau’r dogfennau cysylltiedig, mewn ymgynghoriad â’r Swyddfa Gynllunio; yna, dylid cyflwyno hyn i Weithrediaeth y Brifysgol gael ei ystyried. Bydd Grŵp Gweithredol y Brifysgol yn ystyried cynigion o safbwynt strategaeth, dichonoldeb busnes gan gynnwys costau, risgiau (gan gynnwys y risg i enw da), niferoedd myfyrwyr ac ystyriaethau ymarferol, a byddant yn penderfynu a ddylai’r cynigion symud ymlaen i gael eu hystyried o safbwynt academaidd gan y Panel Craffu Academaidd sefydlog. Ni ddylid datblygu ffurflenni datblygu cynllun (SDF) hyd nes bydd Y Weithrediaeth wedi rhoi ei sêl bendith i anfon y cynnig ymlaen i’r Panel Craffu Academaidd.
5. Y llwybr ‘Di-Weithrediaeth’ yw'r drefn yn achos cynigion yr ystyrir eu bod yn ddatblygiadau mewn maes sy'n bod eisoes, lle nad oes oblygiadau adnoddau ac felly nid oes angen cymeradwyaeth derfynol Gweithrediaeth y Brifysgol. Bydd y Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr) a’r Pennaeth Cynllunio yn ystyried cynigion yng nghyd-destun eu heffaith ar y portffolio a byddant yn penderfynu a ddylid anfon y cynigion ymlaen i’r Panel Craffu Academaidd sefydlog i gael ystyriaeth academaidd. Ni ddylid datblygu ffurflenni SDF hyd nes i’r Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr) a’r Pennaeth Cynllunio gadarnhau y gellir, mewn egwyddor, anfon y cynnig ymlaen i’r Panel Craffu Academaidd.
6. I gael gwybodaeth am ddarpariaeth Ar-lein/Dysgu o Bell a DPP, gweler adran 2.9.
7. Os cynigir Tystysgrif neu Ddiploma annibynnol, bydd angen cymeradwyo hyn fel cynllun astudio newydd ag iddo fanyleb rhaglen a strwythur cynllun.
8. Bydd y Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr) yn ystyried cynlluniau gradd sy'n newid teitl, yn cael eu gohirio neu eu dileu.
9. Ar gyfer darpariaeth nad yw’n cyd-fynd â’r uchod, dylai adrannau gysylltu â’r tîm Sicrhau a Gwella Ansawdd (qaestaff@aber.ac.uk) i drafod craffu mewnol priodol cyn ei ystyried gan unrhyw banel allanol.
10. Tan i gynllun gwblhau'r drefn gymeradwyo yn llwyr, ni ddylid ei hysbysebu ar-lein na'i roi ar UCAS, ond gellir ei farchnata 'yn amodol ar ei gymeradwyo' ym Mhrosbectws argraffedig y Brifysgol. Gellid marchnata cynllun 'yn amodol ar ei gymeradwyo' ar ddyddiau agored, neu ar wefannau'r adrannau, cyhyd â bod achos boddhaol yn cael ei gyflwyno i’r Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg a Phrofiad Myfyrwyr) neu’r Panel Craffu Academaidd lle bo hynny'n briodol, a chyhyd â bod yr holl ddeunydd hysbysebu a chyflwyniadau mewn digwyddiadau yn ei gwneud yn hollol glir fod y cyrsiau hyn yn dal yn amodol ar gael eu cymeradwyo.
11. Er mwyn sicrhau digon o amser am ymgyrch farchnata effeithiol a lansiad llwyddiannus, dylid yn ddelfrydol ddatblygu cynllun trwy ddilyn cylch cynllunio 2 flynedd. Bydd hyn yn rhoi cyfle i gynigion gael eu hystyried ar lefel yr adran, yn rhoi amser i adrannau ymgynghori'n allanol, ymgynghori â myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr, ac i drafod â’r tîm Marchnata Byd-eang a Denu Myfyrwyr, yn ogystal ag amser i gynigion gael cwblhau’r llwybr cymeradwyo priodol.
Safonau’r Iaith Gymraeg
12. Mae Prifysgol Aberystwyth yn cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg. Cyfrifoldeb adrannau academaidd yw dangos sut y mae cynnig i gyflwyno, diwygio, gohirio neu ddiddymu cynllun astudio yn cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg, ac yn benodol Safon 104. Ceir manylion pellach ar dudalennau gwe Canolfan Gwasanaethau’r Gymraeg: https://www.aber.ac.uk/cy/cgg/bilingual-policy/ .
Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg
13. Wrth ddatblygu’r cwricwlwm, bydd adrannau academaidd yn cyfeirio at amcanion strategol y Brifysgol ac yn benodol cynllun/strategaeth cyfrwng Cymraeg presennol y Brifysgol. Gweler Polisïau a Strategaethau’r Iaith Gymraeg am fanylion pellach, yn cynnwys yr egwyddorion a’r mesurau llwyddiant mewn perthynas â’r ddarpariaeth academaidd: https://www.aber.ac.uk/cy/cgg/policies/.
14. Y Pwyllgor Ansawdd a Safonau, un o is-bwyllgorau’r Senedd, sy’n goruchwylio’r gwaith o ddarparu cynlluniau yn y Brifysgol. Y pwyllgor hwn sy’n gyfrifol am gadw golwg gyffredinol ar y cynlluniau newydd a’r cynlluniau sy’n cael eu gohirio neu eu dileu. Bydd cynigion am gynlluniau newydd yn cael eu hystyried gan Banel Craffu Academaidd sefydlog, sy’n adrodd i’r Pwyllgor Ansawdd a Safonau.
15. Yn y rhannau sy’n ymwneud â’r Llwybr Cymeradwyo ceir disgrifiad o’r drefn i gymeradwyo cynlluniau gradd a ddysgir a chynlluniau astudio eraill sy’n arwain at ddyfarniadau ym Mhrifysgol Aberystwyth ac mae’n berthnasol i gynigion am gynlluniau newydd. Cymeradwyir pob cynllun am gyfnod o bum mlynedd, ac ar ôl hynny rhaid iddynt fod yn destun adolygiad ac ail-ddilysu (Adran 2.12).
16. Cynlluniwyd y drefn gymeradwyo ar sail egwyddorion arweiniol Cod Ansawdd y DU, ac i gydymffurfio â’r arferion allweddol a amlinellir ynddo. Mae hyn er mwyn sicrhau’r Brifysgol bod yr adrannau academaidd, wrth ddatblygu cynlluniau newydd, wedi rhoi ystyriaeth gywir i’r canlynol:
(i) Cyferbwyntiau allanol, gan gynnwys datganiadau meincnodi pwnc perthnasol a'r Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch (FHEQ)
(ii) Cyngor gan arbenigwyr pwnc allanol (er enghraifft, yr arholwr allanol cyfredol neu aelodau o gorff cynghori allanol) a, lle bo'n briodol, gofynion Cyrff Proffesiynol, Statudol a Rheoliadol (PSRB), a chyflogwyr
(iii) Pa mor gydnaws yw'r cynnig yng nghyd-destun y ddarpariaeth bresennol ac amcanion a chenadwri'r sefydliad?
(iv) Gofynion adnoddau, gan gynnwys staff, llyfrgell, TG, ac unrhyw adnoddau pwnc-benodol (e.e. cyfleusterau labordy)
(v) Lefel debygol y galw.
17. Os yw adrannau academaidd yn bwriadu cyflwyno cynllun astudio newydd, neu wneud newidiadau sylweddol i gynllun, rhaid caniatáu digon o amser ar gyfer denu myfyrwyr a hysbysebu.
-
2.4 Y Llwybr Cymeradwyaeth y Weithrediaeth (SDF1)
1. Llwybr ‘Y Weithrediaeth’ yw'r drefn ar gyfer cynigion sydd wedi eu newid neu eu had-drefnu'n sylweddol, yn ddatblygiadau mewn maes newydd o ddarpariaeth, a datblygiadau sydd ag oblygiadau mewn adnoddau a goblygiadau ar lefel prifysgol y mae angen i Weithrediaeth y Brifysgol eu cymeradwyo’n derfynol.
Dylid trafod cynigion gyda Phennaeth yr Adran a Dirprwy Is-Ganghellor y Gyfadran yn y lle cyntaf.
Yr amserlen a'r drefn cymeradwyo.
2. Cam 1: Y Cylch cynllunio
Dylid ystyried pob cynnig drwy'r cylch Cynllunio cyn cwblhau unrhyw achos busnes neu ddogfennaeth datblygu cynllun.3. Mewn achosion eithriadol yn unig, lle na fu’n bosib cyflwyno cynnig fel rhan o'r cylch cynllunio, dylai Dirprwy Is-Ganghellor y Gyfadran drafod y cynnig gyda'r Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr) a'r Pennaeth Cynllunio cyn i unrhyw achos busnes neu ddogfennaeth datblygu cynllun gael eu cwblhau. Bydd y Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr) a’r Pennaeth Cynllunio’n penderfynu a ddylid cymeradwyo’r cynnig mewn egwyddor ac yn mynd ymlaen i ddatblygu dogfennaeth y cynnig.
