Sefydlu Blog Newydd
-
Penderfynwch a yw hwn yn flog personol ynteu’n flog grŵp
Yn gyntaf bydd angen i chi ystyried pwy fydd yn blogio – ai chi yn unig ynteu a fydd nifer o flogwyr?
Os mai chi’n unig fydd yn blogio, rhowch wybod i ni ar blogging@aber.ac.uk ac fe baratown y blog ar eich cyfer.
-
Galluogi blogio
I greu eich blog, bydd angen i chi alluogi blogio ar gyfer cyfrif hwnnw. Ewch i’r cyfeiriad canlynol a mewngofnodi: https://myaccount.aber.ac.uk/protected/permsets/
Ar ôl mewngofnodi, dylech weld sgrin fel hon:
Cliciwch y botwm Ychwanegu yn y rhes wordpress i alluogi blogio ar gyfer y cyfrif hwn.
Bydd y dudalen yn adnewyddu a bellach bydd y botwm Ychwanegu’n troi’n fotwm Diddymu pe baech yn dymuno analluogi blogio ar gyfer y cyfrif hwn yn y dyfodol.
ARHOSWCH AM O LEIAF 30 MUNUD CYN CEISIO MYND YMLAEN GAN FOD OEDI RHWNG CLICIO’R BOTWM YCHWANEGU A GALLUOGI EICH BLOG.
-
Sefydlu cychwynnol
Nawr ewch i’r cyfeiriad canlynol i gael eich blog newydd (gan newid USERNAME i enw defnyddiwr y cyfrif rydych chi wedi’i ddewis ar gyfer eich blog): http://wordpress.aber.ac.uk/USERNAME
Os byddwch wedi aros digon hir dylech weld bod gennych flog! Os nad yw yno, fe welwch flog diofyn gyda’r neges hon:
A thybio eich bod wedi aros digon hir, dylech weld bod gennych flog yn dangos postiad prawf. Sgroliwch i lawr ychydig at y ddolen Mewngofnodi ar y dde ar y gwaelod - cliciwch hwn. Os na allwch chi ddod o hyd i ddolen mewngofnodi, ewch i far cyfeiriad eich porwr ac ychwanegwch 'wp-admin' at ddiwedd y cyfeiriad gwe e.e. http://wordpress.aber.ac.uk/USERNAME/wp-admin
Nawr fe welwch eich ‘Dangosfwrdd’ gyda neges groeso:
-
Gosodiadau Golygu
Cyn dechrau ysgrifennu cofnodion ar eich blog efallai y bydd angen i chi newid y gosodiadau golygu. Oherwydd nam bach yn Wordpress, yn ddiofyn mae’n dangos y golygydd HTML yn unig yn hytrach na rhoi dewis i chi rhwng Golygyddion HTML a Visual (WYSIWYG). Os nad ydych chi’n gyfforddus yn ysgrifennu cofnodion yn defnyddio Golygydd HTML bydd angen i chi ddilyn y camau cyflym canlynol (er eu bod yn teimlo’n groes graen):
- Cliciwch ar eich enw ar frig y sgrin ar yr ochr dde – aiff hwn â chi at eich tudalen golygu proffil
- Ticiwch y blwch ar y brig “Analluogi’r golygydd Visual wrth ysgrifennu”
- Sgroliwch i lawr a chliciwch “Diweddaru Proffil”
- Nawr dad-diciwch y blwch rydych chi newydd ei dicio a chliciwch “Diweddaru Proffil” eto
Dylai hyn atgyweirio’r nam golygu a phan fyddwch chi’n creu cofnod blog newydd dylai fod gennych chi 2 dab ar gael ar gyfer Golygyddion Visual ac HTML
-
Newid cyfeiriad eich Blog
Os ydych chi wedi creu blog ar gyfer grŵp, gan ddefnyddio cyfrif ‘blwch post cyffredin’, gallech ganfod nad yw’r cyfeiriad blog arferol sy’n cynnwys enw’r cyfrif (e.e. wordpress.aber.ac.uk/wwwstaff/) yn ddelfrydol. Os ydych chi yn y sefyllfa hon ac y byddai’n well gennych gael enw eich grŵp yn y cyfeiriad yn lle enw’r cyfrif swyddfa (e.e. wordpress.aber.ac.uk/webteam/), yna ebostiwch blogging@aber.ac.uk gan roi cyfeiriad cyfredol y blog a’r cyfeiriad yr hoffech ei gael.
-
Iaith y Blog
Mae modd newid yr iaith ar eich blog i Gymraeg – bydd hyn yn effeithio ar y rhyngwyneb golygu a’r blog ei hun. I wneud hyn:
- Cliciwch ar Gosodiadau yn y ddewislen ar y chwith
- Yr opsiwn olaf ar Gosodiadau Cyffredinol yw “Iaith y Safle” – dewiswch Cymraeg o’r gwymplen a chliciwch “Cadw Newidiadau” i orffen.
Os ydych chi am i’r blog fod yn ddwyieithog, mae plugin ar gael (qTranslate-X) fydd yn caniatáu i chi wneud hyn. Cysylltwch â blogging@aber.ac.uk i ni allu eich helpu i’w sefydlu.
-
Thema’r Blog
Efallai y byddwch am newid thema eich blog. Mae modd gwneud hyn o dan "Gwedd" > "Themâu" yn y ddewislen ar y chwith yn y Dangosfwrdd. Mae’r thema’n rheoli golwg y blog, ac mae gennych chi ddewis o themâu Brand Aber 2, Dim Brand 2, Dim Brand UA, AU Llawn neu UA Ysgafn. Mae’r themâu heb frand yn addas i flogiau mwy personol lle’r ydych chi’n bwriadu mynegi eich barn bersonol ar bynciau. Mae’r themâu hyn yn cynnwys yr ymwadiad safonol mewn troednodyn. Mae’r themâu eraill wedi’u brandio. Dylid defnyddio’r themâu hyn os ydych chi’n blogio’n swyddogol. Dewiswch y thema sy’n briodol i natur eich blog. Gallwch addasu’r themâu drwy newid y lliw cefndir a delwedd y pennawd os ydych chi’n dymuno gwneud.
-
Dechrau blogio
I roi darn newydd ar eich blog, gallwch naill ai rhoi'ch llygoden dros "+ Ychwanegu" ar y bar du ar frig y tudalen a dewis "cofnod", neu roi'ch llygoden dros "Cofnodion", ar y ddewislen ar y chwith a dewis "Ychwanegu".
Gallwch hefyd greu tudalennau sefydlog (tudalen 'Amdanaf i', er enghraifft). I greu tudalen, gallwch naill ai roi'ch llygoden dros "+ Ychwanegu" yn y bar llwyd ar y brig a dewiswch "Tudalen", neu roi'ch llygod dros "Tudalennau" ar y ddewislen ar y chwith a dewiswch "Ychwanegu".