Gosod Safle WordPress Newydd

1. Penderfynwch a yw hwn yn safle/blog personol neu'n safle/blog grŵp

Yn gyntaf, bydd angen i chi ystyried pwy fydd yn gwneud y golygu – ai chi yn unig fydd yn gwneud neu a fydd nifer o ddefnyddwyr?

Os mai dim ond chi fydd yn gwneud, bydd angen i chi gofrestru ar gyfer y gwasanaeth gyda’ch manylion mewngofnodi (symudwch ymlaen i'r cam nesaf yn y rhestr hon).

Os yw'n mynd i fod yn dîm o ddefnyddwyr, llenwch y Ffurflen Gais Safle WordPress a byddwn yn gosod y safle ar eich cyfer. Nid oes angen i chi barhau i fynd i lawr y rhestr hon.

2. Galluogi blogio

I greu eich safle WordPress personol, bydd angen i chi ei alluogi ar gyfer eich manylion mewngofnodi. Ewch i'r cyfeiriad canlynol a mewngofnodwch: https://myaccount-int.aber.ac.uk/protected/restricted/permsets/ 

Sgroliwch i lawr yr adran 'Service Features on my own account'.

Cliciwch ar y botwm ‘Add’ yn rhes olaf y tabl, o dan y teitl 'Service Features on my own account'.

Bydd y dudalen yn adnewyddu ac yn awr mae'r botwm ‘Add’ yn troi'n fotwm ‘Remove’ os ydych am analluogi hyn yn ddiweddarach.

3. Gosodiad Cychwynnol

Ar ôl aros o leiaf 30 munud, ewch i’r cyfeiriad canlynol i gael mynediad i'ch safle WordPress newydd (gan roi eich enw defnyddiwr eich hun yn lle enw defnyddiwr ): http://wordpress.aber.ac.uk/enw defnyddiwr/wp-admin

Bydd angen i chi fewngofnodi yma i weld dangosfwrdd WordPress.

Pan fyddwch yn mewngofnodi am y tro cyntaf, efallai y bydd nifer o negeseuon ar frig y dangosfwrdd:

  • Polylang request for rating - anwybyddwch a chliciwch ar y x i gau
  • Activate Lingotek - anwybyddwch a chliciwch ar y x i gau
  • Welcome to Polylang - os byddwch yn creu safle dwyieithog, cliciwch ar y botwm 'Run the Setup Wizard'. Fel arall, anwybyddwch a chliciwch ar y x i gau
  • Jetpack - mae hyn yn ychwanegu nodweddion defnyddiol ond mae angen ei osod yn ganolog, gallwch gau'r blwch i'w symud allan o'r ffordd a gofyn i ni i'w alluogi i chi

4. Gosodiadau Golygydd

Cyn i chi ddechrau ysgrifennu negeseuon blog, efallai y bydd angen i chi newid gosodiadau'r golygydd. Oherwydd problem fach yn Wordpress, efallai na allwch ddefnyddio'r golygydd bloc yn iawn. I drwsio hyn, cymerwch y camau cyflym (braidd yn groes i’r graen) canlynol:

  1. Cliciwch ar eich enw yng nghornel dde uchaf y sgrin – bydd hyn yn mynd â chi i'ch tudalen golygu proffil
  2. Ticiwch y blwch ar y brig sy’n dweud "Disable the visual editor when writing"
  3. Ychwanegwch Lysenw, eich enw cyntaf fel arfer, ond chi sy'n penderfynu ar hyn
  4. Sgroliwch i lawr a chliciwch ar "Update Profile"
  5. Pan fydd hyn wedi cadw, tynnwch y tic o’r blwch rydych chi newydd ei dicio a chliciwch ar "Update Profile” eto.

Dylai hyn nawr drwsio’r broblem yn y golygydd a phan fyddwch yn mynd i greu neges newydd dylech allu defnyddio'r golygydd bloc.

5. Newid cyfeiriad eich safle

Os ydych am i'ch gwefan fod mewn cyfeiriad gwe gwahanol cysylltwch â ni gan roi cyfeiriad presennol y safle a'r cyfeiriad yr hoffech iddi ei chael. Rhaid i'r cyfeiriad gwe bob amser ddechrau gyda wordpress.aber.ac.uk.

6. Iaith y Safle

Mae modd newid yr iaith a ddefnyddir ar gyfer eich safle i'r Gymraeg - bydd hyn yn effeithio ar y rhyngwyneb golygu a'r blog ei hun. I wneud hyn:

  1. ⁠Cliciwch ar Settings yn y ddewislen ar y chwith.
  2. Ar yr opsiwn Site Language, dewiswch Cymraeg o'r gwymplen
  3. Sgroliwch i lawr a chliciwch ar "Save Changes" i orffen.

Os hoffech gael safle dwyieithog, mae ategyn ar gael (Polylang) a all eich helpu i wneud hyn. Cysylltwch â ni os oes arnoch angen help i osod hyn. Bydd taflen wybodaeth ar ddefnyddio Polylang ar gael yn fuan.

7. Thema'r Safle

Efallai yr hoffech newid thema eich safle. Mae hwn ar gael o dan 'Appearance' > 'Themes' yn newislen chwith y Dangosfwrdd. Mae'r thema'n rheoli ymddangosiad y safle, ac mae gennych ddewis o sawl thema wedi'u gosod.

Dewiswch y thema briodol ar gyfer natur eich safle. Gallwch addasu'r themâu drwy newid lliw y cefndir a delwedd y pennawd os dymunwch.

8. Ychwanegu Cynnwys

I greu blog, gallwch naill ai roi eich llygoden dros "+ New" yn y bar du ar frig y dudalen a dewis 'Post', neu yn y dangosfwrdd rhowch eich llygoden dros "Posts" yn y ddewislen chwith a dewiswch 'Add New'.

Gallwch hefyd greu tudalennau statig. I greu tudalen, gallwch naill ai roi eich llygoden dros "+ New" yn y bar du ar frig y dudalen a dewis 'Page', neu yn y dangosfwrdd rhowch eich llygoden dros "Pages" yn y ddewislen chwith a dewiswch 'Add New'.