4. Cam 2: Datblygu ac ystyried Achos Busnes
Ar ôl i'r cynnig gael ei ystyried a'i gymeradwyo fel rhan o'r cylch cynllunio, dylai'r adran fynd ymlaen i ddatblygu'r achos busnes, gan ymgynghori â'r Adran Gynllunio. Caiff yr Achos Busnes ei ystyried gan Grŵp Gweithredol y Brifysgol a fydd yn ystyried cynigion yng nghyd-destun strategaeth, dilysrwydd busnes gan gynnwys costau, risgiau (gan gynnwys risg i enw da), niferoedd myfyrwyr ac ystyriaethau ymarferol a bydd yn penderfynu a ddylai'r cynnig fynd ymlaen i gael ystyriaeth academaidd gan y Panel Craffu Academaidd sefydlog. Dylai’r adran Gynllunio ymgynghori â’r adran Farchnata a Denu Myfyrwyr, y Llyfrgell, y Swyddfa Amserlennu, Ystadau a Chyfleusterau (gan gynnwys y Swyddfa Llety) a’r Cofrestrydd Academaidd er mwyn gofyn am eu mewnbwn i ddogfennaeth y cynnig. Cysylltwch â'r Adran Gynllunio (plastaff@aber.ac.uk) am ragor o wybodaeth.5. Cam 3: Datblygu ffurflen datblygu cynllun (SDF) a dogfennaeth ategol
Ar ôl i'r Achos Busnes gael ei gymeradwyo gan Grŵp Gweithredol y Brifysgol i fynd ymlaen am ystyriaeth academaidd, dylai'r adran fynd ymlaen i ddatblygu'r ffurflen SDF1 a gweddill dogfennaeth y cynnig:(i) Blaenddalen pwyllgor
(ii) Manyleb(au) y rhaglen, gan gynnwys canlyniadau dysgu'r cynllun/modiwl wedi'u mapio yn ôl yr asesiadau (SDF9)
(iii) Tystiolaeth o ymgynghori allanol
(iv) Tystiolaeth o ymgynghori â myfyrwyr / cyn-fyfyrwyr
(v) Ffurflenni cymeradwyo modiwlau newydd/diwygiedig, os yw'n briodol, neu ddolenni at fodiwlau presennol.
(vi) Ffurflen Enwebu Aseswr Allanol (SDF7).
6. Os yw’r cynnig yn debygol o effeithio ar ddarpariaeth mewn pynciau eraill, dylai’r adran hefyd ymgynghori â’r adrannau eraill.
7. Bydd y Gofrestrfa Academaidd yn cysylltu â'r Aseswr Allanol a bydd angen iddo gwblhau adroddiad ysgrifenedig cyn y digwyddiad i'w ystyried gan y Panel Craffu Academaidd: SDF8 Adroddiad yr Aseswr Allanol. Bydd y Gofrestrfa Academaidd yn gofyn am hyn unwaith y bydd yr Aseswr Allanol wedi derbyn y gwahoddiad. Ni fydd Aseswyr Allanol yn cael eu gwahodd i'r Panel oni bai bod materion yn codi o'r adroddiad sydd angen eu trafod ymhellach, ac yna gellir cysylltu â hwy trwy fideo-gynadledda.
8. Cam 4: Ystyriaeth ar lefel yr adran a’r Gyfadran
Dylai Pwyllgor Dysgu ac Addysgu’r Adran a Phwyllgor Gwaith y Gyfadran ystyried y ffurflen SDF ar ôl iddi gael ei chwblhau yn llawn, gan gynnwys y ddogfennaeth ategol. Yna, dylid eu hanfon ymlaen at y Tîm Sicrhau Ansawdd (qaestaff@aber.ac.uk) i’w hystyried gan y Panel Craffu Academaidd sefydlog.9. Cam 5: Ystyriaeth gan y Panel Craffu Academaidd
Bydd y Panel Craffu Academaidd yn rhoi ystyriaeth fanwl i’r cynnwys academaidd, dylunio a chyflwyno'r cwricwlwm, profiad y myfyrwyr, adnoddau dysgu, cefnogaeth, trefniadau gweinyddu a chymeradwyaeth derfynol y cynnig. Mae'r dyddiadau a dyddiad cau derbyn papurau ar gyfer y Panel Craffu Academaidd i'w gweld yma: https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/aqro-coms/panel-craffu-academaidd/. Awgrymir bod cynigion yn cael eu cyflwyno i’r Tîm Sicrwydd Ansawdd cyn y dyddiad cau ffurfiol ar gyfer derbyn papurau er mwyn galluogi'r Tîm i adolygu dogfennaeth y cynnig ac i roi amser i ddatrys unrhyw broblemau cyn i'r Panel graffu ar y cynnig. -
2.5 Y Llwybr Cymeradwyo Di-Weithrediaeth (SDF2 / SDF4)
1. Y llwybr 'Di-Weithrediaeth' yw’r drefn ar gyfer cynigion lle nad oes unrhyw oblygiadau o ran adnoddau ac felly nid oes angen cymeradwyaeth derfynol gan Grŵp Gweithredol y Brifysgol. Dylai cynigion a ystyrir trwy'r llwybr cymeradwyo di-weithrediaeth gynnwys:
(i) Darpariaeth newydd mewn maes sydd eisoes yn bodoli (yn seiliedig ar ddarpariaeth modiwl sydd eisoes yn bod) (SDF2)
(ii) Cyfuniadau Prif bwnc/Is-bwnc a chynlluniau Anrhydedd Cyfun newydd (SDF4): noder mai dim ond ar gyfer cyfuno dwy elfen prif bwnc, is-bwnc neu elfennau cyfun sydd eisoes yn bodoli ac sydd eisoes wedi’u cymeradwyo y dylid defnyddio’r llwybr hwn. Dylai adrannau ddilyn y llwybr Darpariaeth Newydd mewn Maes sy’n bod Eisoes neu lwybr cymeradwyaeth y Weithrediaeth er mwyn creu elfennau prif bwnc, is-bwnc neu elfennau cyfun newydd.
2. Dylid trafod cynigion gyda Phennaeth yr Adran a Dirprwy Is-Ganghellor y Gyfadran yn y lle cyntaf.
3. Cam 1: Y Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr) a’r Pennaeth Cynllunio yn cymeradwyo mewn egwyddo
Dylai Dirprwy Is-Ganghellor y Gyfadran drafod y cynnig gyda'r Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg a Phrofiad Y Myfyrwyr) a'r Pennaeth Cynllunio cyn i’r ddogfennaeth datblygu cynllun gael eu cwblhau. Bydd y Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr) a’r Pennaeth Cynllunio’n penderfynu a ddylid cymeradwyo’r cynnig mewn egwyddor ac yn mynd ymlaen i ddatblygu dogfennaeth y cynnig.4. Cam 2: Datblygu ffurflen SDF a’r ddogfennaeth ategol
Ar ôl i'r cynnig gael ei gymeradwyo gan y Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr) a'r Pennaeth Cynllunio i fynd ymlaen am ystyriaeth academaidd, dylai'r adran fynd ymlaen i ddatblygu'r ffurflen SDF a gweddill dogfennaeth y cynnig:(i) Blaenddalen pwyllgor
(ii) Manyleb(au) y rhaglen, gan gynnwys canlyniadau dysgu'r cynllun/modiwl wedi'u mapio yn ôl yr asesiadau (SDF9)
(iii) Ffurflenni cymeradwyo modiwlau newydd/diwygiedig, os yw'n briodol, neu ddolenni at fodiwlau presennol
5. Dylai adrannau ymgynghori â’r Adran Gynllunio, Marchnata a Denu Myfyrwyr, y Gwasanaethau Gwybodaeth, y Llyfrgell, y Swyddfa Amserlennu, Ystadau a Chyfleusterau (gan gynnwys y Swyddfa Llety) a'r Cofrestrydd Academaidd er mwyn gofyn am eu mewnbwn i ddogfennaeth y cynnig; bydd yn ofynnol i'r gwasanaethau hyn ddarparu datganiad byr o fewn y Ffurflen Datblygu Cynllun berthnasol. Gellir dod o hyd i fanylion cyswllt ar gyfer pob un o'r adrannau hyn yn y ffurflen SDF. Ni fydd ffurflenni'n cael eu derbyn os yw’n amlwg mai’r adran sydd wedi llenwi’r rhannau hyn. Mae'n hanfodol bod adrannau’r gwasanaethau canolog a nodwyd yn y ffurflenni SDF yn cael golwg ar y cynnig yn ystod y cam datblygu. Os yw’r cynnig yn debygol o effeithio ar ddarpariaeth mewn pynciau eraill, dylai’r adran hefyd ymgynghori â’r adrannau eraill.
