Ceisiadau i Flogio gan Fyfyrwyr

Gall myfyrwyr gael blog ar rwydwaith WordPress y Brifysgol, ond rhaid i aelod o’r staff gael ei enwebu i gymeradwyo’r cais ac i fod yn gyfrifol am ymddygiad y myfyriwr sy’n defnyddio’r blog.

Sicrhewch eich bod wedi darllen Rheoliadau’r Gwasanaethau Gwybodaeth cyn ichi wneud cais am flog.

Cysylltir â’r sawl sydd wedi’i enwi ar y ffurflen i gymeradwyo’r cais cyn i’ch blog gael ei greu.

Cofiwch mai dim ond at ddibenion eich astudiaethau y dylech ddefnyddio'ch blog.

Ffurflen Gwneud Cais am Flog gan Fyfyrwyr