6. Cam 3: Ystyriaeth ar lefel yr adran a’r Gyfadran
Dylai Pwyllgor Dysgu ac Addysgu’r Adran a Phwyllgor Gwaith y Gyfadran ystyried y ffurflen SDF ar ôl iddi gael ei chwblhau yn llawn, gan gynnwys y ddogfennaeth ategol. Yna, dylid eu hanfon ymlaen at y Tîm Sicrhau Ansawdd (qaestaff@aber.ac.uk) i’w hystyried gan y Panel Craffu Academaidd sefydlog.7. Cam 4: Ystyriaeth gan y Panel Craffu Academaidd
Bydd y Panel Craffu Academaidd yn rhoi ystyriaeth fanwl i’r cynnwys academaidd, dylunio a chyflwyno'r cwricwlwm, profiad y myfyrwyr, adnoddau dysgu, cefnogaeth, trefniadau gweinyddu a chymeradwyaeth derfynol y cynnig. Mae'r dyddiadau a dyddiad cau derbyn papurau ar gyfer y Panel Craffu Academaidd i'w gweld yma: https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/aqro-coms/panel-craffu-academaidd/. Awgrymir bod cynigion yn cael eu cyflwyno i’r Tîm Sicrwydd Ansawdd cyn y dyddiad cau ffurfiol ar gyfer derbyn papurau er mwyn rhoi cyfle i’r Tîm adolygu dogfennaeth y cynnig ac i roi amser i ddatrys unrhyw broblemau cyn i'r Panel graffu ar y cynnig. -
2.6 Panel Craffu Academaidd
1. Bydd gan y Panel Craffu Academaidd sefydlog aelodaeth o 12 - 16 o staff academaidd a bydd pob cyfadran yn enwebu aelodau i wasanaethu ar y panel am gyfnod hyd at 4 blynedd. Bydd yr aelodaeth yn cynnwys Dirprwy Is-Ganghellor Cynorthwyol y Gyfadran (Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr) a byddai angen cworwm o 4-5, yn cynnwys cynrychiolydd o'r Gofrestrfa Academaidd a chynrychiolydd myfyrwyr, ac ni fyddai angen i'r holl aelodau cyfadrannol fod yn bresennol ym mhob cyfarfod. Dirprwy Is-Ganghellor Cynorthwyol y Gyfadran (Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr) fydd yn cadeirio'r Panel fel arfer.
2. Bydd y Panel Sefydlog fel arfer yn cyfarfod 5-6 gwaith rhwng mis Hydref a mis Mehefin. Yn y cyfarfodydd hyn, ystyrir cynigion i gymeradwyo cynlluniau, a bydd angen i adrannau gynllunio'n unol â hynny, ond gellid trefnu cyfarfodydd ychwanegol pe bai angen. Gellir dod o hyd i ddyddiadau cyfarfodydd a dyddiadau cau ar gyfer papurau’r Panel Craffu Academaidd yma: https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/aqro-coms/panel-craffu-academaidd/
3. Nid oes rhaid i Aseswyr Allanol ddod i'r cyfarfodydd ond rhaid iddynt gyflwyno adroddiad ysgrifenedig. Gall y panel ofyn am sylwadau pellach lle bo hynny'n briodol neu gellir gwahodd yr Asesydd Allanol i fod yn bresennol trwy fideo-gynadledda os oes materion yn codi yn yr adroddiad ysgrifenedig sydd angen eu trafod ymhellach yn fanwl.
4. Ysgrifennydd y Panel (aelod o Dîm Sicrhau Ansawdd y Gofrestrfa Academaidd fel arfer) fydd yn gyfrifol am gymryd cofnodion, ac am nodi penderfyniadau ac unrhyw argymhellion. Bydd y cofnodion hyn yn mynd i'r adran sy'n cyflwyno'r cynnig ar gyfer unrhyw weithredu pellach, a chânt hefyd eu cyflwyno i'r Pwyllgor Ansawdd a Safonau yn gofnod o'r penderfyniadau a wnaed.
5. Aelodau'r Panel Craffu Academaidd fydd:
a. Y Cadeirydd, o'r tu allan i adran academaidd y cynnig, ac fel arfer Dirprwy Is-Ganghellor Cynorthwyol y Gyfadran (Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr). Dylai'r Cadeirydd fod yn unigolyn sydd ag annibyniaeth a phellter beirniadol addas oddi wrth y cynllun a gynigir, ac fe'i dewisir/ddewisir gan y Gofrestrfa Academaidd.
b. O leiaf un aelod o staff academaidd o bob Cyfadran, sydd ag annibyniaeth a phellter beirniadol addas oddi wrth y cynllun
c. Cynrychiolydd myfyrwyr, i ddod o bwll a enwebir gan Undeb y Myfyrwyr, Adolygydd Myfyrwyr fel arfer
d. Aelod staff o Dîm Sicrhau Ansawdd y Gofrestrfa Academaidd, a fydd hefyd yn drafftio adroddiad y panel.
6. Bydd y Gofrestrfa Academaidd yn gofalu am gynrychiolaeth cyfrwng Cymraeg ar baneli.
7. Gwahoddir adrannau academaidd i enwebu cynrychiolydd i gyflwyno'r cynnig i gyfarfod y panel. Yn achos cynlluniau academaidd trawsadrannol, enwebir cynrychiolydd o'r naill adran academaidd a'r llall gan eu hadrannau.
Rôl y Panel Craffu Academaidd
8. Panel Sefydlog yw'r Panel Craffu Academaidd ac mae'n adrodd i'r Pwyllgor Ansawdd a Safonau. Y Panel sy'n gyfrifol am wneud y penderfyniad terfynol ynglŷn â chynlluniau a gynigir, ond gall eu cyfeirio'n ôl at y Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr) a'r Pennaeth Cynllunio neu ymlaen i’r Pwyllgor Ansawdd a Safonau os oes agweddau sylweddol sy'n peri pryder neu faterion ag iddynt ystyriaethau ehangach i'r Brifysgol. Bydd y Pwyllgor Ansawdd a Safonau yn cadw golwg gyffredinol ar ddull gweithredu'r Panel Craffu Academaidd ac yn monitro effeithlonrwydd y prosesau Sicrhau Ansawdd.
9. Bydd y Panel yn gwneud yn sicr y bu digon o ymgynghori allanol wrth ddatblygu'r cynllun, er enghraifft ag arholwyr allanol cyfredol, ymgynghorwyr allanol yr adran, a chynrychiolwyr o gyrff proffesiynol neu achrededig. Bydd y Panel yn rhoi ystyriaeth fanwl i farn yr aseswr allanol, a fydd wedi gorfod cyflwyno adroddiad ysgrifenedig (SDF8) ymlaen llaw i’w ystyried gan y panel.
10. Bydd cyfarfodydd y Panel Craffu Academaidd yn cael eu trefnu fel a ganlyn:
(i) Croeso gan y Cadeirydd
(ii) Crynodeb o'r cynllun gan yr adran(nau) sy'n ei gynnig
(iii) Trafodaeth gyffredinol, a fydd yn ystyried y cwestiynau canlynol ac yn ystyried anghenion yr holl fyfyrwyr:
-
- A oes tystiolaeth fod galw am y cynllun ac a yw'r gofynion mynediad ar lefel briodol?
- A yw amcanion a chanlyniadau dysgu'r cynllun yn briodol, yn arbennig yng nghyswllt y meincnodau pwnc perthnasol, y Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch, a Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru?
- A yw cynnwys a chynllun y maes llafur yn briodol ar gyfer cyflawni amcanion dysgu arfaethedig y cynllun?
- A yw'r maes llafur wedi'i drefnu fel bod y gofynion ar y dysgwr yn nhermau her ddeallusol, sgiliau, gwybodaeth, cysyniadoli, ac annibyniaeth wrth ddysgu yn cynyddu'n gyson?
- A yw'r dulliau asesu yn addas i fesur graddfa cyflawni'r canlyniadau arfaethedig?
- A oes adnoddau digonol, h.y. staff, llyfrgell, TG, ac unrhyw ofynion arbenigol, i ddarparu'r cynllun yn effeithiol?
- A oes gan y cynllun unrhyw nodweddion a fydd ag oblygiadau o ran ymarferoldeb, rheoli neu gyflenwi, neu o ran rheoliadau'r Brifysgol?
(iv) Trafodaeth gan y panel, ac ni fydd cynrychiolydd yr adran(nau) sy'n cynnig y cynllun yn bresennol yn y drafodaeth
(v) Penderfyniad.
Penderfyniadau'r Panel Craffu Academaidd
11. Y dewisiadau isod fydd gan y Panel Craffu Academaidd wrth ddod i benderfyniad:
a. Cymeradwyo'n ddiamod
b. Cymeradwyo, gyda mân newidiadau (Cadeirydd y Panel yn cymeradwyo)
c. Cymeradwyo’n amodol: yn yr achos hwn bydd angen i'r adran sy'n cyflwyno'r cynnig roi ymateb i Gadeirydd y Panel, a fydd hefyd yn cael ei gadarnhau gan yr aseswr allanol
d. Cyfeirio'r cynnig yn ôl i'r adran(nau) academaidd Yn yr achos hwn, disgwylir y byddai angen newidiadau sylweddol cyn ailgyflwyno'r cynnig
e. Gwrthod (ar sail Sicrwydd Ansawdd yn unig).
12. Bydd y Panel Craffu Academaidd yn diffinio camau gweithredu fel argymhellion neu amodau:
a. Argymhellion: dylai’r rhain fod yn feysydd i'w hystyried gan yr adran sy’n cyflwyno’r cynnig, neu fân gywiriadau, ond ni fyddant yn achosi oedi o ran cymeradwyo'r cynnig.
b. Amodau: dylid datgan yr amodau’n glir os yw cymeradwyo’r cynnig yn ddibynnol ar gyflawni amodau penodol o fewn amserlen a nodir. Ni fydd y cynnig yn cael ei gymeradwyo hyd nes bod yr amodau hyn yn cael eu bodloni.
Canlyniad y Panel Craffu Academaidd
13. Yn dilyn cyfarfod y panel, bydd Ysgrifennydd y Panel (aelod o Dîm Sicrhau Ansawdd y Gofrestrfa Academaidd fel arfer) yn paratoi cofnodion y cyfarfod mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd.
14. Dylai’r Adran sy’n cyflwyno’r cynnig lenwi blaenddalen pwyllgor mewn ymateb i'r cofnodion, gan roi manylion y diwygiadau a wnaed i'r cynnig gwreiddiol o ganlyniad i adborth y Panel Craffu Academaidd. Ni ddylid gwneud unrhyw newidiadau pellach i’r ffurflenni SDF oni bai bod y Panel yn argymell gwneud hynny. Bydd cofnodion y Panel Craffu Academaidd yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Ansawdd a Safonau.
Marchnata’r cynllun
15. Cyhoeddir enghraifft o'r amserlen ar gyfer marchnata a chymeradwyo (cylch cynllunio dwy flynedd) ar-lein: https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/handbook/dev-review/. Os gwneir cynnig am gynllun newydd nad yw'n unol â'r cylch dwy flynedd, bydd y Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr) yn penderfynu pa mor ymarferol fyddai cyflwyno'r cynllun ynghynt.
16. Caiff y cynllun ei hysbysebu fel un sy’n 'amodol ar gael ei gymeradwyo' ym mhrosbectws ffurfiol nesaf y Brifysgol yn dilyn cymeradwyaeth y Panel Craffu Academaidd. Ni cheir hysbysebu cynlluniau ar UCAS nac ar-lein tan i'r drefn gymeradwyo gael ei chwblhau yn ei chrynswth, oni bai bod yr adran wedi cyflwyno achos llwyddiannus i gael hysbysebu'r cynllun 'yn amodol ar ei gymeradwyo' mewn deunydd print ac ar-lein yn ogystal â phrosbectws ffurfiol y Brifysgol. Bydd tîm Sicrhau Ansawdd y Gofrestrfa Academaidd yn rhoi gwybod i'r adran(nau) sy’n cynnig y cynllun ac i adrannau’r gwasanaethau perthnasol.
17. Bydd y cymal ‘yn amodol ar gael ei gymeradwyo’ yn cael ei ddileu a bydd y cynllun yn cael ei hysbysebu ar-lein ac ar dudalennau chwilio am gyrsiau, wedi iddo gwblhau'r broses gymeradwyo ar ei hyd. Bydd tîm Sicrhau Ansawdd y Gofrestrfa Academaidd yn rhoi gwybod i'r adran(nau) sy’n cynnig y cynllun ac i adrannau’r gwasanaethau perthnasol.
-
-
2.7 Mân newid neu ad-drefnu (SDF3)
1. Rhaid i adrannau ddilyn y llwybr hwn os ydynt yn cynnig mân newid neu ad-drefnu cynllun sy'n bod eisoes. Dylai'r Adran lenwi’r dogfennau canlynol i'w hystyried gan Bwyllgor Dysgu ac Addysgu’r Adran a Phwyllgor Gwaith y Gyfadran. Ceir canllawiau manwl pellach yn y Ffurflen Datblygu Cynllun (SDF).
(i) blaenddalen pwyllgor
(ii) Ffurflen Datblygu Cynllun 3 (SDF3)
(iii) ffurflenni cymeradwyo modiwlau newydd/diwygiedig, os yw'n briodol, neu ddolenni at fodiwlau presennol.
2. Yr adrannau a’r cyfadrannau sy'n gyfrifol am graffu yn fanwl o safbwynt academaidd ar fân newidiadau i gynlluniau. Ar ôl iddynt gael eu cymeradwyo gan Bwyllgor Dysgu ac Addysgu’r adran a Phwyllgorau Gwaith y Cyfadrannau, dylid eu hanfon ymlaen at Gofnodion Myfyrwyr i'w gweithredu a'u copïo i'r Tîm Sicrhau Ansawdd (qaestaff@aber.ac.uk). I gyd-fynd â’r SDF3, dylid cynnwys blaenddalen sy'n crynhoi'r newidiadau ac yn cadarnhau dyddiadau’r Pwyllgor Dysgu ac Addysgu adrannol a Phwyllgor Gwaith y Gyfadran sef y pwyllgorau lle y craffwyd ar y cynigion a’u cymeradwyo. Ni fydd ffurflenni SDF3 yn cael eu prosesu os nad yw'r flaenddalen hon yn bresennol.
3. Dylai’r adrannau academaidd roi ystyriaeth fanwl i oblygiadau unrhyw fân newidiadau a wneir i gynlluniau sydd eisoes yn bodoli, a allai godi o ganlyniad i'r monitro blynyddol neu i adborth allanol, a dylent ymgynghori â myfyrwyr fel yr amlinellir yn Adran 2.1 o’r Llawlyfr Ansawdd Academaidd. Dylai'r adrannau academaidd ymgynghori hefyd â Thîm Sicrhau Ansawdd y Gofrestrfa Academaidd i wneud yn sicr pa lwybr cymeradwyo ddylid ei ddilyn. Os na fydd Pwyllgor Gwaith y Gyfadran neu’r Tîm Sicrhau Ansawdd yn fodlon â lefel y manylder a roddwyd, neu os yw o'r farn bod y newidiadau a gynigir yn fwy na mân ddiwygiadau, efallai y bydd yn mynnu bod yr adran(nau) dan sylw yn cyflwyno cynnig i ad-drefnu’r cynllun trwy ffurflen SDF1 neu SDF2 i’w ystyried gan Weithrediaeth y Brifysgol a/neu’r Panel Craffu Academaidd.
4. Er mwyn sicrhau nad yw cynlluniau gradd yn newid o ganlyniad i ddiwygiadau blynyddol yn cronni, i'r graddau nad ydynt bellach yn ddilys yng nghyswllt y manylion gwreiddiol, rhaid i'r holl fân ddiwygiadau i gynlluniau gael eu monitro gan y cyfadrannau a'u hadrodd i'r Pwyllgor Ansawdd a Safonau trwy gyfrwng y Monitro Blynyddol ar Gynlluniau a Ddysgir trwy Gwrs. Mae pob cynllun hefyd yn mynd trwy broses ail-ddilysu cyfnodol o’r ddarpariaeth bob pum mlynedd.
5. Mae modd cymeradwyo mân newidiadau i gynllun yn ystod yr ail-ddilysu cyfnodol o’r ddarpariaeth, fel yr amlinellir yn Adran 2.12 y Llawlyfr Ansawdd Academaidd.
6. I gynorthwyo adrannau i asesu lefel y newidiadau sy'n cael eu cynnig a'r drefn gymeradwyo briodol, dylid gofyn am gyngor Tîm Sicrhau Ansawdd y Gofrestrfa Academaidd. Bydd mân ddiwygiadau fel arfer yn ymwneud ag agweddau tebyg i'r rhai isod:
(i) Dim newid gwirioneddol i amcanion y cynllun fel ag y mae
(ii) Dim newid gwirioneddol i nifer y modiwlau craidd na chyfyngu ar ddewis myfyrwyr
(iii) Dim newid gwirioneddol i ganlyniadau dysgu, cynnwys, na dulliau asesu'r cynllun fel ag y mae
(iv) Dim newidiadau sy'n effeithio dros 60 o gredydau ar unrhyw lefel yn Rhan Dau mewn cynllun israddedig
(v) Dim newidiadau sy'n effeithio dros 60 o gredydau ar gynllun uwchraddedig trwy gwrs.
7. Mae’n bosib y bydd y Gofrestrfa Academaidd yn penderfynu bod angen ymgynghoriad allanol os yw'r cynllun yn wahanol iawn i'r ddarpariaeth bresennol ar y lefel honno.
-
2.8 Gohirio a Dileu Cynllun Astudio a Newid Teitl Cynllun (SDF5/SDF6)
Gohirio cynllun astudio
1. Ni chaiff cynigion a gyflwynir gan adrannau i ohirio cynllun ei ystyried tan ar ôl ymgynghoriad llawn o fewn y gyfadran berthnasol, neu ar draws cyfadrannau os oes angen. Rhaid i adrannau ystyried hefyd fod y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar lefel cynllun a modiwl yn cael ei hystyried yn ystod y broses hon. Fel arfer, y disgwyliad yw mai dim ond am un flwyddyn y bydd cynllun yn cael ei ohirio, ac ar ôl hynny y bydd ar gael eto yn awtomatig ar gyfer ceisiadau gan fyfyrwyr ac i'w weld ar dudalennau chwilio am gyrsiau. Bydd cynigion i ohirio cynllun yn cael eu hystyried gan y Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr), a dylai adrannau gyflwyno blaenddalen pwyllgor a Ffurflen Datblygu Cynllun 5 (SDF5) i'w hystyried gan y Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr). Ni fydd angen craffu pellach, a bydd y penderfyniad yn cael ei gofnodi yn y Pwyllgor Ansawdd a Safonau.
Dileu cynllun astudio
2. Ni chaiff cynigion a gyflwynir gan adrannau i ddileu cynllun ei ystyried tan ar ôl ymgynghoriad llawn o fewn y gyfadran berthnasol, neu ar draws cyfadrannau os oes angen. Rhaid i adrannau ystyried hefyd fod y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar lefel cynllun a modiwl yn cael ei hystyried yn ystod y broses hon. Fel arfer, disgwylir i gynllun gael ei ddiddymu'n raddol dros gyfnod er mwyn i'r Brifysgol gyflawni ei hymrwymiad i fyfyrwyr cofrestredig. Fel eithriad, lle bo angen ad-drefnu ar frys, bydd y Brifysgol yn gwneud pob ymdrech i sicrhau lle mewn man arall i fyfyrwyr sydd eisoes yn y Brifysgol ac sy'n dymuno cwblhau'r cwrs astudio y cawsant eu derbyn arno'n wreiddiol. Os yw rhaglen israddedig yn cael ei dileu hanner ffordd trwy gylch derbyn, bydd confensiynau arferol UCAS yn gweithredu yn achos myfyrwyr a wnaeth gais am fynediad ar y cwrs hwnnw. Bydd cynigion i ddileu cynllun yn cael eu hystyried gan y Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr), a dylai adrannau gyflwyno blaenddalen pwyllgor a Ffurflen Datblygu Cynllun 5 (SDF5) i'w hystyried gan y Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg a Phrofiad Myfyrwyr). Ni fydd angen craffu pellach, a bydd y penderfyniad yn cael ei gofnodi yn y Pwyllgor Ansawdd a Safonau.
3. Nid ar gyfer cynlluniau cyfrwng Cymraeg yn unig y mae Adran 2, oherwydd gall dileu cynllun gael effaith hefyd ar fodiwlau'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg; dylid ei llenwi ar gyfer pob cynllun. Rhaid i adrannau lenwi Adran 2 mewn ymgynghoriad â Dirprwy Is-Ganghellor Cynorthwyol y Gyfadran (Cymraeg), a fydd yn gyfrifol am ymgynghori â chydweithwyr perthnasolcyn cyflwyno’r cynnig i'r Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr).
4. Dylai'r adrannau gadw mewn cof y bydd y Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr) yn craffu ar gynigion i ohirio neu ddileu cynllun a goblygiadau’r penderfyniad yng ngoleuni arweiniad yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) ynglŷn â Chyfraith Defnyddwyr.
5. Gall y Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr) a’r Pennaeth Cynllunio gynnig gohirio neu ddileu cynlluniau'n flynyddol yn seiliedig ar ddata tueddiadau recriwtio a gwybodaeth am y farchnad. Bydd y Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr) yn gwahodd adrannau i weithredu ar sail yr adroddiad hwn i ddileu neu ohirio cynlluniau fel y bo'n briodol. Gwahoddir cyfadrannau i ddarparu rhesymeg gadarn i’r Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr) ar gyfer cadw unrhyw gynlluniau a nodwyd yn yr adroddiad. Dylai cyfadrannau ystyried cydymffurfiaeth â Safonau'r Gymraeg, mewn ymgynghoriad â Dirprwy Is-Ganghellor Cynorthwyol y Gyfadran (Cymraeg) a fydd yn gyfrifol am ymgynghori â chydweithwyr perthnasol a chadarnhau unrhyw effaith ar y ddarpariaeth. Bydd gan y Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr) yr awdurdod i wneud penderfyniadau terfynol gan ystyried yr adborth hwn. Ni fyddai angen dogfennau cymeradwyo pellach a bydd y penderfyniad yn cael ei gofnodi yng nghofnodion y Pwyllgor Ansawdd a Safonau.
Newid teitl cynllun
6. Y Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr) fydd yn ystyried newidiadau i deitl cynllun. Dylai'r Adran lenwi'r canlynol i'w hystyried gan y Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg a Phrofiad y Myfrwyr):
(i) Blaenddalen pwyllgor
(ii) Ffurflen Datblygu Cynllun 6 (SDF6)
Ni fydd angen craffu pellach, a bydd y penderfyniad yn cael ei gofnodi yng nghofnodion y Pwyllgor Ansawdd a Safonau.
-
2.9 Darpariaeth Dysgu a DPP Ar-lein ac o Bell
1. Mae'r Brifysgol wedi cymeradwyo cyfres o egwyddorion, llwyfannau a modelau darparu sy’n allweddol i’r sefydliad ac sy’n ymwneud â dylunio a chyflwyno darpariaeth dysgu a DPP ar-lein ac o bell.
2. Dylai’r Cyfadrannau sicrhau bod cynigion i ddatblygu darpariaeth dysgu a DPP ar-lein/o bell, gan gynnwys cynigion sy'n gysylltiedig â phrosiectau ymchwil, yn cael eu hystyried drwy gylch Cynllunio’r Brifysgol er mwyn sicrhau eu bod yn cyd-fynd â blaenoriaethau strategol y Brifysgol a bod adnoddau ar gael.
3. Pan fo cynigion sy'n gysylltiedig â phrosiectau ymchwil yn codi y tu allan i gylch Cynllunio’r Brifysgol, cyn cyflwyno Cais am Grant Ymchwil dylai'r adran ymgynghori â'r Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr) os oes goblygiadau o ran addysgu a dysgu.
4. Yn y lle cyntaf, dylid datblygu darpariaeth ar-lein anghydamserol drwy gydweithredu â'r llwyfan Higher Ed Partners (HEP). Os penderfynir nad dyna’r partner / llwyfan mwyaf priodol, dylid cyflwyno'r ddarpariaeth trwy adran Dysgu Gydol Oes y Brifysgol, trwy Blackboard Ultra.
5. Dylid cyflwyno'r holl ddarpariaeth gydamserol arall - yn ddysgu ar-lein neu o bell - a darpariaeth DPP trwy adran Dysgu Gydol Oes y Brifysgol, trwy Blackboard Ultra.
6. Ni ddatblygir cynigion am ddarpariaeth dysgu ar-lein/o bell heb amgylchedd dysgu rhithiol.
-
2.10 Monitro Blynyddol y Cynlluniau a Ddysgir trwy Gwrs
1. Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i'r drefn flynyddol o fonitro'r holl gynlluniau a ddysgir o fewn i'r cyd-destun a osodir gan God Ansawdd y DU. Y Pwyllgor Ansawdd a Safonau sy’n gyfrifol am oruchwylio’r drefn hon.
2. Diben y Monitro Blynyddol yw darparu dull diogel i roi sicrwydd i'r Brifysgol bod y cynlluniau'n cyflawni eu hamcanion ac i nodi meysydd o arfer da, a lledaenu'r wybodaeth hon er mwyn gwella'r ddarpariaeth.
3. Yr adran academaidd sydd bennaf gyfrifol am fonitro pob cynllun israddedig ac uwchraddedig a ddysgir trwy gwrs yn flynyddol, ac mae'r adran yn adrodd yn ôl i'r gyfadran berthnasol. Mae'n bwysig nabod materion neu bryderon sy'n benodol i gynllun arbennig neu'n gyffredin i nifer ohonynt, yna ystyried y materion hynny, adrodd yn ôl amdanynt a chymryd y camau priodol. Mae hyn yn gymwys yn achos pryderon yn gysylltiedig â modiwlau'r adran ei hun neu fodiwlau adran arall neu bartner-ddarparwr sy'n rhan hanfodol o'r cynllun dan sylw.
4. Cydlynydd y cynllun, neu unigolyn cyfatebol, ddylai lenwi'r ffurflen AMTS1, gan ddibynnu ar ddull grwpio'r cynlluniau. Mae'r holl gynlluniau astudio a ddysgir yn cael eu monitro'n flynyddol. Mae hyn yn cynnwys cynlluniau israddedig, cynlluniau uwchraddedig a chynlluniau masnachfraint, a rhaid llenwi ffurflen ar wahân ar gyfer cynlluniau israddedig, uwchraddedig a masnachfraint. I gynorthwyo â'r drefn, bydd pecynnau data Monitro Blynyddol yn cael eu darparu i gynlluniau lle mae'r niferoedd yn arwyddocaol yn ystadegol.
5. Wrth ystyried adroddiadau'r AMTS2, gall y cyfadrannau ofyn i'r adrannau am eglurhad pellach ynglŷn â materion a godwyd neu ynglŷn â chamau i'w cymryd. Bydd materion sydd angen eu hystyried ar lefel prifysgol yn cael eu cyfeirio at y Pwyllgor Ansawdd a Safonau. Ar ben hyn, gall Pwyllgor y Ddarpariaeth Gydweithrediadol ofyn am eglurhad pellach gan gyfadrannau ynglŷn â materion sy'n gysylltiedig â phartneriaethau a chytundebau masnachfraint.
6. Gofynnir i gydlynwyr y cynlluniau gyflwyno'u hadroddiadau AMTS1 i'r gyfadran fel tystiolaeth ffurfiol. Cedwir ffurflenni AMTS1 o flynyddoedd academaidd blaenorol ar gyfer arolygu neu ail-ddilysu cynlluniau. Adroddiad cyfunol ar lefel y gyfadran yw adroddiad AMTS2. Adroddir am eithriadau a dylid gwneud sylwadau ar faterion sydd o arwyddocâd arbennig. Dylai hyn gynnwys llwyddiant, arfer da a dyfeisgarwch, peryglon i ansawdd a heriau, a dylid dethol materion i'w dwyn i sylw'r brifysgol.
7. Ceir cyfarwyddiadau ychwanegol yn y templedi AMTS (Monitro Blynyddol y Cynlluniau a Ddysgir trwy Gwrs) sydd i'w gweld ar ddiwedd y bennod hon.
-
2.11 Adolygiad Blynyddol o Fanylebau'r Rhaglen
1. Dylai’r Adrannau gynnal adolygiad blynyddol o fanylebau eu rhaglenni er mwyn sicrhau eu bod wedi cael eu diweddaru a’u bod yn parhau i fod yn ddilys; gellir gwneud hyn ar unrhyw adeg yn ystod y sesiwn bresennol, ond gofynnir i'r Adrannau anfon unrhyw newid ymlaen i'r Tîm Sicrhau Ansawdd (qaestaff@aber.ac.uk) erbyn diwedd Semester 2 yn ystod pob sesiwn academaidd. Mae’n bosib y bydd angen i unrhyw newidiadau sylweddol gael eu hystyried a’u cymeradwyo gan y Gyfadran. Bydd fersiynau PDFs o fanylebau’r rhaglenni yn cael eu cyhoeddi ar ddechrau pob sesiwn academaidd ar gyfer y sesiwn dan sylw.
-
2.12 Adolygiad Adrannol, gan gynnwys ail-ddilysu'r ddarpariaeth
Mae'r adran hon yn cael ei hadolygu.
-
2.13 Achrediad gan Gyrff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddiol (PSR)
1. Cyrff PSR sy'n gosod safonau ac yn rheoleiddio safonau mynediad i broffesiynau arbennig. Mae'r Brifysgol yn ymwneud â nifer o'r cyrff hyn trwy achrediad ffurfiol o rai o'r cynlluniau astudio ar lefel israddedig ac uwchraddedig. Yn rhan o'i gyfrifoldebau am God Ansawdd Addysg Uwch y DU, y Pwyllgor Ansawdd a Safonau sy'n bennaf gyfrifol am reoli'r holl waith adolygu, dilysu ac achredu allanol sy'n ymwneud â'r gweithgareddau dysgu yn y Brifysgol.
2. Mae Adrannau'n cadw elfen o gyfrifoldeb am gysylltu â'r cyrff ynglŷn ag achrediadau cychwynnol a rheoli'r cynlluniau achrededig yn eu meysydd. Mae adroddiadau'r Cyrff PSR yn darparu adborth allanol pwysig ynghylch ansawdd a safonau cynlluniau a disgwylir i adrannau eu hystyried yn drwyadl yn rhan o Fonitro Blynyddol y Cynlluniau a Ddysgir trwy Gwrs (gweler adran 6 y ffurflen AMTS1).
3. Rhaid i adrannau gadarnhau a yw'n fwriad gwneud cais am achrediad i gynlluniau newydd yn rhan o'r Drefn Cymeradwyo Cynlluniau. Dylid cael achrediad cychwynnol i gynlluniau newydd cyn gynted ag y gellir ar ôl iddynt gael eu cymeradwyo'n derfynol, a rhaid rhoi gwybod i'r Pwyllgor Ansawdd a Safonau am ganlyniad yr ymarfer achredu.
4. Rhaid i Gyfadrannau sicrhau bod copïau o'r canlynol yn cael eu cyflwyno i'r Gofrestrfa Academaidd, a lle bo’n briodol dylid eu dwyn i sylw’r Pwyllgor Ansawdd a Safonau: pob gohebiaeth a dogfen a gyflwynwyd i Gorff PSR i ddiben achredu; gohebiaeth ac adroddiadau sy'n deillio o ymarfer achredu, ac ymateb neu gynlluniau gweithredu'r adran. Dylid anfon y rhain at qaestaff@aber.ac.uk
5. Bydd y canlyniadau a, lle bo’n briodol, yr adroddiadau sy'n deillio o adolygiadau PSRB yn cael eu hystyried gan y Pwyllgor Ansawdd a Safonau. Diben gwneud hynny yw sicrhau y gellir rhoi sylw i unrhyw wendidau a nodwyd yng ngweithdrefnau'r Brifysgol, bod adrannau'n ymateb i unrhyw fater a godir gan y Cyrff PSR, a bod arfer da yn cael ei ledaenu'n ehangach yn y Brifysgol. Bydd y Pwyllgor Ansawdd a Safonau, trwy’r cyfadrannau, yn dilyn a monitro unrhyw weithredu sy'n deillio o adroddiadau Cyrff PSR, ac efallai y byddant yn gofyn i adrannau baratoi cynlluniau gweithredu mewnol i ymateb i'r adroddiadau.
6. Bydd y Pwyllgor Ansawdd a Safonau yn cadw cofrestr o'r holl gynlluniau sy’n cael eu hachredu gan Gyrff PSR. Gwahoddir y Cyfadrannau i adolygu a chadarnhau cywirdeb y gofrestr yn flynyddol. Mae disgwyl hefyd i Gyfadrannau roi gwybod i'r Pwyllgor Ansawdd a Safonau am unrhyw newidiadau i statws achrediad cynlluniau.
7. Yr adrannau sy’n gyfrifol am gyhoeddi manylion llawn achrediad cynlluniau ar gyfer myfyrwyr, a rhaid iddynt roi gwybod i ymgeiswyr a myfyrwyr am statws y cynlluniau astudio yng nghyswllt achrediad gan Gyrff PSR.
8. Os gwneir newidiadau i'r dull astudio, neu os sefydlir trefn gydweithrediadol newydd ar gyfer cynllun astudio, rhaid i'r adran berthnasol gysylltu â'r Cyrff PSR i weld a yw'r ddarpariaeth ddiwygiedig yn dod o fewn cwmpas y trefniadau achredu cyfredol. Rhaid rhoi gwybod i fyfyrwyr am statws y ddarpariaeth newydd neu ddiwygiedig.
-
2.14 Canllawiau ar gyfrifo canrannau cyfrwng Cymraeg ar gyfer cynlluniau gradd
1. Mae PA yn hysbysebu canran cyfrwng Cymraeg ar gyfer pob un o'i chynlluniau gradd lle mae'n bosibl astudio o leiaf un modiwl drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r wybodaeth hon yn ymddangos ar y wefan ac yn y prosbectws dwyieithog, felly mae'n bwysig ei bod yn gywir er mwyn cydymffurfio â rheoliadau hysbysebu. Dylid sicrhau bod canran cyfrwng Cymraeg wedi’i nodi ar AStRA ar gyfer pob cynllun gradd sy'n bwydo'r wybodaeth ar y wefan. Bydd y Gofrestrfa Academaidd yn diweddaru AStRA ar sail data a ddarperir gan adrannau academaidd.
2. Cyfrifo canrannau cyfrwng Cymraeg ar gyfer cynlluniau gradd.
(i) Cynlluniau a ddysgir 100% trwy gyfrwng y Gymraeg.
C1) A yw rhai o'r oriau cyswllt ar o leiaf un modiwl craidd ar y cynllun gradd yn cael eu haddysgu trwy gyfrwng y Saesneg? (e.e. mae seminarau ar gael yn Gymraeg ond mae'r darlithoedd yn Saesneg).
A1) Os felly, ystyrir bod y cynllun gradd yn gynllun gradd a ddysgir yn rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg a bydd ei ganran cyfrwng Cymraeg yn llai na 100%.
C2) A oes rhaid i fyfyriwr ddewis o leiaf un modiwl dewisol a ddysgir yn gyfan gwbl yn Saesneg neu o leiaf un modiwl dewisol sy'n cynnwys rhai oriau cyswllt cyfrwng Saesneg ar y cynllun gradd? (Hynny yw, nid oes digon o fodiwlau sy'n cael eu haddysgu yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg i fyfyriwr astudio 120 credyd ym mhob blwyddyn astudio, felly i gyrraedd 120 credyd, rhaid iddynt ddewis modiwl neu fodiwlau a ddysgir yn rhannol neu'n gyfan gwbl trwy gyfrwng y Saesneg).
A2) Os felly, ystyrir bod y cynllun gradd yn gynllun gradd a ddysgir yn rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg a bydd ei ganran cyfrwng Cymraeg yn llai na 100%.
C3) Sut mae cyfrifo canran ar gyfer cynlluniau gradd a ddysgir yn rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg?
-
- Mae gan bob modiwl ganran cyfrwng Cymraeg. Mae hyn yn ein galluogi i gyfrifo nifer y credydau cyfrwng Cymraeg ar bob modiwl. Er enghraifft, os yw modiwl yn fodiwl 20 credyd a'i ganran cyfrwng Cymraeg yn 90%, mae 18 credyd cyfrwng Cymraeg ar gael ar y modiwl. Mae'r canrannau cyfrwng Cymraeg ar gyfer modiwlau yn cael eu cofnodi ar AStRA.
- Dewiswch y llwybr gyda'r nifer uchaf o gredydau cyfrwng Cymraeg. Mae angen adio nifer y credydau cyfrwng Cymraeg ar bob modiwl ar y llwybr hwnnw a rhannu’r cyfanswm gyda 360 ar gyfer gradd 3 blynedd, 480 ar gyfer gradd 4 blynedd neu 240 ar gyfer gradd 2 flynedd (e.e. gradd sylfaen).
- Ni ddylid cynnwys modiwlau craidd yn unig.
- Ni ddylid cynnwys pob modiwl dewisol cyfrwng Cymraeg os nad oes modd eu dilyn bob un (h.y. rhaid i fyfyriwr ddewis rhyngddynt).
- Os oes modd dewis rhwng modiwlau gyda gwahanol ganrannau cyfrwng Cymraeg, dylid dewis y modiwl gyda’r canran cyfrwng Cymraeg uchaf.
- Yn rhan 2, dylid osgoi cynnwys opsiynau cyfrwng Cymraeg o bynciau eraill er mwyn cynyddu canran cyfrwng Cymraeg y cynllun gradd oni bai eu bod yn yr un maes. Dylai'r llwybr cyfrwng Cymraeg yn rhan 2 fod yn llwybr ym mhwnc y cynllun gradd. Byddai cynnwys dewis agored o hyd at 20 credyd y flwyddyn yn dderbyniol. Yn draddodiadol, mae rhai adrannau yn disgwyl i fyfyrwyr rhan 1 astudio hyd at 60 credyd y tu allan i'w pwnc. Os yw'n bosib astudio'r credydau hyn drwy gyfrwng y Gymraeg, dylid eu cynnwys yng nghanran cyfrwng Cymraeg y cynllun gradd.
- Ni ddylid cynnwys blwyddyn ryng-gyrsiol, blwyddyn dramor neu flwyddyn mewn diwydiant, hyd yn oed os yw'r flwyddyn yn cario credydau ac mae'n bosib ei dilyn trwy gyfrwng y Gymraeg.
3. Enghreifftiau
(i) Enghraifft 1: L255 Gwleidyddiaeth Ryngwladol (2018/19) [Cynllun gradd dynodedig cyfrwng Cymraeg]
Blwyddyn
1
2
3
Modiwlau craidd ar gael drwy’r Gymraeg
Credydau cyfrwng Cymraeg ar y modiwlau
Modiwlau craidd ar gael drwy’r Gymraeg
Credydau cyfrwng Cymraeg ar y modiwlau
Modiwlau craidd ar gael drwy’r Gymraeg
Credydau cyfrwng Cymraeg ar y modiwlau
GW12420 Cyflwyniad i Wleidyddiaeth Ryngwladol 1: Cysyniadau Canolog a Sgiliau
18
GW20120 Cysylltiadau Rhyngwladol: Safbwyntiau a Thrafodaethau
18.6
GW30040 Dulliau Ymchwil + Traethawd Estynedig
30
GW12620 Y Tu ôl i'r Penawdau
18
GW12520 Cyflwyniad i Wleidyddiaeth Ryngwladol 2: Heriau byd-eang
17.6
Cyfanswm nifer y credydau craidd sydd eu hangen
60
Cyfanswm nifer y credydau craidd sydd eu hangen
20
Cyfanswm nifer y credydau craidd sydd eu hangen
40
Modiwlau dewisol ar gael drwy’r Gymraeg
Credydau cyfrwng Cymraeg ar y modiwlau
Modiwlau dewisol ar gael drwy’r Gymraeg
Credydau cyfrwng Cymraeg ar y modiwlau
Modiwlau dewisol ar gael drwy’r Gymraeg
Credydau cyfrwng Cymraeg ar y modiwlau
GW12820 Llunio'r Byd Modern: Rhyfel, Heddwch a Chwyldro ers 1789
18.4
GQ20920 Y Meddwl Cymreig mewn Syniadaeth Ryngwladol
20
GQ30920 Y Meddwl Cymreig mewn Syniadaeth Ryngwladol
20
GW10320 Rhyfel Strategaeth a Chuddwybodaeth
17.2
GQ23720 Amlddiwylliannedd mewn Polisi ac Ymarfer
20
GQ33720 Amlddiwylliannedd mewn Polisi ac Ymarfer
20
GW12920 Gwleidyddiaeth yn yr Unfed Ganrif ar Hugain
17.6
GQ23420 Rhyfel Diarbed, Heddwch Diarbed
20
GQ33420 Rhyfel Diarbed, Heddwch Diarbed
20
Cyfanswm y credydau dewisol sydd eu hangen
60
Cyfanswm y credydau dewisol sydd eu hangen
100
Cyfanswm y credydau dewisol sydd eu hangen
80
Cyfanswm credydau cyfrwng Cymraeg blwyddyn 1
- 8
Cyfanswm credydau cyfrwng Cymraeg blwyddyn 2
- 6
Cyfanswm credydau cyfrwng Cymraeg blwyddyn 3
90
Cyfanswm dros 3 blynedd: 275.4 Credydau cyfrwng Cymraeg = 76.5%
(ii) Enghraifft 2: D4N1 Agriculture with Studies (2018/19) [Cynllun gradd dynodedig cyfrwng Saesneg]
Blwyddyn
1
2
3
Modiwlau craidd ar gael drwy’r Gymraeg
Credydau cyfrwng Cymraeg ar y modiwlau
Modiwlau craidd ar gael drwy’r Gymraeg
Credydau cyfrwng Cymraeg ar y modiwlau
Modiwlau craidd ar gael drwy’r Gymraeg
Credydau cyfrwng Cymraeg ar y modiwlau
BG11400/10
Cyflwyniad i Systemau Cynhyrchu Da Byw
10
BG20400/20
Systemau Cynhyrchu Da Byw
20
BG34010
Taith Astudio Amaethyddol a'r Amgylchedd Gwaith
2.5
BG12410
Sgiliau Astudio a Chyfathrebu
10
BG25620
Dulliau Ymchwil
10
BG32300/30
Traethawd Estynedig
30
BG11110
Y Diwydiant Amaethyddol - Sgiliau Cynllun-Benodol
7.5
Cyfanswm nifer y credydau craidd sydd eu hangen
70
Cyfanswm nifer y credydau craidd sydd eu hangen
80
Cyfanswm nifer y credydau craidd sydd eu hangen
60
Modiwlau dewisol ar gael drwy’r Gymraeg
Credydau cyfrwng Cymraeg ar y modiwlau
Modiwlau dewisol ar gael drwy’r Gymraeg
Credydau cyfrwng Cymraeg ar y modiwlau
Modiwlau dewisol ar gael drwy’r Gymraeg
Credydau cyfrwng Cymraeg ar y modiwlau
MR10500/20
Cyflwyniad i Reolaeth
20
MR30720
Rheolaeth Marchnata
13.4
BG30800/20
Gwyddor Cynhyrchu Da Byw
20
MR10600/20
Cyflwyniad i'r Amgylchedd Busnes
20
MR33120 - Ymddygiad Sefydliadol
13.4
MR34020
Strategaeth Busnes
13.4
MR10120
Egwyddorion Marchnata
13.4
BG21920
Bwyd, Ffermio a'r Amgylchedd
20
BG10810
Datblygu a Rheoli Cynefinoedd ym Mhrydain
10
Cyfanswm credydau dewisol sydd eu hangen
50
Cyfanswm credydau dewisol sydd eu hangen
40
Cyfanswm credydau dewisol sydd eu hangen
60
Cyfanswm credydau cyfrwng Cymraeg blwyddyn 1 (llwybr gyda'r % cyfrwng Cymraeg uchaf)
- 5
Cyfanswm credydau cyfrwng Cymraeg blwyddyn 2 (llwybr gyda'r % cyfrwng Cymraeg uchaf)
- 4
Cyfanswm credydau cyfrwng Cymraeg blwyddyn 3
- 9
Cyfanswm dros 3 blynedd: 206.8 Credydau cyfrwng Cymraeg = 57.4%
2.14.1 Arweiniad ar gyfrifo canrannau cyfrwng Cymraeg ar gyfer modiwlau cyfrwng Cymraeg
1. Er mwyn i adrannau gyrraedd eu targedau o ran cynyddu nifer y myfyrwyr sy'n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, mae angen sicrhau:
- Bod cyfeirnod modiwl cyfrwng Cymraeg ar gyfer unrhyw fodiwl ag iddo elfen o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg
- Bod yr adran yn nodi canran cyfrwng Cymraeg ar gyfer pob modiwl sydd â chyfeirnod modiwl cyfrwng Cymraeg yn y maes priodol yng nghofnod y modiwl ar AStRA
- Mynd i ddosbarthiadau cyfrwng Cymraeg (oriau cyswllt Cymraeg).
2. Os nad oes cyfeirnod modiwl cyfrwng Cymraeg gan fodiwl a chanran cyfrwng Cymraeg ar gofnod y modiwl, nid oes modd i’r system gyfrifiadurol adnabod y myfyrwyr ar y modiwl fel myfyrwyr sy'n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg a byddant yn ymddangos fel myfyrwyr cyfrwng Saesneg yn y data y mae’r Cyngor Cyllido (HEFCW) yn ei ddefnyddio i fesur ein cyrhaeddiad targedau ar gyfer cynyddu nifer y myfyrwyr cyfrwng Cymraeg. Bydd hyn yn peryglu ein gallu i ddenu buddsoddiad pellach yn y maes. Bydd y Gofrestrfa Academaidd yn diweddaru AStRA ar sail data a ddarperir gan adrannau academaidd.
3. Cyfrifo canrannau cyfrwng Cymraeg
(i) Modiwlau a ddysgir 100% trwy gyfrwng y Gymraeg.
C1) Ai Cymraeg yw cyfrwng yr holl oriau cyswllt; hynny yw, mae pob darlith, seminar, tiwtorial, gweithdy, sesiynau mewn labordy, ac ati, yn digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg?
A1) Os felly, mae’r modiwl yn cael ei ystyried yn fodiwl 100% drwy’r Gymraeg. D.S. Mae hyn yn wir hyd yn oed os oes disgwyl i’r myfyrwyr ddarllen testunau yn Saesneg neu iaith arall fel rhan o’r modiwl.
C2) A yw'n fodiwl Cymraeg sy'n cyflwyno myfyrwyr i'r Gymraeg ar gyfer dechreuwyr?
A2) Dylid cofnodi'r modiwl yn 100% cyfrwng Cymraeg.
(ii) Modiwlau a ddysgir yn rhannol yn Gymraeg.
C1) A yw rhai o'r oriau cyswllt ar y modiwl, e.e. seminarau, yn Gymraeg, a rhai o'r oriau cyswllt, e.e. darlithoedd, yn Saesneg?
A1) Os felly, mae’r modiwl yn cael ei ystyried yn fodiwl a addysgir yn rhannol yn Gymraeg a bydd ei ganran cyfrwng Cymraeg yn llai na 100%.
Yn yr achos hwn, mae angen edrych ar gyfanswm yr oriau a dreulir ar y modiwl.
Canran cyfrwng Cymraeg y modiwl = Nifer yr oriau astudio drwy gyfrwng y Gymraeg
Cyfanswm yr oriau astudio
C2) Beth yw cyfanswm yr oriau astudio?
A2) Mae 1 credyd yn cyfateb i 10 awr o astudio. E.e. cyfanswm yr oriau astudio ar fodiwl 10 credyd yw 100 awr.
C3) Faint o oriau o astudio drwy gyfrwng y Gymraeg sydd gan fodiwl?
A3) Dylech gynnwys unrhyw oriau a dreulir:
-
- Yn gwneud gweithgareddau eraill hunan-gyfeiriedig cyfrwng Cymraeg (e.e. gwaith cartref ar gyfer seminar)
- Yn gwneud gwaith cwrs asesedig (e.e. ysgrifennu traethawd, ysgrifennu adroddiad, gwneud taflenni gwaith, ac ati); [D.S. Ar fodiwlau sydd â chyfeirnod modiwl cyfrwng Cymraeg, mae disgwyl i fyfyrwyr allu cyflwyno eu gwaith yn Gymraeg a derbyn adborth yn Gymraeg. Ni ddylid cyfieithu gwaith i'w farcio ar fodiwlau cyfrwng Cymraeg]
- Yn gwneud unrhyw ymarferion cyfrwng Cymraeg nad ydynt yn cyfrif tuag at farc terfynol y modiwl
- Adolygu ar gyfer arholiad(au)
- Ymarfer ar gyfer perfformiad cyfrwng Cymraeg (e.e. drama, sioe gerdd).
4. Os nad ydych yn siŵr faint o oriau y mae myfyrwyr i fod i dreulio ar y gwahanol weithgareddau ar fodiwl, mae dadansoddiad ar gael ar ffurflen ddilysu wreiddiol y modiwl. Ar gyfer modiwlau a ddilyswyd rai blynyddoedd yn ôl, bydd copi o'r ffurflen hon ar gael yng nghofnodion cyfarfod y deoniaid / athrofa lle cymeradwywyd y modiwl. Maent ar gael gan y Gofrestrfa.
5. Enghreifftiau
(i) Modiwl 10 credyd:
Oriau o weithgaredd
Saesneg
Cymraeg
Darlithoedd + darllen
10 + 10
0
Seminarau + paratoi
0
10 + 20
Pecyn dysgu hunan-gyfeiriedig
0
20
Arholiad a thraethawd
5
25
Cyfanswm
23 (25%)
75 (75%)
Canran cyfrwng Cymraeg a awgrymir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: 75%
Noder mai dim ond 50% o'r oriau cyswllt sydd yn y Gymraeg. Fodd bynnag, ystyrir canran cyfrwng Cymraeg o 50% yn rhy geidwadol oherwydd bod nifer o weithgareddau eraill cyfrwng Cymraeg sy'n rhan o'r modiwl y tu hwnt i'r oriau cyswllt cyfrwng Cymraeg.
Noder mai dim ond 10% o oriau tybiannol y modiwl sy'n cael eu dynodi yn oriau cyfrwng Saesneg, sef y deg awr o ddarlithoedd cyfrwng Saesneg. (Mae'n fodiwl 10 credyd ac felly mae’n tybio 100 awr o astudio). Fodd bynnag, ystyrir canran cyfrwng Cymraeg o 90% yn rhy hael gan fod hanner yr oriau cyswllt yn Saesneg ac felly mae'n rhesymol i ragdybio bydd rhai oriau tybiannol cyfrwng Saesneg yn gysylltiedig â'r oriau cyswllt cyfrwng Saesneg.
Mae'r Coleg yn argymell y byddai cofnodi canran o rhwng 70% ac 80% yn rhesymol, gan ddibynnu ar union gyd-destun y modiwl a'r pwnc, ac ystod y gweithgareddau dysgu a pharatoi ar gyfer y seminarau (Cylchlythyr 16/03).
(ii) Modiwl 10 credyd:
Oriau o weithgaredd
Saesneg
Cymraeg
Darlithoedd + darllen
10 + 10
0
Seminarau + paratoi
5 + 10
0
Tiwtorialau unigol + paratoi
0
5 + 10
Arholiad a thraethawd
5
20
Cyfanswm
40 (53%)
35 (47%)
Canran cyfrwng Cymraeg a awgrymir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: 47%
(iii) Model 10 credyd (lle mae'r myfyriwr yn cyflwyno asesiadau yn Saesneg):
Oriau o weithgaredd
Saesneg
Cymraeg
Darlithoedd + darllen
10 + 10
0
Seminarau + paratoi
5 + 10
0
Tiwtorialau unigol + paratoi
0
5 + 10
Arholiad a thraethawd
20
5
Cyfanswm
55 (73%)
20 (27%)
Canran cyfrwng Cymraeg a awgrymir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: 20%
Noder mai 25% o'r oriau cyswllt sydd yn y Gymraeg. Fodd bynnag, ystyrir canran cyfrwng Cymraeg o 25% yn rhy hael oherwydd bod y gweithgareddau eraill sy’n rhan o’r modiwl y tu hwnt i'r oriau cyswllt yn rhai Saesneg.
6. Modiwlau sy’n cynnwys lleoliadau profiad gwaith
C1) A yw'r modiwl yn cael ei ddysgu'n bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg, ond mae elfen o leoliad gwaith lle gall y cyswllt Cymraeg amrywio yn dibynnu ar y cyflogwr, hyd yn oed, mewn rhai achosion, o ddydd i ddydd?
A1) Gallwn wneud penderfyniad rhesymol ynglŷn â chanran gyfartalog yr elfen hon o'r modiwl a gynhaliwyd yn Gymraeg, a rhoi un ganran ar gyfer yr holl fyfyrwyr ar y modiwl (er bod rhai myfyrwyr, mewn gwirionedd, wedi astudio canran ychydig yn uwch na'r cyfartaledd ac eraill wedi astudio canran ychydig yn is).
7. Modiwl cyfrwng Saesneg sy'n cyflwyno elfen o ddeunydd cyfrwng Cymraeg mewn darlithoedd
C1) A yw'r modiwl yn cyflwyno elfen o ddeunydd cyfrwng Cymraeg mewn darlithoedd, er bod y darlithoedd, seminarau ac unrhyw ddosbarthiadau eraill sy'n rhan o'r modiwl yn Saesneg? Enghraifft o hyn fyddai modiwl sy'n paratoi myfyrwyr i gyflwyno'r Gymraeg fel rhan o'r cwricwlwm cynradd yng Nghymru.
A1) Os felly, mae'r Coleg yn awgrymu na ellir cofnodi mwy na 10% o'r modiwl yn gyfrwng Cymraeg, yn rhesymol.
8. Enghraifft
Modiwl 10 credyd:
Oriau o weithgaredd
Saesneg
Cymraeg
Darlithoedd + darllen
15 + 20
5* + 10
Seminarau + paratoi
10 + 20
0
Arholiad a thraethawd
25
0
Cyfanswm
90 (90%)
10 (10%)
*Mae’r modiwl yn cynnwys pum darlith cyfrwng Saesneg sy'n cyflwyno elfen o ddeunydd cyfrwng Cymraeg
Canran cyfrwng Cymraeg a awgrymir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: 10%
9. Mae'r Coleg yn barod i ddarparu arweiniad ar fodiwlau penodol. Dylid cysylltu â'r Swyddog Cangen i wneud cais am arweiniad.
Diweddarwyd Adran 2: Mawrth 2025
-
-
2.15 Furflenni Templed
-
Cymeradwyo Modiwlau
Dylid gwneud cynigion ar gyfer modiwlau newydd a modiwlau wedi'u hailstrwythuro ar-lein gan ddefnyddio system Rheoli Modiwlau APEX sydd ar gael trwy myadmin.aber.ac.uk.
-
Cymeradwyo Cynlluniau
Amserlen o'r Ddyddiadau Cau Allweddol a llifsiartiau
- Crynodeb o'r Weithdrefn - llifsiart
- Amserlen ar gyfer Gohirio / Dileu Cynllun (enghraifft)
- Llinell amser ar gyfer gohirio/dileu cynllun yn dilyn adolygiad blynyddol o ddata tueddiadau recriwtio a gwybodaeth am y farchnad
- Cylch Cynlluniau Dwyflynyddol (enghraifft)
Llwybr Cymeradwyo drwy'r Weithrediaeth
Llwybr Cymeradwyo heb fynyd drwy'r Weithrediaeth
- Llwybr Cymeradwyo heb fynd drwy’r Weithrediaeth – llifsiart
- SDF 2 Llwybr Cymeradwyo heb fynd drwy’r Weithrediaeth
- SDF4 Llwybr Cymeradwyaeth Di-Weithrediaeth – Cyd-Anrhydedd neu Brif-Bwnc/Is-Bwnc newydd
Mân Newid Neu Ad-Drefnu
Tynnu yn ôl, Atal dros Dro, a Newid Teitlau Cynlluniau Gradd
Allanol
Manyleb Rhaglen
- SDF9.1 - Manyleb Rhaglen yn Cynnwys Mapio Canlyniadau Dysgu
- SDF9.2 Templed Manyleb Rhaglen I Gynlluniau Rhyng-gwrs (gyda blwyddyn integredig yn astudio dramor)
- SDF9.3 - Templed Manyleb Rhaglen i Gynlluniau Rhyng-Gwrs (Gyda blwyddyn Integredig yn astudio dramor)